Bydd Penwythnos Animeiddio Caerdydd yn arddangos rhaglen fywiog a hybrid o animeiddiadau hiraethus, clasuron cwlt, a pherlau newydd sbon. Ar draws dangosiadau, sgyrsiau, gweithdai, a digwyddiadau cymdeithasol, gall cynulleidfaoedd fwynhau ffilmiau gyda’i gilydd, cymryd rhan mewn trafodaethau, treulio amser yn ailgysylltu, cwrdd â ffrindiau newydd, a chael hwyl.