a group of people sitting in a room watching a panel discussion

Ffilm Cymru Wales yn hybu hyfforddiant i wneuthurwyr ffilmiau

Mae'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru wedi cefnogi chwe phrosiect arall a fydd yn rhoi cyfleoedd datblygu gwerthfawr i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau nodwedd a dogfen sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru.

Gan gyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain trwy RWYDWAITH BFI, mae cronfa Connector Ffilm Cymru Wales yn cynorthwyo sefydliadau i gynnal hyfforddiant pwrpasol a gweithgarwch rhwydweithio ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau sydd wedi'u geni neu sy’n seiliedig yng Nghymru. Gall sefydliadau sydd â phrofiad yn y diwydiannau creadigol wneud cais am hyd at £10,000 i gefnogi digwyddiadau neu weithgarwch hyfforddi ar gyfer awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau sy'n uchelgeisiol, yn newydd neu'n dod i'r amlwg.

Drwy gronfa Connector, mae Ffilm Cymru Wales am gynorthwyo sefydliadau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych i ddatblygu talent, gan gydweithio hefyd â phobl a all ddod â phrofiad a syniadau newydd i waith yr asiantaeth ddatblygu. 

“Rydym yn falch o gynorthwyo ystod eang o brosiectau ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr,” meddai Tina Pasotra, Rheolwr Datblygu Talent Ffilm Cymru Wales. “Gall fod yn arbennig o heriol i dalent uwchben y llinell ddatblygu eu crefft yn gyson, yn enwedig gwneuthurwyr ffilmiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n wynebu nifer o achosion o gael eu gwthio i’r ymylon, a sefyllfaoedd sy’n cael eu gwaethygu ymhellach gan leoliad daearyddol.”

Y prosiectau diweddaraf a gafodd gyllid Connector yw: 

CineStiwt    

Bydd cwmni cynhyrchu Red Seam, mewn cydweithrediad â Minera Studios Cymru, yn cynnig cyfleoedd i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol ac sy’n dod i’r amlwg ym myd ffilmiau yn ardal Rhosllannerchrugog / Wrecsam. Bydd y rhaglen yn helpu cyfranogwyr i rannu eu straeon unigryw a helpu'r genhedlaeth nesaf o dalent ffilm i adeiladu diwydiant deinamig, lleol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Different Voices 2025    

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn partneru â Biggerhouse Film i helpu animeiddwyr niwroamrywiol sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru i ddatblygu eu syniadau creadigol a'u dealltwriaeth o'r diwydiant. Nod eu cyfres o weithdai a sesiynau mentora yw paratoi cyfranogwyr ar gyfer y camau nesaf o gynhyrchu, cyflogaeth a llwyfannu eu gwaith.

Documentary Pitch Deck & Presentation Training    

Bydd y rhaglen hon gan Wheesht Films yn cynnig cefnogaeth i wneuthurwyr ffilmiau dogfen uchelgeisiol, nad oes efallai ganddynt fynediad at gynhyrchydd profiadol, i'w helpu i ysgrifennu, cyflwyno a phitsio eu prosiectau. 

Film Networking Socials

Bydd Bulldozer Films yn parhau â'u cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol ledled Cymru gan helpu talent newydd ac amrywiol i ddod o hyd i’w lle yn y diwydiant ffilm. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys siaradwr gwadd - naill ai awdur, cynhyrchydd neu gyfarwyddwr - sy’n trafod eu gyrfaoedd ac yn rhannu cyngor ar sut y gwnaethon nhw ddod i mewn i’r diwydiant. Mae gwesteion blaenorol yn cynnwys Lee Haven Jones (Gwledd, Doctor Who), Philip John (Downton Abbey), Jodie Ashdown (Doctors), Catryn Ramasut (Brides) a Kieran Evans (Kelly + Victor).

FfilmSchool: The Future film School 

Wedi'i gynnal ym mhrosiect adfer fforestydd glaw Celtaidd a mawndiroedd ucheldirol Coetir Anian a fferm adfywiol Cefn Coch yn ardal afon Dyfi, bydd y gweithdy creu ffilmiau hwn yn addysgu sut i greu ffilmiau dogfen gan ganolbwyntio ar lesiant i’r dyfodol. Bydd yn ffafrio pobl sydd wedi'u rhwystro rhag cael mynediad at hyfforddiant o'r fath, a bydd llety a bwyd yn cael eu darparu. Mae’r FfilmSchool yn ymgais i ddysgu sut i greu ffilmiau dogfen sy'n addas ar gyfer llesiant meddyliol, cymdeithasol ac amgylcheddol cenedlaethau'r dyfodol.

The Writers Lab UK & EU 2025    

Mae'r rhaglen hon o ddatblygu sgriptiau a hyfforddiant yn y diwydiant yn ceisio gwella sgiliau, mynediad i'r diwydiant a chynaliadwyedd gyrfa i awduron sgrin sy’n fenywod ac yn anneuaidd, 40 oed a hŷn. Nod y labordy awduron yw gwella cyfleoedd yn y diwydiant trwy fentora, gweithdai ymhlith cymheiriaid, a dosbarthiadau meistr rhithwir sy'n cael eu hyrwyddo i'r gymuned creu ffilmiau ehangach yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r siaradwyr a’r mentoriaid yn cynnwys Sally El Hosaini (Unicorns), Prano Bailey-Bond (Censor), Joy Gharoro-Akpojotor (Dreamers) a Gillian Anderson.