Still from short documentary film Juan, featuring a man wearing a purple shirt sitting at a white digital piano and looking into a wall mirror. .

Ffilm cymru wales yn ysgogi ffilmiau byrion newydd ac yn agor y cylch cyllido diweddaraf

Mae'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau Cymru wedi dewis chwe ffilm fer newydd i symud ymlaen i gael eu cynhyrchu drwy eu cynllun Beacons, gyda chymorth RHWYDWAITH BFI a chyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn taflu goleuni ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru sy'n dod i'r amlwg i greu cerdyn galw sinematig drwy ddarparu cyllid, hyfforddiant, mentora ac arweiniad.  
 
Ym mis Hydref 2024, dewiswyd naw prosiect i gychwyn ar gyfnod o ddatblygu, gyda Ffilm Cymru Wales yn darparu cyllid, arweiniad a mentora gan wneuthurwyr ffilmiau profiadol gan gynnwys Janis Pugh, Marilyn Milgrom, Jack Tarling, Philip John a Jay Bedwani. Yn dilyn y broses ddatblygu, mae chwe sgript sy'n rhychwantu genres ac ieithoedd amrywiol bellach wedi'u comisiynu i'w cynhyrchu eleni. 
 
Meddai Jessica Cobham-Dineen, Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales: ‘Ers deng mlynedd, mae Beacons wedi cynhyrchu portffolio o waith unigryw, unigol, wedi’i ysgrifennu gan wneuthurwyr ffilmiau o Gymru, ac mae'r grŵp hwn o ffilmiau a fydd yn cael eu cynhyrchu eleni yn parhau â hynny. Rydyn ni’n llawn cyffro i weithio gyda'r chwe thîm i ddod â'u straeon yn fyw.'

Chan’s 

Stori led-hunangofiannol sy'n archwilio atgofion bachgen Tsieineaidd-Cymreig 10 oed sydd ag obsesiwn â phêl-droed ac â fagwyd yn siop tecawê ei deulu yn y Barri yn ne Cymru. Mae Chan's yn cael ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Jun Chan, Cyfarwyddwr Creadigol a darlithydd gwadd yn UAL, a Fanny Hötzeneder, Cyfarwyddwr Masnachol ym myd teledu. Gyda'i gilydd, maen nhw’n ceisio tynnu sylw at straeon sy'n cael eu hanwybyddu'n aml o ddiaspora Dwyrain a De-ddwyrain Asia yn niwylliant Prydain.

Extinction 

Yn y ffilm gomedi arswyd animeiddiedig hon, mae pob anifail wedi darfod, ac mae trigolion pentref gwledig yng Nghymru yn dechrau galaru amdanynt trwy ymgymryd â’r rolau yr oedden nhw’n arfer eu chwarae. Mae Extinction yn cael ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Sara Schiavone, ar ôl i’w ffilm fer flaenorol, Slowly Waking, gael ei dewis ar gyfer Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Ffilmiau FOCUS Cymru yn 2024. 

Juan

Wrth i ddynwaredwr Elvis profiadol o Gymru baratoi at ei berfformiad olaf, gan ddod i delerau â'r aberth a wnaeth a'r llawdriniaethau a gafodd i ymgorffori'r Brenin, mae'n barod i gamu allan o gysgod ei arwr ac ailddarganfod pwy yw ef ei hun go iawn. Mae gan y cyfarwyddwr Callum O'Keefe brofiad helaeth o ddogfennu pobl trwy gyfrwng ffotograffiaeth, gan ddod â lens newydd i'r stori ddidwyll hon. Mae Nan Davies wedi ymuno â'r prosiect fel cynhyrchydd, ar ôl gweithio’n flaenorol ar Rick On The Roof y llynedd.

Marriage Test 

Yng Nghaerdydd ym 1984, mae dyweddïad y Gymraes, Susie, a’r Iraniad, Raz, yn y fantol yn ystafell aros y mosg. A yw eu gwahaniaethau am eu gwahanu, neu a fydd eu cariad yn drech? Mae Marriage Test, sy’n cael ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau Cymreig-Iranaidd Sara Nourizadeh, yn ddrama gomedi gynnes, ddoniol a thyner sy'n pwyso ar hanes personol i archwilio cariad, hunaniaeth, a'r hyn y mae'n ei olygu i bontio dau fyd. Caiff y ffilm ei chynhyrchu gan Roxy Amini, a'r Cynhyrchwyr Gweithredol yw Matthew Barry, Alice Lusher ac Ali Mashayekhi. 

Scab

Yn ystod streic chwerw’r glowyr, mae bradwr yn ceisio cuddio ei frad rhag ei frawd sy’n uchel yn yr undeb wrth iddo drawsnewid i fod yn adlewyrchiad o'i gyfrinach hyll. Mae'r ffilm arswyd gyfnod hon yn cael ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Oliver Gabe a'i chynhyrchu gan Lee Haven Jones ac Adam Knopf ar gyfer Riot Time Pictures.

To Be Here 

Pan fydd cydweithiwr poblogaidd i ferch ifanc ynysig yn marw, mae hi'n dechrau ei weld yn ei byd unig hithau, a chaiff ei sbarduno i ddechrau byw o'r diwedd. Mae To Be Here yn cael ei hysgrifennu gan Carys Thomas, enillydd Ysgrifennu Newydd BAFTA Rocliffe, ei chyfarwyddo gan Eleri B. Jones (Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Theatr Brycheiniog yn ddiweddar), a'i chynhyrchu gan Chloe Huybens. Dyma ddrama gomedi am unigrwydd, galar, a'r crychdonnau y mae gweithredoedd bach o garedigrwydd yn eu gadael yn ein bywydau.

Mae Ffilm Cymru Wales hefyd wedi agor eu cylch ddiweddaraf o gyllid ffilmiau byrion Beacons. Gall ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr o Gymru wneud cais am hyd at £25,000 i ddatblygu a chynhyrchu eu syniadau am ffilmiau byrion byw, animeiddiedig neu ddogfen. Mae ceisiadau ar agor tan hanner dydd 27ain Mehefin.

Dangoswyd tair ffilm fer am y tro cyntaf ar BBC Cymru Wales ym mis Mawrth ac maen nhw bellach ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer: Ffilm arswyd gwerin Gymraeg Llŷr Titus, Dim Ond Ti a Mi, ffilm ddrama oruwchnaturiol animeiddiedig Nia Alavezos, Passenger, a chomedi arswyd Alaw Llewelyn Roberts, Organic.