Gŵyl Arswyd Abertoir yn tyfu fyny gyda 18fed rhifyn yr ŵyl wedi gwerthu allan yn barod
Gan nodi’r achlysur gyda ffocws ar “18” a dod o oed fel ffan arswyd, bydd yr ŵyl yn dathlu rhai o glasuron cwlt gorau y genre ac yn llwyfannu cyflwyniadau hynod ddiddorol gan arbenigwyr yn y diwydiant ar ddosbarthu a t h ystysgrifi o ffilmiau arswyd.
“Mae tro i’n 18 yn garreg filltir symbolaidd ar gyfer gŵyl sy’n ymroddedig i arswyd,” meddai cyfarwyddwr yr ŵyl Gaz Bailey. “Fel ffans arswyd, rydyn ni i gyd yn cofio’r ffilmiau hynny â t h ystysgrif oed 18 a welsom fel pobl ifanc, pan nad oeddem i fod i’w gweld!”
Bydd clasuron cwlt ‘18’ fel The Exorcist a Ganja a Hess yn dangos yn yr ŵyl, fel y bydd House on the Edge of the Park, ffilm ddadleuol a basiwyd heb unrhyw doriadau am y tro cyntaf yn y DU ’r llynedd. Bydd y ffilm yn cael ei dangos er anrhydedd i Giovanni L ombardo Radice, a fu farw ym mis Ebrill ac a oedd fod i fynychu'r ŵyl fel gwestai anrhydeddus.
Hefyd yn derbyn dangosiad prin yn y DU fydd Vice Squad, gyda’r cyfarwyddwr Gary Sherman yn bresennol. Nid yw Vice Squad erioed wedi bod ar gael ar fideo cartref ers ei ryddhad sinema gwreiddiol a oedd wedi'i sensro dros 40 mlynedd yn ôl.
Bydd Sherman hefyd yn cyflwyno prosiect newydd sbon ochr yn ochr â’r awdur Jeremy Dyson (Ghost Stories). Mae’r prosiect mor newydd ei fod o’n gyfrinachol o hyd! Ychwanegodd Ga z, “Mae Gary yn ffrind da i’r ŵyl ac rydym yn falch iawn o allu croesawu Jeremy Dyson i ymuno â ni am y tro cyntaf hefyd. Mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn hynod gyffrous, a chawsom ein syfrdanu pan ddywedwyd wrthym am ei fodolaeth. Ni allwn aros i ddadorch uddio prosiect mor gyffrous i’n cynulleidfa gan gysylltu’n ôl â digwyddiadau mewn gwyliau blaenorol, ac edrych i’r dyfodol hefyd.”
Yn ganolog i’r ŵyl, fel yr arfer , mae dangosiadau cyntaf yng Nghy mru o rai o ffilmiau arswyd mwyaf disgwyliedig eleni. Mae’ r rhain yn cynnwys y ffi lm heriol a t h ywyll Red Rooms, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn ddiweddar yng Ngŵyl Ffilm BFI Llundain; Raging Grace, ffilm gothig modern sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd gwyliau ledled y byd eleni; a hyfrydwch y ffantasi Tiger Stripes, ffilm gyntaf y cyfarwyddwr Amanda Nell Eu, o Falaysia.
Ychwanegodd cyd gyfarwyddwr yr ŵyl, Nia Edwards Behi, “rydym wedi cyffroi’n lân ag ehangder yr arswyd sy dd i’w gael yn yr ŵyl eleni o ail ddych y myg iad trippy o stori arwr i nunsploitation newydd sbon!” She Is Conann yw ffilm ddiweddaraf y gwneuthurwr ffilmiau arbrofol Bertrand Mandico, ac mae Auxilio: The Power of Sin gan y cyfarwyddwr o’r Ariannin, Tamae Garateguy, yn ddarn cyfnod gwefreiddiol wedi’i osod mewn lleiandy.
Wrth droi’n 18 oed, rhaid cael parti mae dangosiad blynyddol oddi ar y safle enwog Abertoir yn dychwelyd gyda dangosiad arbennig i ddathlu 25 mlynedd o Blade, fydd yn cael ei gynn al yng nghlwb nos Pier Pressure. “Allwn ni ddim addo ‘rêf gwaed’ fel yn y ffilm,” meddai Nia, “ond mae gennym ni syrpreisys ar y gweill ac ôl barti!”
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys sioeau arbennig gan y darlledwr Robin Ince, y gystadleuaeth ffilm iau by r ion b lynyddol, a dathliad o arswyd Cymreig.
Cynhelir Gŵyl Arswyd Abertoir yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 14 19 Tachwedd 2023. I’r rhai na allant gyrraedd Aberystwyth, cynhelir Abertoir Choice Cuts ar Aberystwyth, cynhelir Abertoir Choice Cuts ar-lein, 25lein, 25--26 Tachwedd, gyda26 Tachwedd, gyda rhai rhai uchafbwynuchafbwyntiau’r prif tiau’r prif ddigwyddiad.