Myfyrio a'r Dyfodol
Wrth i Pauline Burt baratoi i roi’r gorau i’w rôl fel Prif Swyddog Gweithredol sefydlol Ffilm Cymru Wales, dyma gyfle i fyfyrio ar y newidiadau a’r llwyddiannau sylweddol sydd wedi llunio tirwedd byd ffilm yng Nghymru dros ei chyfnod o 17 mlynedd yn y swydd.
Ers i Pauline helpu i sefydlu Ffilm Cymru Wales (Asiantaeth Ffilm Cymru ar y pryd) yn 2006, mae’r sector ffilm yng Nghymru wedi ffynnu, wrth i’r asiantaeth ddatblygu feithrin gwneuthurwyr ffilm, cwmnïau cynhyrchu, sinemâu annibynnol ac ymarferwyr addysg, yn ogystal â datblygu llif sgiliau cynhwysol.
Hyd yma, mae Ffilm Cymru Wales wedi buddsoddi mewn 89 o ffilmiau nodwedd, gan eu cynorthwyo hyd at eu cynhyrchu, ac wedi rhoi cymorth datblygu i lawer mwy. Drwy gydol y cyfnod, mae ffocws Ffilm Cymru wedi bod ar eu hymrwymiad i brosiectau sy’n hybu awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru – boed y ffilmiau hynny’n cael eu ffilmio’n lleol neu’n rhyngwladol. Mae wedi arwain at gynnwys eang sydd wedi hybu’r economi leol ac wedi galluogi Cymru i wneud llawer o gydgynhyrchu’n rhyngwladol, gyda 25-30% o’r llechen wedi’i datblygu ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol.
Bu’n rhaid i Ffilm Cymru fod yn ystwyth gan sicrhau llawer o werth o adnoddau cyfyngedig, gyda’u buddsoddiad o £15.8m o arian cynhyrchu’r Loteri Genedlaethol yn ysgogi £102m o wariant, ac yn creu mwy na 269 o leoliadau i hyfforddeion cynhyrchu. Mae hefyd wedi arloesi mewn ffyrdd newydd o weithio gyda Chymdeithasau Tai, partneriaid lleol, colegau a darparwyr hyfforddiant trwy raglen Troed yn y Drws, gan fynd i’r afael â rhwystrau systemig i ddechrau gyrfa yn y diwydiannau creadigol. At hynny, mae’r asiantaeth wedi darparu grantiau o fwy na £3.3m i sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm a dangosiadau cymunedol ledled Cymru er mwyn i gymunedau ledled y wlad gael mwynhau ffilmiau annibynnol mewn lleoliadau cymdeithasol.
Mae Ffilm Cymru Wales bob amser wedi gweithio mewn partneriaeth ac wedi sefyll ochr yn ochr â sefydliadau ledled y DU, ynghyd â’r Llywodraeth, i ddatblygu atebion i heriau amrywiol, o Brexit a phandemig Covid-19 i gostau byw cynyddol, a newidiadau sylfaenol i ymddygiad cynulleidfaoedd a’r model busnes ar gyfer ffilmiau annibynnol. Mae hyn yn cynnwys eirioli dros gymorth hanfodol Llywodraeth Cymru i weithwyr llawrydd yn y diwydiant, a llywio’r cymorth yma, gan helpu i’w cadw yn y sector yn ystod y pandemig, wrth wneud pethau’n wahanol i ardaloedd eraill yn y DU.
Gyda Pauline wrth y llyw, mae Ffilm Cymru Wales wedi cyflwyno storïau hanfodol a lleisiau amrywiol gwneuthurwyr ffilm o Gymru i’r byd. Mae’r ffilmiau hyn yn cynnwys ffilm ddogfen deimladwy Gideon Koppel, Sleep Furiously, ffilm Rungano Nyoni a enillodd wobr BAFTA, I Am Not a Witch, ffilm arswyd gwlt Prano Bailey-Bond, Censor, ffilm eco-arswyd Gymraeg Lee Haven Jones, Gwledd, a ffilm fuddugoliaethus Euros Lyn, Dream Horse. Bydd y ffilmiau sydd i ddod yn siŵr o barhau â'r llwyddiant yma ar y sgrin fawr, wrth i ddrama gerdd Janis Pugh, Chuck Chuck Baby, drama Sally El Hosaini a James Krishna Floyd, Unicorns, a’r ffilm antur animeiddiedig, Kensuke's Kingdom, gyrraedd y sinemâu yn fuan.
Gan edrych ymlaen at ddyfodol byd ffilm yng Nghymru, bydd Cynllun Strategol newydd y sefydliad ar gyfer 2024-2030, sy’n tynnu sylw at gydraddoldeb, creadigrwydd, sgiliau, materion gwyrdd, entrepreneuriaeth a lles, yn darparu sgript sylfaenol gadarn er mwyn i’r sawl a fydd yn olynu Pauline arwain Ffilm Cymru Wales i mewn i act nesaf ei stori.
Dywed Pauline: “Braint lwyr yw rhedeg asiantaeth datblygu sector, ac mae wedi bod yn hynod foddhaus yn bersonol cael bod yn rhan o deithiau cymaint o gynhyrchwyr, awduron a chyfarwyddwyr, yn ogystal â sinemâu, gwyliau ffilm, darparwyr cymunedol, a phartneriaid ym maes sgiliau a hyfforddiant. Mae gan Ffilm Cymru dîm gwych, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnig boddhad mawr i’r Prif Weithredwr newydd.”
Meddai Cadeirydd Ffilm Cymru, yr Athro Ruth McElroy: “Mae Pauline wedi darparu arweinyddiaeth uchelgeisiol i Film Cymru o’r cychwyn cyntaf. Mae hi wedi dangos mor drawsnewidiol y gall datblygu talent fod. Mae twf diwydiant ffilm Cymru i’w briodoli i raddau helaeth i’w harweinyddiaeth hi a’r ymyriadau a roddodd ar waith fel Prif Weithredwr Ffilm Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am ei gwaith ac yn llawn cyffro wrth ddechrau ar y bennod nesaf gyda Phrif Weithredwr newydd.”