Bord gron Beacons gyda Ffilm Cymru a Culture Connect Wales
Ymunwch â’r bord gron yma, sy’n rhad ac am ddim, i ddarganfod rhagor am Beacons, fydd yn ail-agor i dderbyn ceisiadau ar hyn o bryd tan Mehefin 27ain.
Mae Cronfa Ffilmiau Byr Beacons yn cael ei rhedeg yn flynyddol gan Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru. Mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang gan ffilmwyr sy’n dod o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.
Cewch awgrymiadau am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn cais ar gyfer Cronfa Beacons, a sut mae sicrhau bod eich cais chi’n sefyll allan ac wedyn bydd cyfle i chi holi cwestiynau.
Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilm i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr sydd wedi eu cynhyrchu drwy'r cynllun wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrau, wedi eu darlledu ar BBC Cymru a’r C4. Mae rhagor o wybodaeth am Beacons ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu anghenion mynediad, cysylltwch âg Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 02922 676711 i drafod yn gyfrinachol.