Ffilmiau nodwedd newydd o gymru sy’n cael eu datblygu gyda Ffilm Cymru Wales
Mae’r asiantaeth datblygu ffilmiau yng Nghymru wedi buddsoddi £253,260 pellach o arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu ffilmiau nodwedd newydd gan awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru.
Mae'r gyfres o ffilmiau eleni yn cyflwyno amrywiaeth gyffrous o leisiau o gymuned greadigol Cymru wrth iddyn nhw adrodd straeon grymus mewn sawl iaith ar draws animeiddiadau, ffilmiau dogfen a ffuglen actio byw.
Wrth gyflwyno'r prosiectau newydd i restr ddatblygu Ffilm Cymru Wales, meddai Jessica Cobham-Dineen, Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu: “Mae’r gyfres ddiweddaraf hon o wobrau yn tynnu sylw at yr arloesedd a’r dalent sydd yng Nghymru. Mae pob stori yn cynnig rhywbeth newydd, boed yn safbwynt, yn llais, neu'n arddull. Rydyn ni’n arbennig o falch o weld y gwneuthurwyr ffilmiau Nia Alavezos, Emily Burnett, Ioan Morris a Ray Wilson yn datblygu eu ffilmiau nodwedd cyntaf ar ôl symud ymlaen o Beacons, ein cynllun ffilmiau byrion.”
Mae Cyllid Datblygu 2025 Ffilm Cymru Wales wedi’i ddyfarnu i:
A Picture Tells a Thousand Lies
Ffilm Ddogfen. Brad diwylliannol y ddelwedd fel ffynhonnell wirionedd, a ffugiadau eraill.
Cyfarwyddwr: Rob Alexander
Cynhyrchwyr: Rob Alexander, Ian Davies, Ari Matikainen
Arcana
Ffilm Eco-Gyffro. Pan mae merch amheugar yn ei harddegau yn mynd i ŵyl ysbrydol, mae hi'n cwrdd â chymeriadau 'tarot', sy'n pylu llinellau realiti, gan herio ei difaterwch tuag at ddyfodol y dref.
Awdur-Gyfarwyddwr: Katie Bonham
Cynhyrchydd: Ray Wilson
Cynhyrchydd Gweithredol: Samantha O’Rourke
Are You Nervous?
Drama. Mae Sasha, merch uchel ei chloch bedair ar ddeg oed, a'i nain, dynes ddi-lol hanner cant ac wyth oed, ill dwy yn cychwyn ar daith ddryslyd a bregus o hawlio eu rhywioldeb.
Awdur: Bethan Marlow
Cyfarwyddwr: Amy Hodge
Cynhyrchydd: Oriane Pick
Bad Form
Drama. Gyda'i merch ifanc yn cael ei bwlio'n ddi-baid am ei hymddangosiad, mae ei mam - llawfeddyg plastig uchel ei pharch - yn ei chael ei hun mewn penbleth foesol gymhleth. Prawf o gysyniad yw hwn i gefnogi datblygiad prosiect nodwedd Alys Metcalf, Little Rock.
Awdur-Gyfarwyddwr: Alys Metcalf
Cynhyrchydd: Andrew Bendel
Cast: Jamie Bamber a Kerry Norton
Beach Body
Drama Gomedi. Mae morforwyn, sydd wedi'i dal yn ei chorff dynol mewn parti llawn galar a gwadu meddw, yn ceisio dod o hyd i iachâd i’r cyflwr dynol.
Awdur: Toby Parker Rees
Cynhyrchwyr: Ray Wilson, Katie Bonham
Cynhyrchydd Gweithredol: Samantha O’Rourke
Brando's Bride
Drama. Yn Hollywood y 1950au, mae seren ifanc o India yn priodi seren ffilm enwocaf y byd, ond mae ei bywyd hudolus yn chwalu pan gaiff ei ddatgelu mai twyll ydyw.
Awdur: Gurpreet Kaur Bhatti
Cyfarwyddwr: Aisling Walsh
Cynhyrchwyr: Bethan Jones, Sarah Broughton
Cranogwen
Bywgraffiad rhamantus. Yng Nghymru Fictorianaidd, mae merch ifanc ddewr yn mynd yn groes i'r graen.
Awdur: Casi Wyn
Cynhyrchydd: Catrin Cooper
Diwedd Y Byd
Comedi arswyd yn y Gymraeg. Mae mam afradlon a'i mab yn ceisio cymodi, ond mae sombïod yn dod rhyngddyn nhw.
Awdur: Rolant Tomos
Ghosts Of Yesterday
Animeiddiad realistig hudolus. A fyddech chi'n peryglu'r cyfan pe gallech chi deithio yn ôl mewn amser a siarad â rhywun o'ch gorffennol?
Awdur-Gyfarwyddwr: Nia Alavezos
Cynhyrchydd: Allissoon Lockhart
Grown Girl
Drama dod i oed. A hwy eu dwy yn hoff o hen ffilmiau Hollywood, mae dwy 'ferch Ddu' o Gymru yn dod o hyd i’w ffordd drwy’r arddegau, rhyw, cariad a'u cyfeillgarwch unigryw mewn maestref dosbarth canol Gwyn.
Awdur-Gyfarwyddwr: Emily Burnett
Cynhyrchydd: Nan Davies
Hollywood Ending
Comedi. Mae ffilm fer myfyriwr ysgol ffilm, sy’n seiliedig ar stori wir, yn gwneud glanhawr ysgol yn enwog ar ddamwain, ond er bod y byd a'r myfyriwr yn hiraethu am stori Hollywoodaidd o godi o dlodi i gyfoeth, mae hi'n fodlon iawn ei byd fel ag y mae.
Awdur-Gyfarwyddwr: Sara Sugarman
I’r Gwyllt
Ffantasi yn y Gymraeg. Pan gaiff Cadi’r dasg o ysgrifennu stori, mae coedwig ddirgel yn ymddangos ar gyrion y dref sy'n aflonyddu'r gymuned.
Awdur: Brynach Higginson
Cynhyrchydd: Catrin Cooper
Iya
Drama amlieithog. Mae merch yn ei harddegau yn dod yn ffrindiau â milwr sydd wedi’i anafu ar dir gwyllt mewn ardal sydd wedi'i chwalu gan ryfel yn Cameroon ac yn dod o hyd i loches rhag y rhyfel hyd nes i ddieithryn peryglus ennyn amheuaeth, cenfigen, rhagfarn a thrais.
Awduron: Eric Ngalle Charles, Greg Lewis
Kuji
Drama. Stori wir ryfeddol Matthew Bevan - “KUJI” - bachgen yn ei arddegau o Gymru a haciodd y Pentagon wrth chwilio am dystiolaeth o fodau arallfydol, gan achosi iddo ffoi rhag yr FBI.
Awdur: Roger Williams
Cynhyrchydd: Kate Cook
Cynhyrchwyr Gweithredol: Nicola Pearcey, Bruce Goodison
Marmalade Is Missing
Ffantasi animeiddiedig. Mae perchennog clwb nos yn ceisio tanseilio ei gystadleuwyr trwy herwgipio eu seren.
Rhaid i Margo Monroe a'i ffrindiau carismatig ddilyn cliwiau i achub y dydd.
Awdur: Sam Beckbessinger
Cyfarwyddwr: James Nutting
Cynhyrchwyr: Amy Morris, Glen Biseker
Private Dai
Comedi noir. Pan mae David (Dai) Pennoyer, y cyn-garcharor a drodd yn dditectif preifat, yn dychwelyd i'w dref enedigol, daw wyneb yn wyneb â’i orffennol - mewn mwy nag un ffordd.
Awdur: Ioan Morris
Cynhyrchydd: Owen Lloyd Richards
White Out
Eco-antur. Hynt i ddatgelu olion anghofiedig Matthew Henson, yr archwiliwr du a wnaeth ddarganfod pegwn y gogledd ym 1909 ac, yn dawel, a newidiodd ein byd am byth.
Awdur: Richard Parks
Cynhyrchydd: Jasper Warry
Mae cymorth Ffilm Cymru Wales yn tywys awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr drwy’r broses ddatblygu, o’r driniaeth i’r drafft terfynol ac ariannu, gyda chyngor wedi’i deilwra a hyd at £50,000 o gyllid. Mae’r gronfa yn cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain trwy RWYDWAITH BFI.
Bydd cronfa datblygu ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales yn ailagor i dderbyn ceisiadau ym mis Ebrill 2026.