poster for timestalker

Timestalker mewn sinemâu yng Nghymru

Bydd Timestalker yn cael ei rhyddhau eleni gan Vertigo Releasing o 11 Hydref.

Mae Timestalker yn dilyn yr arwres anlwcus, Agnes, drwy amser wrth iddi golli ei chalon dro ar ôl thro i’r dyn anghywir - mae’n marw mewn modd dychrynllyd, yn atgyfodi mewn corff gwahanol ganrif yn ddiweddarach,  ac yn ail-gwrdd â’r dyn unwaith eto gyda’r cylch dieflig yn dechrau eto fyth. Un stori sydd yma sy’n cael ei hadrodd dros sawl cyfnod, ac sy’n cynnwys yr holl gyffro a’r holl lanast sy’n dod yn sgîl bod yn ddigon beiddgar i ddilyn eich calon. Neu efallai eich lwynau…

Gyda’r awdur a’r cyfarwyddwr Alice Lowe yn chwarae’r brif ran mae’r ensemble talentog yn cynnwys Jacob Anderson, Aneurin Barnard, Tanya Reynolds a Nick Frost. Yn ymuno â nhw mae Kate Dickie, Dan Skinner a Mike Wozniak, fu hefyd yn perfformio yn ffilm gyntaf Lowe fel cyfarwyddwr, Prevenge.

Yn Timestalker, mae Alice yn gweithio unwaith eto gyda chynhyrchydd Prevenge, Vaughan Sivell, a Western Edge Pictures, mewn cyd-gynhyrchiad â’r Popcorn Group. Y ffilm oedd y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan gronfa cynhyrchu ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales a Chymru Creadigol, ac fe’i saethwyd yng Nghaerdydd yn hwyr yn 2022.

Fallwch weld Timestalker yn y sinemâu ymayng Nghymru:

7th October

(Free escapes screening)

11th - 17th October

18th - 24th October

25th - 31st October

4th - 7th November