Filmarket Hub ac EIFF yn lansio digwyddiad cyflwyno rhithwir newydd i dalent Celtaidd
Mae platfform Filmarket Hub a Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin wedi lansio’r Celtic Screen Talent Showcase – digwyddiad cyflwyno rhithwir yn arbennig ar gyfer ffilmiau nodwedd a chyfresi wedi’u sgriptio sy’n cael eu datblygu gan dalent o’r chwech o wledydd Celtaidd. Bydd yr alwad am gyflwyniadau yn agored hyd at 24ain Mehefin.
Nod y fenter newydd sbon hon yw darganfod prosiectau o ansawdd uchel heb eu cynhyrchu o’r rhanbarthau Celtaidd a’u paru â chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant rhyngwladol. Mae swyddogion gweithredol o CrossDay Productions, Curzon, Gaumont, Endor Productions, Great Point Media, Head Gear Films, NBCUniversal International Scripted a Red Arrow Studios wedi cadarnhau y byddant yn bresennol.
Caiff y digwyddiad ei gynnal ar-lein ar 5ed a 6ed Awst fel rhan o weithgarwch y diwydiant yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin. Bydd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar ffilmiau nodwedd a’r ail ddiwrnod yn gyfle i arddangos cyfresi wedi’u sgriptio.
Mae’r ceisiadau nawr ar agor i brosiectau sydd naill ai ar gam y sgript neu â rhywfaint o gyllid wedi’i sicrhau, a hynny o’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Cernyw, Ynys Manaw neu Lydaw. Caiff cynrychiolwyr y prosiectau a ddewisir y cyfle i gyflwyno eu prosiect a chwrdd â phob un o’r swyddogion gweithredol mewn cyfarfodydd un i un.
Mae’r Celtic Screen Talent Showcase yn cael ei gynorthwyo gan Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI, gan ddyrannu arian y Loteri Genedlaethol, Sgrin Gogledd Iwerddon, Sgrin Iwerddon, Sgrin yr Alban a Sgrin Cernyw.