Arddangosfa Beacons & Chyfle i Rwydweithio
Digwyddiad rhad ac am ddim fydd yn dangos rhai o'r ffilmiau byrion a gwblhawyd yn ddiweddar trwy ein Cronfa Beacons, gan hefyd roi cyfle i wneuthurwyr ffilm newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg gwrdd â’i gilydd.
Mae Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni yn Chapter am noson o wylio ffilmiau byr ac i sgwrsio am wneud ffilm.
Rhaglen
18:00 – Dangosiad yn Sinema 2
19:00 – Diodydd a danteithion yn y Café Bar
Y ffilmiau fydd yn cael eu dangos:
Forest Coal Pit
Cyfarwyddwr: Siôn Marshall-Waters
Cynhyrchydd: Jessica Wheeler
Mae dau hen lanc, dau frawd oedrannus, yn byw ar fferm fechan yn Forest Coal Pit, De Cymru. Mae’r portread super 8mm hwn yn archwilio eu perthynas â’u cymuned fechan, leol - perthynas ddigon cyffredin, ond un sy’n fywiog ac annwyl hefyd.
Hyd: 15 munud
Jackdaw
Awdur a Chyfarwyddwr: Mac Nixon
Cynhyrchwyr: Ed Casey & Dan Bailey
Mae crwydryn mewn gwewyr ac yn llawn euogrwydd. Gall fod yn drugarog ac yn garedig i ddieithriaid, ond daw’r amser pan mae’n rhaid iddo wneud y dewis amhosibl i gadw addewid i’r person mae’n ei garu fwyaf.
Yn serennu: Sulé Rimi, Lauren Clarke, Valmai Jones
Hyd: 17 munud
Jelly
Awdur a Chyfarwyddwr: Samantha O’Rourke
Cynhyrchydd: Rachel Wilson, Alex Ashworth, Victoria Fleming
Mae Kerry wedi diflasu. Mae bywyd dyddiol y dref fechan hon yn ei mygu. Ond un diwrnod mae’n dianc ar hyd llwybr tanddaearol, llwybr llawn jeli, danteithion a gobaith.
Yn serennu: Non Haf, Rebecca Phasey
Hyd: 16 munud
Gwybodaeth ymarferol ynglŷn â’r digwyddiad
Sylwch na fydd ymbellhau cymdeithasol yn y digwyddiad hwn. Yn gyfreithiol nid oes rhaid defnyddio gorchuddion wyneb bellach, fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i'w gwisgo er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Ceir manylion llawn ynglŷn ag ymweld â Chapter, gan gynnwys unrhyw wybodaeth am Hygyrchedd a diogelwch Covid ar eu gwefan.
Os hoffech fynychu’r digwyddiad a bod gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.
Ynglŷn â Beacons
Mae Cronfa Ffilm Fer Beacons ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd tan ddydd Mawrth 5ed Gorffennaf 2022. Caiff ei chynnal mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales gan ddarparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, cyfleoedd hyfforddi a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilm i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd trwy'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus mewn gwyliau, gan ennill nifer o wobrau, ac wedi cael eu darlledu ar BBC Cymru a'u rhyddhau ar iPlayer.
Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim a chyfarfodydd 1-i-1 y gellir eu harchebu gyda'n tîm os y teimlwch y byddech yn elwa o gael rhagor o arweiniad. Gallwch hefyd ddilyn RHWYDWAITH BFI Cymru ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.