Gwneuthurwyr ffilm o Gymru yn datblygu ffilmiau byrion newydd gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales
Mae'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau o Gymru wedi dewis wyth ffilm fer newydd i'w datblygu trwy eu cynllun Beacons, gyda chefnogaeth RHWYDAITH y BFI a gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Mae Beacons yn taflu goleuni ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau sy'n dod i'r amlwg o Gymru i greu cerdyn galw sinematig drwy gynnig cyllid, hyfforddiant, mentoriaeth ac arweiniad. Ers 2014, mae'r cynllun wedi cynhyrchu 45 o ffilmiau byrion sydd wedi eu dangos mewn sinemâu, ar y teledu ac ar sgriniau digidol ledled y byd.
Mae'r rhestr ddiweddaraf o ffilmiau byrion, sydd mewn datblygiad, yn cynnwys amrywiaeth eang o leisiau ac o straeon; mae pump o'r wyth prosiect yn cynnwys rhai yn yr iaith Gymraeg, dau wedi'u hanimeiddio (hefo pyped!) ac mae un yn brosiect dogfen. Rwan, bydd yr awduron, y cyfarwyddwyr a’r cynhyrchwyr yn datblygu eu sgriptiau a'u pitshes, gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales, cyn gwneud cais am gyllid ychwanegol er mwyn camu ymlaen i’r cyfnod cynhyrchu yn y flwyddyn newydd.
Meddai Jessica Cobham-Dineen, Rheolwr Datblygu & Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales: “O blanhigyn tyfu babanod, i Ogledd Cymru ôl-apocalyptaidd, a’r traddodiad hynafol o siarad gyda gwenyn, mae’r wyth ffilm sydd wedi eu dewis eleni ar gyfer eu datblygu yn arddangos y gwaith ffilm dychmygus sy’n digwydd yng Nghymru heddiw. Rydym hefyd yn falch o weld cynifer o brosiectau sydd wedi eu hanimeiddio a phrosiectau yn yr iaith Gymraeg yn rhan o’r grŵp hwn. Mae tîm Ffilm Cymru Wales yn edrych ymlaen at weithio gyda’r timau yma ar eu ffilmiau.”
Aberpont Valley
Mae animeiddiwr ‘stop-motion’ unig yn wynebu ei rywioldeb ar ôl derbyn pennod o'r sioe blant mae ef ei hun wedi ei chreu.
Awduron/Cyfarwyddwyr: Jake Thompson, Alexander Griffiths
Cynhyrchydd: Sue Gainsborough
Ar Amrantiad
Mae'r seren deledu Eifion Samuel yn teimlo nad yw amser o’i blaid. Wrth i'w ddarllediad byw cyntaf ers marwolaeth ei wraig agosáu, bydd pwysau ei alar a'i ofnau, y byd sy'n newid o'i amgylch, a'r sylweddoliad nad yw popeth fel y dylai fod, oll yn rhythu arno.
Awdur/Cyfarwyddwr: Nico Dafydd
Bara Lawr
Roedd cyfnod Esmerelda Evans fel seren bop Gymreig yn y 1970au yn un byr ac ymfflamychol. Mae hi wedi rhoi'r gorau i yfed a chymryd cyffuriau ers blynyddoedd, a gan ei bod yn byw mewn tref lân yng Ngorllewin Cymru, gall fod yn anhysbys. Wrth iddi frwydro gyda cholli'r gymuned lle cafodd ei magu, ac wrth iddi alaru am ei mam, daw wyneb o'r gorffennol i gorddi'r dyfroedd.
Awdur/Cyfarwyddwr: Ynyr Morgan Ifan
Closet
Mae aelod o griw caban awyrennau, sy’n cuddio’i rywioldeb, a’i ffrind gorau, sy’n gwbl ddi-drefn, yn ymweld â’i deulu ecsentrig i helpu ei efaill, sydd hefyd yn cuddio’i rywioldeb, i ‘ddod allan’, ond yn ystod y swper crand, sy’n ffrwydro dan ddylanwad coctel o gyffuriau, gwirioneddau cudd pawb yn cael eu datgelu – jest mewn pryd ar gyfer diwedd y byd.
Awdur/Cyfarwyddwr: Yassa Khan
Cynhyrchydd: Rosie Hartley
Plant
Pan mae menyw ddigalon, sy’n cael trafferth beichiogi, yn dechrau tywallt cynnwys ei chwpan mislif i botyn un o’i phlanhigion, mae'r planhigyn yn tyfu mor fawr nes ei fod yn meddiannu ei hystafell ymolchi. Naw mis yn ddiweddarach mae’r planhigyn yn blaguro gan ddatgelu babi bach newydd-anedig, ac mae hi'n sylweddoli ei bod wedi cael ei dymuniad - ond rhaid iddi rwan aberthu popeth y mae’n ei wybod.
Awdur/Cyfarwyddwr: Jodie Ashdown
Cynhyrchydd: Jenny Thompson
Sea Change
Mae Maryam yn teimlo’n rhwystredig oherwydd ei pherthynas â'i mam oedrannus, Elie. Mae’r ddwy yn byw yng Nghymru bellach, ond daw Elie yn wreiddiol o Iran, ac yno hefyd y magwyd Maryam. Maent yn ymweld â therapydd teulu i drafod eu problemau, ac mae'r sesiwn yn datgelu trawma dwfn am y bywyd a'r wlad maent wedi eu gadael.
Awdur/Cyfarwyddwr: Leyla Pope
Cyfarwyddwr Animeiddio: Efa Blosse-Mason
Telling The Bees
Ffilm am bobl sy’n cadw gwenyn yng Nghymru. Maent yn myfyrio ar eu cysylltiadau dwfn, ysbrydol gyda'u gwenyn, wrth i hen draddodiad sydd wedi cysylltu pobl â natur ers cenedlaethau gael ei ddatgelu.
Awdur/Cyfarwyddwr: Florence Browne
Cynhyrchydd: Siân Adler
Y Salwch
Mae dwy chwaer yn ceisio’u gorau i lywio’u ffordd drwy Ogledd Cymru ôl-apocalyptaidd. Nid ydynt yn gwybod bod y naill na’r llall yn fyw, hyd nes i salwch dŵr dychrynllyd, sy’n bygwth lledaenu'n gyflym, eu gorfodi i ddarganfod ei gilydd.
Awduron: Beth Noonan-Roberts, Rebecca Wilson
Cyfarwyddwr: Rebecca Wilson
Dangoswyd tair ffilm fer Beacons am y tro cyntaf ar BBC Cymru Wales ym mis Awst eleni, ac erbyn hyn maent ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer: ffilm arswyd seicolegol Toby Cameron, Grappling, ffilm ddogfen Isabel Garrett sy’n rhannol wedi ei hanimeiddio, Follow The Dogs, a drama deimladwy Emily Burnett, Mother’s Day, a gafodd ei henwebu’n ddiweddar ar gyfer y Ffilm Fer Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2025. Cafodd Mared Swain hefyd ei henwebu yn yr un categori, a’i drama Gymraeg, Baich, yw’r ffilm fer ddiweddaraf i gael ei dangos ar broffil AM Ffilm Cymru Wales.
