Cyfarfod â'n dirprwyaeth Docfest 2024
Y mis yma mae Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI Cymru yn mynd â phum gwneuthurwr ffilmiau dogfen newydd addawol i Sheffield DocFest.
Dewiswyd y cynrychiolwyr yn sgil cais agored ar sail eu gwaith creadigol rhagorol a'u huchelgais i ddatblygu eu gyrfa i gynnwys gwneud ffilmiau dogfen. Byddant yn mynychu’r ŵyl gyfan er mwyn dod i adnabod y diwydiant a chymryd rhan yn y rhaglenni amrywiol, gan elwa o gefnogaeth un-i-un gan Ffilm Cymru Wales, RHWYDWAITH BFI Cymru a DocFest.
Y pum gwneuthurwr ffilm a ddewiswyd i fynd i Sheffield yw:
Nan Davies
Mae Nan Davies yn gynhyrchydd ffilm o Gymru sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei ffilmiau byrion, ffilmiau sydd wedi’u dangos mewn gwyliau sydd wedi eu cymhwyso ar gyfer Gwobrau BAFTA a Gwobrau’r Academi ledled y byd. Cyn symud i fyd ffilm, cynhyrchodd gynnwys fideo a hysbysebion teledu ar gyfer brandiau gan gynnwys y BFI, Tesco a Swarovski. Mae ei chredydau darlledu yn cynnwys Cynhyrchydd Cyfres ar Best Before, cyfres gerddoriaeth heb ei sgriptio ar gyfer Channel 4, a Chynhyrchydd Datblygu ar Life Cinematic ar BBC Four, a roddodd sylw i wneuthurwyr ffilm eiconig gan gynnwys Sofia Coppola. Astudiodd cynhyrchu ffilm yn Academi Ffilm Efrog Newydd, ac mae wedi cael ei dewis ar gyfer sawl rhaglen dalent gan gynnwys BFI Insight, EIFF Talent Lab, Doc Society Producing Truth, ac mae’n aelod o BAFTA Connect. Mae hi'n cael ei denu at straeon sy'n archwilio themâu cymdeithasol cyfoes trwy gymeriadau unigryw ac ysbrydoledig, ac mae hi ar hyn o bryd yn datblygu amrywiaeth o ffilmiau nodwedd sydd wedi eu sgriptio a ffilmiau dogfen trwy ei chwmni One Wave Films, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
Craig Hooper
Mae Craig Hooper yn newyddiadurwr, yn wneuthurwr ffilmiau dogfen, yn hyfforddwr newyddiaduraeth ac yn arbenigwr ar gyfraith y cyfryngau. Cychwynnodd ar ei yrfa yn gweithio ar bapurau newydd gan arbenigo mewn adrodd am droseddau, cyn symud i Newyddion ITV. Aeth yn ei flaen i weithio fel cynhyrchydd a gohebydd ar gyfres This Week i ITV Wales. Wedi gadael ITV sefydlodd Coolhead, cwmni cynhyrchu rhaglenni dogfen cerddorol. Mae wedi gweithio gyda Deep Purple, Saxon, Pavarotti, Metallica, Ghost, Benny Andersson ym mysg eraill. Mae disgwyl i ffilm ddiweddaraf Coolhead, sy’n adrodd hanes deugain mlynedd cythryblus y band Europe, gael ei chwblhau yr haf eleni. Ochr yn ochr â gwneud rhaglenni dogfen, bu hefyd yn rhedeg cwrs Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru, cwrs a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl i eleni, pan fydd y cwrs hefyd yn dod i ben. Mae hefyd yn rheoli Gŵyl Fampirod yn Transylvania – cynhelir y nesaf yn ystod gwanwyn neu haf 2025.
Liam Martin
Trwy straeon sy’n cael eu harwain gan gymeriadau, ac sy’n cael eu hategu yn sgil diddordeb mewn athroniaeth a’r cyflwr dynol, nod gwaith Liam yw cyfrannu at sgyrsiau heriol am iechyd meddwl, hunaniaeth, perthyn, a’n cyswllt â’r amgylchedd. Dangoswyd ei waith mewn gwyliau ffilm rhyngwladol, mewn orielau ac amgueddfeydd, a thrwy lwyfannau ar-lein fel Vice a The Guardian. Ar hyn o bryd mae'n archwilio cysyniadau ar gyfer ei raglen ddogfen hir gyntaf.
Benjamin Shallcross
Mae Benjamin Shallcross yn Gynhyrchydd Cynorthwyol sy’n wreiddiol o Sir Benfro ac sydd bellach yn byw yn Ne Llundain. Mae wedi cyfrannu arbenigedd golygyddol i brosiectau nodedig ar gyfer llwyfannau fel Netflix, Disney+ a'r BBC. Mae wedi gweithio’n bennaf i Raw TV, ac mae ei gyfraniad i raglenni dogfen clodwiw fel American Nightmare a The Puppet Master, yn ogystal ag i fentrau fel Gold Rush yn yr Yukon, yn dangos ei allu i lunio naratif grymus. Mae ei fagwraeth yn Sir Benfro wedi meithrin ynddo werthfawrogiad dwfn o ddilysrwydd ac o berthnasedd diwylliannol, a hyn sy’n gyrru ei angerdd am adrodd straeon. Mae'n awyddus i ehangu ei rwydwaith ac i ddilyn ei uchelgeisiau ym maes dogfen.
Lily Tiger
Mae Lily Tiger yn artist ac yn ffilmwraig sy’n dod o orllewin Cymru. Gan gymryd ysbrydoliaeth o'i magwraeth wledig, mae'n ymdrin â dogfen fel modd i ymgysylltu ag archifau pobl, eu straeon bob dydd ac â’r amgylchedd lleol. Mae ei ffilm fer gyntaf, She Sells Shellfish, wedi cael ei dangos mewn gwyliau ffilm sy'n gymwys ar gyfer BAFTA gan gynnwys Aesthetica, FOCUS Wales (Gwobr Ffilm Geltaidd), yn ogystal ag orielau amlwg gan gynnwys Oriel Saatchi a MOMA Machynlleth. Ar hyn o bryd, mae hi'n rhan o Bedwaredd Ysgol Ffilm Labordy Analog Baltic 2024. Ynghyd â'i harfer creadigol a’i gwaith cyfarwyddo personol, mae hi'n ymchwilydd ac yn Gynnyrchydd Cynorthwyol ar gyfer fforest films, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth.
Sheffield DocFest
Sheffield DocFest yw prif ŵyl ffimiau dogfen y DU ac un o'r marchnadoedd mwyaf dylanwadol yn y byd ar gyfer prosiectau dogfen.
Mae gŵyl eleni'n cychwyn ar 12fed Mehefin gyda Klitschko: More than a Fight gan Kevin MacDonald, ac yn cynnwys 109 ffilm o bob cwr o'r byd, arddangosfa Realiti Amgen ryngweithiol, a phodlediad byw gyda Michael Sheen.