still from brides featuring two teenage girls in the backseat of a car peering out of the half-open window and smiling

Cyfle Swydd: Cydlynydd Talent

Mae Ffilm Cymru yn chwilio am gyfathrebwr gwych, sydd â sgiliau trefnu a phrofiad gweinyddol da, i gydlynu ein gwaith i gynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau. 

Teitl: Cydlynydd Talent
Cyfnod: Cyfnod penodol rhan-amser hyd at 31 Mawrth 2025 (dau ddiwrnod yr wythnos neu gyfwerth e.e. 4 x hanner diwrnod, yn dibynnu ar ddewis yr ymgeisydd)
Cyflog: £24,750 y flwyddyn, wedi'i addasu pro rata i ddau ddiwrnod yr wythnos
Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Tachwedd 2024 am hanner dydd
Cyfweliadau: 7 neu 8 Tachwedd 2024

Cyfrifoldebau Allweddol 

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r adran yn ymwneud â’n gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i wneuthurwyr ffilmiau
  • Gwneud trefniadau teithio a llety a threfniadau eraill yn ymwneud â'n gweithgarwch DPP
  • Trefnu a chofnodi cyfarfodydd gwneud penderfyniadau
  • Ffeilio a chydgrynhoi data sy'n ymwneud â'r uchod er mwyn adrodd i'n rhanddeiliaid.

Sgiliau a Phrofiad Allweddol

  • Profiad o ddefnyddio Microsoft Office Suite, Zoom a Teams.
  • Profiad proffesiynol o ymdrin â thasgau gweinyddol fel codi archebion prynu, archebion teithio, trefnu arlwyo, llogi lleoliad, a rheoli dyddiadur
  • Profiad proffesiynol o gydlynu digwyddiadau personol ac ar-lein ac o adrodd i gyllidwyr (arianwyr cyhoeddus yn ddelfrydol)

Sut i Wneud Cais

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat arall o gais gyda chi, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol mewn e-bost i Kim Warner - applications@ffilmcymruwales.com - yn nodi pryd rydych chi ar gael ac yn dangos yn glir sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn bodloni'r Gofynion Sylfaenol a manyleb y swydd sydd wedi’i nodi yn y pecyn hwn. 

Defnyddiwch y pennawd: Swydd Cydlynydd Talent.

Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd, dydd Gwener 1 Tachwedd 2024. 

Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Os ydych yn ymgeisydd mewnol sy’n gweithio yn Ffilm Cymru, trafodwch gyda’ch rheolwr llinell cyn gwneud cais. 

Cynhelir cyfweliadau ar 7 neu 8 Tachwedd 2024, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chymorth Mynediad

Credwn mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector hwnnw.

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein Meini Prawf Gofynnol ar gyfer y swydd ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol neu bobl F/fyddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol. 

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 
  
Cysylltwch ag Ihsana Feldwick - ihsana@ffilmcymruwales.com - i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.