Taith Ryfeddol Georgina o amgylch Sinemâu Cymru
Eleni, mae Georgina, ein Swyddog Cynulleidfa Gweithredol, yn teithio ar drên o amgylch Cymru i ymweld â rhai o'r sinemâu a'r gwyliau ffilm gwych sy’n perthyn i ni.
Yn gyntaf aeth draw i’r Canolbarth i Ŵyl Ffilm WOW yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac wedyn i sinema’r Magic Lantern yn Nhywyn. Gwyliwch y fideo isod i gael rhagor o wybodaeth am WOW yng nghwmni Annita a Nia, a dewch nôl eto’r wythnos nesaf i weld yr ail bennod.
Yn y bennod ddiweddaraf o Daith Ryfeddol Georgina o amgylch Sinemâu Cymru, mae rhai o’r trigolion lleol yn egluro pa mor bwysig yw sinema’r Magic Lantern, Tywyn i’w cymuned.
Mae pennod yr wythnos hon o Daith Ryfeddol Georgina o amgylch Sinemâu Cymru yn mynd a hi i’r Rhyl i gael golwg ar stiwdios ffilm newydd Wicked Wales.
Yn y bennod ddiweddaraf o Daith Ryfeddol Georgina o amgylch Sinemâu Cymru mae’n ymweld â’r Neuadd Lês yn Ystradgynlais i ddysgu sut mae’r lleoliad wedi bod yn cynnig lle creadigol a chefnogol i bawb yn y gymuned ers degawdau.
Gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru yn darparu cymorth i alluogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddiddanu ac ysbrydoli pobl ar hyd a lled y wlad â mwy o ddewis o ffilmiau. Mae rownd bresennol Cyllid Arddangoswyr Ffilmiau Ffilm Cymru ar agor nawr.