Ffilm cymru yn cwrdd â… Gaz Bailey a Nia Edwards-Behi
Yn ein cyfres newydd o fideos, byddwn yn eich cyflwyno i rai o’r bobl a’r sefydliadau sy’n rhan o gymuned greadigol fywiog ac amrywiol Cymru.
Bob pennod, cawn glywed gan wneuthurwr ffilmiau, arddangoswr, addysgwr neu hyfforddai a fydd yn sôn wrthym ni am eu gwaith yn diwydiant ffilmiau Cymru, eu dyheadau, a sut mae cyllid Ffilm Cymru wedi cynorthwyo eu huchelgeisiau creadigol.
Yn y bennod ddiweddaraf o'n cyfres, buom yn sgwrsio â chyfarwyddwyr Gŵyl Arswyd Rhyngwladol Abertoir Gaz Bailey a Nia Edwards-Behi am sut dechreuodd yr ŵyl, sut gwnaeth Ffilm Cymru eu helpu i addasu yn ystod y pandemig, a'r hyn y maent yn ei garu am ffilmiau arswyd.
Mae Gŵyl Arswyd Abertoir yn cael ei chynnal Tachwedd 2-7 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a bydd rhan rithiol i’r ŵyl yn digwydd 12-14 Tachwedd.