photo of a person filming an event on their phone

Troed yn y Drws: Penwythnos Celfyddydau Abertawe

Ydych chi eisiau ennill sgiliau newydd neu wella sgiliau presennol mewn digwyddiadau creadigol byw a/neu ohebu digidol a bod yn rhan o benwythnos celfyddydol a diwylliannol newydd cyffrous yn y ddinas? Eisiau ennill sgiliau newydd ar gyfer gweithio yn y diwydiannau creadigol?

Mae rhaglen Troed yn y Drws: Penwythnos Celfyddydau Abertawe yn rhad ac am ddim ac yn berffaith i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ar ddigwyddiadau byw a'r rhai sydd â diddordeb mewn creu cynnwys sydd  eisiau canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol. Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithio fel rhedwr ar ddigwyddiad byw a chynhyrchu ym maes adrodd straeon ac adroddiadau ar gyfer sianeli’r cyfryngau cymdeithasol. 

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymgolli yn sîn ddiwylliannol fywiog Abertawe a chael profiad gwerthfawr ym maes hyfforddiant a digwyddiadau!

Cymhwysedd

Mae'r rhaglen hon yn agored i bobl sy'n byw NEU yn gweithio yn Abertawe. Rhaid i chi fod yn 18+ a heb fod mewn addysg amser llawn.

Beth yw Troed yn y Drws - Abertawe Greadigol?

Mae Ffilm Cymru yn cynnig cyfle unigryw i drigolion a gweithwyr yn Abertawe ymuno â’r profiad hyfforddi ‘Troed yn y Drws’ yn ystod digwyddiadau cyffrous Penwythnos Celfyddydau Abertawe. Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac archwilio gyrfaoedd yn y sector creadigol, wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth ag adran y Celfyddydau, Diwylliant a'r Economi Greadigol yng Ngwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe.

Bydd amrywiaeth o gyfleoedd â thâl ar gael ar gynhyrchiad byw Matsena Production, OLYMPIC FUSION, a rhaglen ddigwyddiadau WE ARE ALL ARTISTS.

Mae'r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a phrofiad ymarferol mewn rolau ymarferol a chreadigol fel rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe. Byddwn yn cynnig cyfleoedd ymarferol ac yn datblygu sgiliau mewn digwyddiadau creadigol, gan roi pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy.

Manylion y Digwyddiad

Penwythnos Celfyddydau Abertawe: 4 - 6 Hydref. Dathliad bywiog o’r celfyddydau a diwylliant yn Ninas Abertawe, yn cynnwys cerddoriaeth fyw, perfformiadau dawns, arddangosfeydd y celfyddydau gweledol, a gweithdai ar draws lleoliadau amrywiol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Olympic Fusion: Bydd y Brodyr Matsena, sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, yn arwain perfformiad sy’n cyfuno dawns, cerddoriaeth, a chwaraeon mewn ymateb i gyflwyno breg-ddawnsio, dringo, sglefrfyrddio, a syrffio yng Ngemau Olympaidd Paris 2024. Caiff y perfformiad ei gynnal ar ddydd Sadwrn 5 Hydref ym Mharc yr Amgueddfa, Abertawe.
  • Mae We Are All Artists yn rhaglen o arddangosfeydd, gweithdai a gweithgareddau sy’n cael ei chynhyrchu gan leoliadau angori’r celfyddydau sydd wedi’u lleoli rhwng gorsaf drenau Abertawe a Marina Abertawe; sy’n cael ei galw’n llwybr “O'r Orsaf i'r Môr”. Mae'r lleoliadau'n cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Theatr Volcano, Elysium, GS Artists ac Oriel Mission. Caiff y digwyddiadau hyn eu cynnal rhwng 4 a 6 Hydref ar Heol Alexander, Stryd Fawr Abertawe, a Gloucester Place. 

Manteision yr Hyfforddiant

  • Hyfforddiant cyn y digwyddiad wedi'i deilwra.
  • Profiad ymarferol mewn amgylchedd deinamig o ddigwyddiadau byw.
  • Datblygu sgiliau technegol a chreadigol newydd.
  • Profiad o weithio ar brosiect gyda chynulleidfa eang.
  • Cyfleoedd rhwydweithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol lleol.
  • Cymorth dilynol i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.
  • Tâl am gostau teithio a chinio yn ystod y diwrnod hyfforddi yn y gwaith.
  • Cymorth ariannol ar gael i'r rhai sydd ei angen (fel gweithwyr llawrydd neu rai ag anghenion ychwanegol).

Pwy Ddylai Ymgeisio? 

Mae’r cyfle hwn yn ddelfrydol i: 

  • Aelodau'r Gymuned: sydd eisiau dod â chreadigrwydd i'w dinas.
  • Newidwyr Gyrfa: sy’n chwilio am sgiliau newydd er mwyn cael gwaith yn y diwydiannau creadigol.
  • Gweithwyr Proffesiynol ym maes y Cyfryngau Cymdeithasol a Digwyddiadau: sydd eisiau ehangu sgiliau i'r sector creadigol.

Byddwch yn Derbyn

tridiau o hyfforddiant am ddim yn datblygu sgiliau rhedeg digwyddiadau ac adrodd digidol, yn cynnwys:

  • Un diwrnod o hyfforddiant ar redeg digwyddiadau.
  • Un diwrnod o hyfforddiant ar adrodd digidol.
  • Un diwrnod o hyfforddiant yn y gwaith mewn digwyddiad byw, gan dderbyn cyflog byw. 

Yn ystod y diwrnod hyfforddiant yn y gwaith, byddwch yn defnyddio eich sgiliau newydd ac yn ennill profiad bywyd go iawn. Bydd eich costau a'ch cinio yn cael eu talu ar gyfer y diwrnod hwn. Os ydych yn wynebu rhwystr ariannol, soniwch am hyn yn eich cais fel y gallwn neilltuo arian lle bo angen.

Rolau Hyfforddiant Ar Gael

Rhedwr Digwyddiad

Delfrydol ar gyfer: 

  • Rhai sydd â diddordeb mewn rheoli digwyddiadau a logisteg.
  • Rhai sydd eisiau profiad uniongyrchol o ddigwyddiad byw.
  • Unigolion sydd eisiau dysgu sut mae digwyddiadau mawr yn gweithio a’r mathau o swyddi sydd ar gael.

Sgiliau i’w Datblygu: 

  • Cyfathrebu effeithiol â chynulleidfaoedd.
  • Gwaith tîm gyda thimau creadigol a thechnegol.
  • Sgiliau ymarferol mewn sefydlu a rheoli digwyddiadau.

Gohebydd Digidol

Delfrydol ar gyfer: 

  • Rhai sydd am ddatblygu sut i ymgysylltu â chynulleidfa ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, a all gynnwys ffotograffiaeth a fideo amser real
  • Unigolion sydd â diddordeb mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata ar gyfer digwyddiadau byw 
  • Pobl sydd am wella sgiliau cyfarwyddo ac adrodd straeon, er enghraifft defnyddio cyfweliadau wrth ddarlledu o ddigwyddiadau byw.

Sgiliau i’w Datblygu: 

  • Creu cynnwys ar gyfer digwyddiadau byw.
  • Technegau cyfweld.
  • Sgiliau technegol ym maes ffilmio a thynnu lluniau mewn ddigwyddiadau.

Manylion Gwneud Cais

Cyflwynwch eich atebion mewn fformat ysgrifenedig, fideo, neu nodyn llais. Fel arall, trefnwch fideo byw neu alwad ffôn gyda'n tîm cyn y dyddiad cau.

Cymorth i Ymgeiswyr: Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael i unigolion sydd yn Fyddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu ag amhariad ar eu golwg. Cysylltwch â ni ar footinthedoor@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion yn gyfrinachol.

Dyddiadau Pwysig

Dydd Mercher, Gorffennaf 31, 5pm: Dyddiad cau derbyn ceisiadau.
Wythnos Awst 5ed: Hysbysiad e-bost o ganlyniad y cais.
Dydd Iau, Medi 5ed, 10am - 2pm: Diwrnod Ymgysylltu i Gyfranogwyr.
Medi Dydd Mawrth 24ain – Dydd Mercher 25ain: Wythnos Hyfforddiant yng nghanol Abertawe.

Y dyddiadau isod yw pryd y bydd rhywfaint o'r gweithgarwch yn digwydd. Bydd un diwrnod o leoliad â thâl yn cael ei ddynodi i chi - nid oes angen i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau isod:

1 Hydref ymlaen: Rigio'r digwyddiad, gosod, ac ymarferion ar y safle. Rhedwyr yn unig. 
Hydref 4ydd - 6ed: Penwythnos Celfyddydau Abertawe.
Hydref 5ed: Digwyddiad Cynhyrchiad Byw.

Cyllid a Chymorth

Mae Ffilm Cymru yn bartner cyflawni ar 'Sgiliau i Abertawe', sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe, a Chyngor Abertawe. 

Gwybodaeth Gyswllt

I gael manylion pellach neu i ofyn cwestiynau, cysylltwch â ni ar footinthedoor@ffilmcymruwales.com

spf swansea logos