Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Tina Pasotra
Mae ffilm fer Tina Pasotra, I Choose, yn dilyn Rupi, sy’n fam ifanc. A hithau’n dyheu am fywyd o ddewis ac yn brwydro’n erbyn gwrthdaro mewnol a threftadaeth ddiwylliannol, mae’n aberthu’r cyfan i ddianc i Gymru gyda’i dwy ferch ifanc.
Cyn darlledu’r ffilm, buom yn siarad gyda Tina am ei hysbrydoliaeth bersonol ar gyfer I Choose, gan weithio ar draws ffurfiau celfyddydol, a sut mae RHWYDWAITH y BFI wedi helpu i ddatblygu ei gyrfa.
Haia Tina, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Rwy’n wneuthurwr ffilmiau ac yn artist amlddisgyblaethol. Drwy’r gwaith rwy’n ei greu mae gen i ddiddordeb mewn archwilio profiadau go iawn a themâu’n ymwneud â hanes trefedigaethol. Rwy wir yn cael fy nenu i gydweithio ac ymwneud ag amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a phobl. Rwy wedi gweithio gyda dawnswyr, cerddorion, actorion, academyddion, dylunwyr ffasiwn, penseiri, garddwyr botaneg, gwerthwyr blodau, theatrau a chriwiau cynhyrchu ffilmiau. Rwy bob amser yn gweld y broses gydweithio hon yn brofiad sy’n cyfoethogi gan ei fod yn hybu’r potensial ar gyfer tyfu a dysgu.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i greu I Choose?
Mae gen i gyswllt personol â stori I Choose drwy lawer o fenywod rwy wedi cwrdd â nhw yn fy mywyd sydd wedi rhannu’r naratif hwn ryw ffordd neu’i gilydd. Gydag I Choose, roeddwn i eisiau creu ffilm sy’n tynnu sylw at eu dewrder, eu cryfder a’u heiddilwch, ac sy’n edmygu gwytnwch y menywod yma a’r penderfyniadau anodd maen nhw’n eu gwneud. Rwy wir yn gobeithio y bydd yn golygu rhywbeth iddyn nhw.
Pa fath o gymorth roddodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI i chi?
Cyn I Choose, roeddwn i wedi creu ychydig o ffilmiau byr heb gyllideb ac wedyn yn 2017 fe ges i fy nghomisiynu drwy Random Acts i greu ffilm ddawns fer, ‘But Where Are You from?’ Y peth gwych am gael cymorth drwy gynllun Beacons (Ffilm Cymru, RHWYDWAITH y BFI a BBC Cymru) oedd cael y gofod a’r cyfle i dreulio amser yn datblygu fy ffilm fer naratif gyntaf, wedi’i chyd-ysgrifennu â fy nghynhyrchydd Alice (mae’n giamstar ar strwythur!). Roedd gan I Choose gyllideb fwy a thîm mwy, ac roedd yn golygu gweithio gydag actorion (gan gynnwys plant), a’r cyfan yn fy ymestyn i’n broffesiynol yng nghyd-destun naratif hynod bersonol.
Sut mae eich gwaith creu ffilmiau wedi’i ddylanwadu gan eich gwaith mewn ffurfiau eraill ar gelfyddyd fel theatr a dawns?
Rwy’n credu bod fy mhrofiad ym myd theatr wedi helpu i fod mewn amgylcheddau yn gweithio gydag actorion. Er eu bod nhw’n ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd, mae’r sgiliau cyfarwyddo yn dal yn debyg. Mae dawns yn ysbrydoli fy ngwaith yn fawr iawn. Mae golygfa yn I Choose sy’n rhoi synnwyr o grefft/symudiad mewn perthynas â bwyd ac rwy wastad wedi rhagweld yr olygfa honno’n goreograffig, felly roedd yn braf clywed rhywun yn adrodd yn ôl eu bod yn cysylltu’r olygfa honno â dawns.
Beth ydych chi wedi dysgu o’ch profiad ar raglen Criw RHWYDWAITH y BFI x BAFTA?
Rwy’n aelod o Griw RHWYDWAITH y BFI x BAFTA ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy. Drwy’r rhaglen yma y gwnes i ddod o hyd i fy nghyfarwyddwr ffotograffiaeth, Adam Scarth, a oedd yn siarad mewn digwyddiad sinematograffeg. Roedd yn golygu bod y broses o drafod gydag e gymaint yn haws gan fy mod i yn yr un lle. Ers hynny, mae wedi dod yn ffrind hyfryd ac fe wnes i fwynhau cydweithio ag e yn fawr iawn. Fe wnes i hefyd ddod o hyd i fy nghyfansoddwr, Victoria Wijerante, sydd ar yr un cynllun ac a oedd wedi gweld gwaith blaenorol gen i. Dyma Victoria yn estyn allan ac roedd modd i mi ddysgu am ei gwaith hardd. Mae hithau’n enaid gwych arall ac roedd yn bleser gweithio gyda hi. Yn ei hanfod, fe wnaeth y cyfle ehangu fy rhwydweithiau yn fawr ac rwy wedi cwrdd â phobl ddiffuant iawn; fe fyddwn i wir yn argymell mynd amdani! Fe wnes i hefyd gymryd rhan yn Widening The Lens a’r BFI Weekender tra’n datblygu I Choose, a oedd yn brofiadau da i baratoi at yr hyn oedd i ddod!
Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Bu gen i obsesiwn â gweledigaeth neilltuol I May Destroy You gan Michaela Cole. Mae ei gallu i fynd i’r afael â chymaint o themâu enfawr, o batriarchaeth i hil, a bod hynny mor hygyrch, yn rhyfeddol. Rwy wastad wedi edmygu ei gwaith, a minnau wedi gwylio Chewing Gum dro’n ôl ac wedyn wedi chwalu fy ffordd drwy’r gyfres unwaith eto’n ddiweddar am ei bod yn gwneud i mi chwerthin ei hochr hi! Gan ddatgelu fy hun yn ffan go iawn, mae’n wych!
Beth sydd gennych chi ar y gweill nesaf?
Hoffwn i dreulio amser yn datblygu fersiwn nodwedd o I Choose ac mae angen i mi greu’r gofod a’r amser i weithio arni! Mae gen i gronfa ymchwil a datblygu gyda National Theatre Wales i archwilio syniadau sydd gen i ynglŷn â chreu gwaith safle benodol. Mae hefyd gen i breswyliad gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ehangu ymhellach ar brosiect o’r enw ‘BLOOM’ a wnes yn 2019 a oedd yn archwilio syniadau ynghylch coloneiddio a thwf.
Cynhyrchwyd I Choose gan Alice Lusher o Gynyrchiadau ie ie drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.