Cyfarfod â'n Dirprwyaeth DocFest 2025
Y mis hwn, bydd Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI Cymru yn mynd â chwe gwneuthurwr ffilmiau dogfen sy'n dod i'r amlwg i Sheffield DocFest.
Dewiswyd y cynrychiolwyr drwy alwad agored ar sail eu gwaith creadigol rhagorol a'u huchelgeisiau i symud ymlaen i greu ffilmiau dogfen nodwedd i’r sgrin fawr. Fe fyddan nhw yno dros gyfnod yr ŵyl gyfan i gwrdd â'r diwydiant ac ymdrochi yn y gwahanol raglenni, gan elwa o gymorth un-i-un gan Ffilm Cymru Wales, RHWYDWAITH BFI Cymru a DocFest.
Y chwe gwneuthurwr ffilmiau a ddewiswyd i fynd i Sheffield yw:

Gilly Booth
Gilly Booth, artist sy'n gweithio gyda delwedd symudol/sain a chyd-gyfarwyddwr Hijack Film Production. Mae ei hymarfer celf yn ail-ddehongli, yn archifo ac yn ymchwilio i sut y gall swyddogaeth goll pensaernïaeth barhau mewn cof diwylliannol. Mae'n defnyddio technegau dogfennol i gofnodi cyfarfyddiadau byw rhwng realiti a ffuglen, ac yn eu trosi ar draws lleoliadau daearyddol a ffiniau ieithyddol. Prosiect cyfredol yw'r ffilm ddogfen nodwedd Eduardo Paolozzi, Archaeology of a Future, a ddatblygwyd gyda chymorth Ffilm Cymru Wales. Mae ffilmiau/gosodiadau dethol wedi cael eu harddangos mewn gwyliau ffilm ac orielau rhyngwladol, gan gynnwys ICA Llundain, Canolfan Pompidou / Paris, Yr Amgueddfa Gelf Fodern / Tokyo, MOMA / Efrog Newydd, Amgueddfa'r Anghofiedig / Zurich a Biennale Pensaernïaeth Fenis / Yr Eidal.

Simon Clode
Mae Simon yn wneuthurwr ffilmiau ac artist fideo o Gymru sy'n ymroi i adrodd straeon dogfennol sy'n mynd i'r afael â materion byd-eang pwysig. Derbyniodd ddyfarniad ariannu Horizons RHWYDWAITH BFI / Ffilm Cymru Wales a dyfarniad ariannu Datblygu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales i’w ffilm ddogfen nodwedd gyntaf The Hunter and the Dragon. Mae ei waith wedi ei ddangos mewn gwyliau cymhwyso BAFTA, cyrhaeddodd y rownd derfynol yng Ngwobrau Ffilmiau Byrion Prydain, a darlledwyd ei waith ar y BBC. Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Simon wedi cyflwyno ei ffilmiau artist mewn digwyddiadau allweddol fel Qalandiya International ym Mhalesteina ac mewn orielau celf ac amgueddfeydd ledled y DU, gan archwilio themâu’r argyfwng hinsawdd a hawliau dynol.
Siobhan Logue
Mae Siobhan Logue yn gynhyrchydd arobryn o Gymru. Dechreuodd ei gyrfa yn y BBC ac mae wedi creu ffilmiau dogfen a chyfresi rhwydwaith nodedig ar gyfer darlledwyr yn y DU a'r UDA. Mae gan Siobhan angerdd am straeon cerddoriaeth ac mae wedi gweithio gyda dros 100 o artistiaid a cherddorion ar brosiectau yn amrywio o ffilm ddogfen nodwedd Fela Kuti: Father of Afrobeat i'r gyfres Music for Misfits a enillodd Wobr BAFTA Cymru, o ffilmiau bywgraffyddol y BBC Meat Loaf: In and Out of Hell a John Denver: Country Boy i’r ffilm fer a enwebwyd am BAFTA, toni_with_an_i. Sefydlodd y cwmni annibynnol Songbird gyda'r uchelgais o adrodd straeon diwylliannol pwerus ac ystyrlon ein hoes ar draws pob platfform, o ar-lein i sinema. Mae ffilm newydd Songbird, The Sound of Protest, yn archwilio materion hawliau dynol drwy ganeuon eiconig ac fe'i gwnaed yng Nghymru.

Sara Nourizadeh
Mae Sara Nourizadeh yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac awdur Cymreig-Iranaidd sy'n gweithio ar draws ffilmiau dogfen a ffilmiau â sgript. Mae ei ffilm ddogfen ddiweddar, Finding Hope (BBC2 Wales), sy'n adrodd hanes ffoaduriaid yn eu harddegau, ar gael ar BBC iPlayer ac fe'i cynhyrchwyd gan ei chwmni Avalanche Productions a Boom Cymru. Mae ei chredydau eraill yn cynnwys Kids with Cameras: Diary of a Children’s Ward ac Agony and Ecstasy: A Year at the English National Ballet. O ran ffilmiau â sgript, Sara yw awdur-gyfarwyddwr Marriage Test, ffilm fer wedi’i hariannu gan Beacons RHWYDWAITH BFI / Ffilm Cymru Wales a fydd yn cael ei ffilmio'r haf hwn, ac mae ei chyfres gyntaf FRANK wrthi'n cael ei datblygu gyda 5Acts.

Angharad Parry
Mae Angharad newydd gwblhau carfan fentora Menywod mewn Ffilm a Theledu 2025 i droi at faes cynhyrchu ar ôl degawd yn gweithio fel Goruchwyliwr Sgriptiau. Sefydlodd Ravenspoint Films yng Ngogledd Cymru i ddilyn ei hangerdd am wneud prosiectau cyffrous ar draws genres. Mae hefyd yn rhedeg Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol SeeMôr yn Ynys Môn gan gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau yng Ngogledd-orllewin Cymru a dathlu ymwybyddiaeth amgylcheddol ynghylch ein cefnforoedd.

Elin Rhys
Gwnaeth Elin sefydlu Telesgop ym 1993 ac mae wedi goruchwylio cannoedd o oriau o gynyrchiadau; ffilmiau dogfen ar gyfer S4C a BBC Cymru; ffilmiau dogfen cerddoriaeth fel Meatloaf - In and Out of Hell, John Denver Country Boy, Music for Misfits, the Story of Indie ar gyfer BBC FOUR; Edward the VIII Murderous Mistress a Wallis Simpson's Secret Letters ar gyfer Channel 4; Parasites - Eating Us Alive ar gyfer Discovery US a The Prince and The Bomber ar gyfer BBC Cymru / S4C; darlledu digwyddiadau byw i gyfres flaenllaw Ffermio ar gyfer y BBC ac S4C. Daeth yn Gadeirydd y cwmni yn 2019, sydd wedi ei galluogi i ddychwelyd at ei chariad cyntaf - cynhyrchu.
Storïwyr Hinsawdd
Bydd pedwar gwneuthurwr ffilmiau sydd wrthi'n ymchwilio ac yn datblygu prosiectau dogfen ymdrochol drwy ein Cronfa Straeon Hinsawdd gyda Media Cymru hefyd yn bresennol yn yr ŵyl. Bydd Gavin Porter, Ashley Leung, Remi Bumstead a Richard Billingham yn gallu ymuno â sesiynau fel Trawsnewid Adrodd Straeon Hinsawdd drwy Gydweithio a Chreadigrwydd, gyda Liz Bonnin.
Sheffield DocFest
Sheffield DocFest yw gŵyl ffilmiau dogfen fwyaf blaenllaw y DU ac un o farchnadoedd mwyaf dylanwadol y byd ar gyfer prosiectau dogfen.
Mae’r ŵyl eleni yn agor ar 18fed Mehefin gyda pherfformiad cyntaf y ffilm Still Pushing Pineapples, a ariannwyd gan Ffilm Cymru Wales. Mae’r ffilm yn adrodd stori drist ond grymus am gyn-gantores y band pop Black Lace. Fei’ cyfarwyddwyd gan Kim Hopkins a’i chyd-gynhyrchu gan Nan Davies, a aeth i’r ŵyl y llynedd fel rhan o ddirprwyaeth Ffilm Cymru Wales.