11 people posing for a photo

Troed yn y Drws Hwb Sgiliau Abertawe

Drwy gydol mis Mehefin, mae ein hwb sgiliau newydd yn Abertawe yn cynnal gweithgareddau, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau i'ch helpu i gael eich Troed yn y Drws yn y diwydiannau creadigol.

Os ydych chi'n byw yn lleol ac yn 18 oed neu'n hŷn, cofrestrwch yn ein hwb sgiliau yn HQ Urban Kitchen i ddarganfod sgiliau newydd a chreu'r cysylltiadau cywir. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch – dim ond diddordeb i wybod mwy am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ym myd ffilm, teledu a thu hwnt.

Ble

Mae ein Hwb Sgiliau Troed yn y Drws wedi’i leoli yn HQ Urban Kitchen, sydd yng nghanol Ardal Greadigol Abertawe:

Yr Hen Orsaf Heddlu, Llys Glas, Stryd y Berllan, Abertawe, SA1 5AJ 
www.hqurbankitchen.co.uk

Beth Sydd Ymlaen

O sgowtio lleoliadau i gynnal gŵyl ffilmiau, mae ein cyfres o gyrsiau hyfforddi deuddydd rhagarweiniol yn cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau i helpu i roi hwb i'ch gyrfa greadigol.   

  • Cyflwyniad i Ddylunio Cynhyrchiad gyda Joëlle Rumbelow. Bydd y gweithdai hyn yn ymdrin â'r egwyddorion sylfaenol a'r sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â chreu elfennau gweledol ar gyfer ffilm, teledu a mathau eraill o gynhyrchu’r cyfryngau. 
  • Cyflwyniad i Wisgoedd yn y Diwydiant gyda Zep Agopyan. Cyflwyniad ymarferol i weithio ym maes gwisgoedd, a rhai o'r gwahanol rolau / llwybrau sydd ar gael. 
  • Cyflwyniad i leoliadau ar gyfer ffilm a theledu gyda Hannah James-Johnson. Cwrs rhagarweiniol i'r Adran Leoliadau ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu.
  • Cynllunio, rhaglennu a chynnal gŵyl ffilmiau gyda Grant Vidgen, Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris. Dysgu sut i gynllunio, rhaglennu, hyrwyddo a chyflwyno gŵyl ffilmiau fach.  
  • Colur effeithiau arbennig anafiadau realistig ar gyfer ffilm a theledu gyda Danny Marie Elias, Square Peg Studios. Dysgu sut i greu effeithiau troslun 2d realistig a cholur anafiadau 3d realistig.
  • Caffi Gyrfaoedd gyda Stiwdios y BBC a Ffilm Cymru Wales
    Wales

Cymryd Rhan

Ynglŷn â rhaglen Troed yn y Drws

Mae Troed yn y Drws, rhaglen hyfforddi lwyddiannus Ffilm Cymru Wales, yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy i greu gyrfaoedd creadigol. 

Ers 2016, mae Troed yn y Drws wedi darparu rhaglenni sgiliau’r sector sgrin ledled Cymru, yn ogystal â lleoliadau hyfforddi i newydd-ddyfodiaid ar gynyrchiadau ffilm a theledu lleol fel Dream Horse, Un Bore Mercher / Keeping Faith, a Sex Education ar Netflix.  

Yn 2024, gyda chyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mewn partneriaeth â chynghorau a sefydliadau lleol, mae Ffilm Cymru Wales yn cynnig cyfleoedd newydd Troed yn y Drws i bobl yn Abertawe.

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar draws y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. 

nest of SPF logos