Lleoliad Gwaith Cynhyrchydd dan Hyfforddiant
Mae Ffilm Cymru yn gwahodd ceisiadau am leoliad gwaith dan hyfforddiant â thâl yn gweithio fel cynhyrchydd dan hyfforddiant dros gyfnod rhyddhau'r ffilm ddogfen nodwedd Still Pushing Pineapples (Labour of Love Films / One Wave Film).
Dylai’r ymgeiswyr fod wedi'u lleoli neu wedi'u geni yng Nghymru.
Bydd y cynhyrchydd dan hyfforddiant yn gweithio gartref yn bennaf ac mae disgwyl y posibilrwydd o deithio o amgylch De Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r Cynhyrchwyr a'r tîm cynhyrchu am gyfanswm o 10 diwrnod. Mae'r ffilm wedi'i dewis i agor DocFest Sheffield ym mis Mehefin, ac yn ddelfrydol byddai'r ymgeisydd yn gallu gweithio 2-3 diwrnod yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl i baratoi ar gyfer y dangosiad cyntaf.
Byddai gweddill y lleoliad gwaith yn digwydd yn yr hydref o amgylch cyfnod rhyddhau'r ffilm mewn theatrau a byddai'n cynnwys gwaith yn ymwneud ag adeiladu cynulleidfaoedd, ymgyrchoedd ar lawr gwlad, a dosbarthu'r ffilm. Mae'r amserlen o ran dyddiau'r wythnos / dyddiau nad ydynt yn olynol yn hyblyg a gall hyn gael ei drafod yn ystod y cyfweliad.
Still Pushing Pineapples
Stori felancolaidd a theimladwy am gyn-ganwr y band pop Black Lace a'i daith ar y ffordd gyda'i bartner a’i fam sy'n heneiddio, wrth iddo geisio dod yn ôl i’r sîn.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynorthwyo'r Cynhyrchwyr ym mhob agwedd ar eu gwaith
- Cefnogi’r Cynhyrchwyr yn y cyfnod cyn DocFest Sheffield – helpu gyda’r rhestr westeion i’r dangosiad agoriadol a helpu i reoli logisteg dangos y ffilm
- Ymchwilio i gynulleidfaoedd
- Dod o hyd i bartneriaethau newydd, estyn allan at bobl i ymwneud â'r ffilm
- Helpu gyda strategaeth cyfryngau cymdeithasol er mwyn datblygu cynulleidfaoedd
- Helpu'r cynhyrchwyr i gynllunio digwyddiadau a dangosiadau gan gynnwys dod o hyd i leoliadau.
- Yn gallu gweithio'n annibynnol ac i derfynau amser.
Profiad a Sgiliau Angenrheidiol
- Dangos diddordeb/dealltwriaeth sylfaenol o greu ffilmiau dogfen
- Profiad blaenorol o gynhyrchu a/neu sgiliau trosglwyddadwy eraill
- Profiad o reoli digwyddiadau neu reoli prosiectau.
management.
Profiad Dymunol
- Trwydded yrru lawn lân a’ch cerbyd eich hun
- Profiad o weithio gyda’r cyfryngau cymdeithasol (creu asedau a/neu strategaeth)
Ffi
£1,000 (£100 y dydd, 10 diwrnod)
Nifer o ddiwrnodau gwaith
Diwrnodau gwaith hyblyg, tua 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos
Dyddiad Dechrau
w/c 9fed Mehefin 2025 (posibilrwydd o wythnos yn cychwyn 2il Mehefin os yw’r amseru’n caniatáu).
Sut i wneud cais
Anfonwch CV drwy e-bost ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy nag un dudalen) i Lottie Butcher - skills@ffilmcymruwales.com - yn amlinellu pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, pryd rydych ar gael a beth yw eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn y meini prawf uchod.
Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n f/Byddar, yn Anabl, yn niwroamrywiol, neu sydd yn colli eu golwg neu eu clyw, mae cymorth pellach ar gael i gwblhau cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12:00 22 Mai 2025
Cyfweliadau: 28 Mai – Zoom