Sesiynau 1:1 Beacons
Mae'r sesiynau un-i-un anffurfiol hyn ar gael i wneuthurwyr ffilmiau sy'n chwilio am arweiniad penodol wrth wneud cais i gronfa ffilmiau byrion Beacons.
Mae’r sesiynau’n para hyd at 30 munud ac yn cael eu cynnal dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth ymlaen llaw. Ni fydd ein tîm yn gallu adolygu deunyddiau’r cais, fel sgriptiau, pitch decks neu gyllidebau. Ni allwn ddarparu unrhyw arweiniad golygyddol nac asesiad ymlaen llaw. Yn syml, dewch â'ch cwestiynau am y broses ymgeisio.
Gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael, noder:
- Cyn cofrestru, rydym yn argymell eich bod yn cymryd golwg ar y Canllawiau, y Cwestiynau Cyffredin a'r adnoddau pellach sydd ar gael ar ein gwefan. Efallai y bydd eich cwestiynau eisoes wedi’u hateb yn y dogfennau yma.
- Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael os ydych chi’n F/fyddar, â nam ar eich clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eich golwg. Cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn (gweler y manylion cyswllt ar ein gwefan) cyn gynted â phosibl i drafod eich gofynion yn gyfrinachol.
- Mae'r sesiynau un-i-un hyn ar gael i’r rhai nad ydyn nhw eisoes wedi cael sgwrs gyda thîm RHWYDWAITH BFI Cymru. Os ydych eisoes mewn cysylltiad â ni, anfonwch e-bost.
Cofrestrwch i archebu eich lle 2, 4 o 5 Mehefin: