Cynhyrchwyr o Gymru’n trafod premiere Brides yn Sundance
Cawsom sgwrs gyda Catryn Ramasut ac Alice Lusher o ie ie Productions cyn Premiere Byd eu ffilm newydd, Brides, yng Ngŵyl Ffilm enwog Sundance.
Brides yw ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr theatr llwyddiannus, Nadia Fall, a’r ysgrifennwr sgrîn, Suhayla El-Bushra. Sêr y ffilm yw Ebada Hassan a Safiyya Ingar, ac maent yn portreadu dwy ferch yn eu harddegau sy’n chwilio am ryddid, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn, wrth iddynt ddianc o’u bywydau cythryblus mewn tref glan môr. Ond mae eu cynllun i deithio i Syria yn un annoeth ac yn llawn perygl.
Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan Catryn Ramasut ac Alice Lusher o ie ie Productions, diolch i arian gan Ffilm Cymru Wales a Cymru Creadigol. Mae’r cwmni sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd wedi datblygu a chynhyrchu llechen drawiadol o straeon beiddgar, gan gynnwys y ffilmiau dogfen nodwedd Separado!, American Interior, Queerama, Rockfield: The Studio on the Farm, a’r ffilmiau byrion a enwebwyd ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru Elen, I Choose, Forest Coal Pit, a’r ffilm ffug-wyddol arloesol LOLA oedd yn gyd-gynhyrchiad rhwng Cymru ac Iwerddon.
Cyn iddynt deithio i Park City, Utah, ar gyfer Sundance, cawsom gyfle i gael sgwrs â Catryn ac Alice ynglŷn â’u ffilm newydd, llwyddiant y diwydiant sgrîn yng Nghymru, a beth yw dyfodol ie ie Productions.
Beth oedd cychwyn eich taith chi ar Brides?
Bu i’r cynhyrchydd Nicky Bentham gysylltu â ni ddiwedd gwanwyn 2023 i drafod y posibilrwydd o gyd-gynhyrchu ac o saethu rhan Brydeinig y ffilm yng Nghymru. Y munud i ni ddarllen sgript drawiadol Suhayla, a chyfarfod y tîm creadigol anhygoel, Nicky, Nadia a Suhayla - pob un yn ferched - roeddem yn gwybod ein bod eisiau gweithio ar y ffilm yma. Mae hon nid yn unig stori bwysig i’w hadrodd, ond mae eu dull nhw o gyd-weithio yn ogystal â’u gweledigaeth artsitig, yn cyd-fynd yn berffaith ag ethos ie ie Productions. Felly, ‘roedd yn brosiect ysbrydoledig i ni fod yn rhan ohono.
’Roedd y lluniau a’r fideos dynnwyd ar ein taith hymchwil gychwynnol o amgylch trefi, pentrefi, a thraethau’r arfordir, yn ogystal â mynyddoedd de Cymru, yn ddigon i argyhoeddi’r tîm fod Cymru’n berffaith ar gyfer y ffilm.Yna cawsom ein cyflwyno i’r cynhyrchydd o’r Eidal, Marica Stocchi, ac wedyn aeth popeth rhagddo’n ddigon hwylus a roeddem yn cynhyrchu ac yn ffilmio yr hydref hwnnw.
Pam ei bod hi’n bwysig adrodd straeon fel yma?
Mae adrodd straeon gonest, dilys yn hanfodol i greu portreadau ar, ac oddi ar y sgrîn, er mwyn cynrychioli pa mor eang yw ein cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae themâu cyffredinol sy’n ymwneud â chyfeillgarwch, perthyn, a dyfod i oed yn taro tant â chynulleidfaoedd yn fyd-eang. Yn y bôn, mae Brides yn ffilm am bŵer ac am gryfder y cyfeillgarwch sy’n bodoli rhwng pobl ifanc yn eu harddegau, y risgiau rydym yn eu cymryd, y penderfyniadau ‘rydym yn eu gwneud, a’r effaith y gallant eu cael - a hyn oll tra’n dal yn blant, yn ôl y gyfraith.
Ble wnaethoch chi saethu’r ffilm?
Mae’r merched ifanc yn teithio’n ddi-stop gydol y ffilm gan fynd o Brydain i Syria. Cafodd y rhan Brydeinig o’r ffilm ei saethu yn ne Cymru rhwng Caerdydd a Phorthcawl, mewn lleoliadau’n cynnwys y Barri, Ogwr a Southerndown. Wedyn symudodd y tîm ymlaen i Istanbul yn Nhwrci ac yna i Sisili ar gyfer gweddill y saethu.
A oedd unrhyw heriau i'w goresgyn yn ystod y gwaith cynhyrchu?
Roedd saethu ein ffilm annibynol gyntaf mewn tair gwlad gyda nifer fach, yn unig, o Benaethiaid Adrannau yn teithio gyda’r uned yn dipyn o gamp, ond daeth criwiau lleol ym mhob gwlad at ei gilydd i gefnogi gweledigaeth oedd pawb yn ei rhannu. ‘Roedd yn gyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol.
Gweithiodd y ddwy brif actores ifanc, Ebaba Hassan a Safiyya Ingar, yn hynod o galed ac roeddent yn bartneriaeth wych ar, ac oddi ar y sgrîn. Ni allwn aros i weld beth fyddant yn ei wneud nesaf.
Beth fyddwch chi’n ei wneud yn Sundance?
Mae ein hamser yn Sundance yn dechrau gyda premiere o Brides ar ddydd Gwener 24ain, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu’r ffilm gyda chynulleidfaoedd, ac i ddathlu gwaith caled pawb. Dyma fydd ein tro cyntaf yn Sundance, felly rydym am wneud yn siŵr ein bod yn mwynhau’r profiad i’r eithaf, yn cefnogi ac yn gwylio’r ffilmiau eraill, ond hefyd yn gwneud cysylltiadau newydd ar gyfer prosiectau’r dyfodol. Mae hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru a’r hyn sydd gennym i’w gynnig yma.
Sut y bu i gefnogaeth Ffilm Cymru Wales eich helpu chi a’r ffilm?
Mae cefnogaeth Ffilm Cymru Wales a Cymru Creadigol wedi bod yn amhrisiadwy i ni yn ie ie Productions, ac rydym yn teimlo’n hynod ffodus. Roedd y cyllid cynhyrchu a gawsom ar gyfer Brides yn rhan hollbwysig o'n jig-sô ariannu.
Beth sy’n gwneud Cymru yn lle mor llwyddiannus i’r sectorau ffilm a chreadigol?
Lleoliadau, talent, criwiau a chyfleusterau gwych. Rydym yn genedl fach gydag uchelgais enfawr. Mae gallu cael gafael ar gymorth ariannol ychwanegol yn y DU gan Ffilm Cymru Wales a Cymru Creadigol yn rhan bwysig o’n diwydiant ac yn gymhelliant gwych i ddenu prosiectau Prydeinig a rhyngwladol cyffrous i Gymru.
Beth hoffech chi weld mwy ohono yn y diwydiant ffilm yng Nghymru?
Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o feithrin a datblygu talent o Gymru - o awduron a chyfarwyddwyr i gynhyrchwyr a chwmnïau cynhenid - i'w helpu i dorri trwyddo ar y llwyfan rhyngwladol. Mae adeiladu diwydiant ffilm ffyniannus yn cymryd amser a buddsoddiad. Mae'n ecosystem sydd angen ei datblygu, ac mae cyd-gynyrchiadau yn ffordd wych o gydweithio'n greadigol ac yn ymarferol. Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau hynny sy’n dewis ffilmio yng Nghymru, mae gwir angen hefyd am adrodd mwy o straeon Cymreig dilys sy’n cynrychioli ehangder a chyfoeth ein cymunedau a’n diwylliannau. Mae angen mwy o gyllid ac adnoddau ar ffilmiau Cymreig hefyd i gyrraedd eu llawn botensial, does ond angen i ni edrych ar Kneecap am ysbrydoliaeth!
Beth nesaf i Brides?
Gwyliwch y gofod hwn!
Beth arall sydd ar y gweill gan ie ie Productions?
Mae llawer o sgyrsiau a phrosiectau cyffrous yn y gymysgedd, gan gynnwys mwy o gyd-gynyrchiadau a’n rhaglenni nodwedd sy’n cael eu cefnogi gan y BFI a Ffilm Cymru Wales: Madison gan Bethan Marlow ac On A Scale Of One To Ten gan Phoebe Eclair Powell. Mae’n ddyddiau cynnar ar y ddau brosiect, ac yn ystod y misoedd nesaf rydym yn gobeithio cyhoeddi cyfarwyddwyr a pharhau i archwilio partneriaethau a chyfleoedd ariannu.
Bydd Brides yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar 24ain Ionawr fel rhan o Gystadleuaeth Dramatig Sinema’r Byd Gŵyl Ffilm Sundance, gyda dangosiadau cyhoeddus ychwanegol tan 2il Chwefror.
Yng Ngŵyl Ffilm Sundance mae rhai o storïwyr a chynulleidfaoedd mwyaf blaenllaw a gwreiddiol y byd yn dod ynghyd er mwyn chwilio am leisiau newydd a safbwyntiau ffres. Ers 1985 mae cannoedd o ffilmiau a lansiwyd yn yr Ŵyl wedi mynd yn eu blaenau i ennill clod beirniadol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled y byd.