Talent creadigol yng Nghymru yn mentro i fyd ffilm drwy Ffolio
Mae BBC Arts, BBC Cymru, Chyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru wedi comisiynu pump yn rhagor o ffilmiau byr drwy Ffolio, eu platfform newydd ar gyfer talent creadigol yng Nghymru.
Mae Ffolio yn cynnig hyfforddiant, mentora a chyfleoedd comisiynu i bobl greadigol yng Nghymru sydd eisiau archwilio eu syniadau drwy gyfrwng ffilm.
Yn yr ail rownd hon o gyllid Ffolio, mae pum ffilm arall wedi’u dethol i gael eu cynhyrchu. Mae’r ffilmiau byr cyntaf hyn yn arddangos amrywiaeth gyffrous o dalent creadigol: awdur, bardd, artist, cyfarwyddwr celf dylunio ac actor.
Wrth groesawu’r prosiectau hyn i gasgliad Ffolio, meddai Cyd-Reolwr y Prosiect, Caroline Lane, “Rydym ni wrth ein bodd o fod yn comisiynu rownd arall o ffilmiau gwych gan unigolion sydd ag amrywiaeth mor eang o gefndiroedd creadigol. Bydd pob un ohonyn nhw’n derbyn cymorth ym mhob agwedd ar gynhyrchu i’w galluogi i ddod â’u syniadau cyffrous yn fyw drwy gyfrwng ffilm.”
Pum ffilm fer nesaf Ffolio fydd:
Arwel's Hourse
Ar ôl bod yn gweithio fel cynorthwyydd cynhyrchu a golygydd sgriptiau, mae gan Owen Davies bellach y cyfle i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilm fer ei hun. Mae Arwel’s House yn dilyn mam seren YouTube a fu farw wrth iddi dywys teithiau o amgylch cartref ei blentyndod yng ngorllewin Cymru i’w ddilynwyr o bedwar ban byd.
Feeding Grief to Animals
Mae menyw sy’n galaru am blentyn a gollwyd cyn ei eni yn sylwi’n sydyn bod anifeiliaid gwyllt yn cyrraedd ei gardd yn y ddinas. O hyn, caiff brofiad trawsffurfiol sy’n dod â hi’n ôl i’r wyneb wedi iddi fod yn boddi mewn galar. Bydd y bardd, yr awdur a’r cyhoeddwr Rebecca Parfitt yn adrodd ei stori aflonydd gan ddefnyddio pypedau cysgod ar gefndir sonogram.
Let it Be
Mae ffilm ddogfen Yusuf Ismail yn edrych ar fywyd Phillip Henry, un sy’n cadw gwenyn, cyn-ymgyrchydd cymunedol ac un o sylfaenwyr y Black Youth Charter. Bydd prosiect portread diweddar Yusuf, artist o Gaerdydd, yn cael ei arddangos yn nes ymlaen eleni. Mae’r prosiect, ‘My City, My Shirt,’, yn archwilio hil a chynhwysiant drwy lens pêl-droed.
Sin Eater
Mae ffilm y cyfarwyddwr celf o Rydaman, Oliver Gabe yn adrodd stori Christmas Evans, y pregethwr un llygad o Gwm Annwn, sy’n ymgodymu ag arian a dylanwad wrth i’w wasanaeth bwyta pechodau ddechrau ymddatod. Mae Oliver yn gweithio fel rhan stiwdio ddylunio Focus Group ac mae’n olygydd cyfranogol y cylchgrawn ffasiwn annibynnol, Buffalo Zine.
Skinny Fat
Ar ôl serennu mewn ffilmiau byr ar gyfer Gwobr Iris, S4C a Ffilm Cymru, yn ogystal ag ar raglenni teledu BBC a CBS, bydd yr actor o Gaerdydd, Mathew David, nawr yn ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilm ei hun. Yn Skinny Fat, mae dyn yn sylwi ar floneg ei fol mewn ystafell newid siop. Drwy ail-fyw perthynas gamdriniol flaenorol, a oes modd iddo garu ei gorff ei hun unwaith eto?
Yn ogystal â’r pum ffilm a gaiff eu comisiynu, mae Ffolio yn darparu cymorth datblygu ategol i Jo-el Isaac Bertram ar gyfer ffilm ddogfen Jukebox Collective, What it Takes? Ynghyd â holl gyfranogwyr Ffolio, bydd Jo-el yn elwa o arweiniad a mentoriaeth arbenigol gan y gwneuthurwyr ffilmiau Jay Bedwani (Donna), Euros Lyn (Dream Horse), Sara Sugarman (Vinyl), Janis Pugh (Chuck Chuck Baby) a Selina Wagner o Blobina Animations.
Ymgeisiodd dros 175 o bobl yn nwy rownd gyntaf Ffolio yn gynharach eleni. Y chwe ffilm a gomisiynwyd yn y rownd gyntaf oedd Cardiff, I Love You (teitl dros dro) gan yr awdur Lloyd Glanville, Daughters of the Sea gan y dawnsiwr bale Krystal S. Lowe, East in Colour gan y ffotograffydd Ashrah Suudy, The Golden Apple gan y bardd perfformio Hanan Issa, King of the Pit gan y cyfarwyddwr theatr Julie Benson, a Whelm gan y cerddor Angharad van Rijswijk.
Caiff yr holl ffilmiau gorffenedig eu dangos ar amrywiaeth o blatfformau’r BBC ar yr awyr ac ar-lein, gan gynnwys ar y teledu, BBC iPlayer a sianeli cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru.
Mae trydedd rownd Ffolio nawr ar agor ac yn derbyn ceisiadau. Gall talent creadigol yng Nghymru sy’n ystyried mentro i fyd ffilmiau gael mwy o wybodaeth a gwneud cais erbyn 7fed Awst fan hyn.