Gweminar Beacons: Ffilmiau Dogfen
Ydych chi’n creu ffilmiau dogfen, wedi eich geni neu’n seiliedig yng Nghymru, ac yn dyheu i greu eich campwaith cyntaf o ffilm fer wedi’i hariannu gan y diwydiant? Neu efallai bod gennych rywfaint o brofiad ym maes ffeithiol, neu mewn maes creadigol arall, ac yn dymuno croesi i fyd ffilmiau dogfen sinematig?
Ymunwch â Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru i gael gwybod mwy am gronfa ffilmiau byr Beacons, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales ac a fydd yn ailagor i dderbyn ceisiadau ym mis Ebrill 2021.
Yn ystod y weminar am ddim yma, cawn gwmni gwesteion arbennig, y gwneuthurwyr ffilmiau Jay Bedwani ac Angela Clarke, a fydd yn rhannu eu profiadau eu hunain o greu ffilmiau dogfen byr. Cawn glywed hefyd am fenter newydd gyffrous One Stop Doc Shop, sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau i rai sy’n dyheu i greu ffilmiau dogfen.
Bydd wedyn gennych y cyfle i ddysgu mwy am Beacons, a chael cyngor ar sut i wneud i’ch cais sefyll allan. Bydd sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y digwyddiad.
Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd drwy’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus mewn gwyliau ffilmiau gan ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru a’u rhyddhau ar iPlayer. Cewch wybod mwy am Beacons fan yma.
Noder ein bod yn cynnal digwyddiadau pellach sy’n canolbwyntio’n benodol ar Animeiddio a Ffuglen Gweithredu Byw. Fe’ch gwahoddwn i gofrestru i’r digwyddiad y teimlwch sydd fwyaf perthnasol i chi – wrth gwrs, mae croeso i chi gofrestru i sawl sesiwn wahanol.
Ynglŷn â’n gwesteion arbennig
Jay Bedwani
Mae Jay yn wneuthurwr ffilmiau sy’n seiliedig yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau ac mae’n arbenigo mewn ffilmiau dogfen wedi’u harwain gan gymeriadau. Mae ei ffilmiau byr wedi’u dangos mewn mwy na 50 o wyliau ffilmiau rhyngwladol, ac enillodd MY MOTHER Wobr Ffilm Fer Orau’r DU yng ngŵyl ffilmiau LGBT fwyaf Ewrop, Gwobr Iris, a’i dethol ar gyfer Ffilm Fer y Mis, BFI Postroom. Yn 2018, cafodd ei ffilm OVERSHARE ei dangos am y tro cyntaf yn yr O2 Arena yn Llundain, cyn mynd ar daith o amgylch theatrau yn y DU lle gwerthwyd pob tocyn. Dangoswyd ei ffilm fer ddiwethaf, STRETCH, yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, ac enillodd wobr y Ffilm Fer Orau yng Ngŵyl Ddogfen Ryngwladol Cymru. Gwnaeth Jay hyfforddi gyda’r Scottish Documentary Institute, Ffilm Cymru, British Council, BFI ac NFTS, ac roedd yn aelod o Griw BAFTA 2018-2020. Yn ddiweddar, derbyniodd Jay Wobr John Brabourne am Ffilm a Theledu.
Angela Clarke
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd yw Angela, a chafodd ei ffilm ddogfen fer annibynnol BACHELOR, 38 ei dethol i restr fer gwobrau Ffilm Brydeinig a Ffilm Ryngwladol Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Gwobr Iris yn 2018, a’i henwebu am Ffilm Fer Brydeinig Orau yng Ngwobrau BAFTA 2019. Mae gan Angela brofiad llwyddiannus ym maes ffilmiau dogfennau ffeithiol, ar ôl treulio’r 16 mlynedd diwethaf yn gynhyrchydd gweithredol, yn cyfarwyddo ac yn datblygu ar lawer o gynnwys ffeithiol i ddarlledwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Ar ôl arwain ar Ddatblygu i Avanti Media am ddwy flynedd, gadawodd i sefydlu ei chwmni ei hun, Wheesht Films. Ar ôl ffilmio mewn llawer o leoliadau heriol ledled y byd, mae Angela yn fedrus ar reoli cynyrchiadau mawr, gweithio gyda thalent, a sicrhau a chyflawni mynediad sensitif. Mae Angela ar waith â datblygu dwy ffilm fer ychwanegol, ac mae’n awyddus i archwilio byd Realiti Rhithwir.