Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Tracy Spottiswoode
I ddathlu darllediad diweddaraf y BBC o’r ffilmiau byrion cafodd eu gwneud drwy ein cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru Wales am rannu cyfweliadau sy’n cyflwyno’r gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru fu’n gyfrifol am wneud y ffilmiau.
Wedi’i hysbrydoli gan stori wir y ‘Ladies of Llangollen’ chwedlonol, yn nrama gyfnod Tracy Spottiswoode, Sally Leapt Out of a Window Last Night, gwelwn Sally ac Eleanor yn syfrdannu’r gymdeithas ac yn dianc rhag yr hyn oedd eu teuluoedd wedi’i gynllunio ar eu cyfer.
Cyn darlledu’r ffilm, buom yn siarad â Tracy ynglŷn â chyflwyno hanes i gynulleidfaoedd cyfoes, am ddatblygu strategaethau gŵyl, ac am arbrofi gyda gwneud ffilmiau VR.
Helo Tracy, alli di ddweud rhywfaint wrthym amdanat ti dy hun?
Fel nifer o ysgrifenwyr-gyfarwyddwyr, mae ngyrfa wedi bod yn un o ‘droellog’! Wedi graddio mewn Drama a Chelf o CPC Aberystwyth, dechreuais fel actor proffesiynol a dylunydd llwyfan (y ddau ar yr un pryd weithiau), yn aml yn gweithio gyda chwmnïau theatr yn gwneud gwaith dyfeisiedig safle-penodol, a arweiniodd yn naturiol at ysgrifennu a chyfarwyddo, ym myd y theatr i ddechrau ac yna ym myd radio, teledu a ffilm. Bûm yn byw ac yn astudio ym Mhrâg am gyfnod byr, ac arweiniodd hynny at y ffaith i mi gwympo mewn cariad â ffilmiau Tsiec New Wave, gan ysbrydoli nifer o brosiectau ar thema’r Rhyfel Oer gan gynnwys fy ffilm animeiddio stop motion cyntaf. Roedd animeiddio yn ffordd dda o fynd ati i gychwyn gwneud ffilmiau, a cefais gyfuno llawer o'r pethau rwy'n eu caru: ysgrifennu, cyfarwyddo, dylunio modelau a setiau, ac actio hefyd oherwydd mae'n rhaid i chi ymgorffori'ch pypedau a dod â'u cymeriadau'n fyw.
Gweithiais gyda Ffilm Cymru Wales rhwng 2010 a 2017 fel Swyddog Datblygu, yna fel Rheolwr RHWYDWAITH y BFI Cymru, a rhoddodd hynny fewnwelediad gwych i mi o’r diwydiant ffilm o safbwynt gwahanol. Rwyf bob amser wedi ceisio defnyddio'r profiad hwnnw i helpu gwneuthurwyr ffilm eraill i frwydro yn erbyn rhagdybiaethau a goresgyn rhwystrau. Nawr rwy’n falch iawn o fod yn ôl gyda Ffilm Cymru Wales fel Rheolwr Datblygu Talent, ond gan fy mod yn rhannu’r swydd hon, gallaf barhau i wneud fy ngwaith fy hun a phontio’r ddwy ochr – er lles pawb, gobeithio!
Sut glywais di gyntaf erioed am y ‘Ladies of Llangollen?’
Dydw i ddim yn hollol siŵr ond dwi'n meddwl bod rhaid i mi ddiolch i Sara Sugarman? Rwy’n weddol siŵr mod i’n cofio Sara yn sôn amdanyn nhw mewn digwyddiad Gwobr Iris flynyddoedd yn ôl. Fel cymaint o hanesion a straeon o Gymru, roedd gen i frith gof mod i wedi clywed amdanynt rhyw bryd, ond doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw mewn gwirionedd. Fel awdur, mae gen i ddiddordeb cyson mewn datgelu straeon anghyfarwydd a lleisiau o Gymru nad ydynt wedi cael eu clywed, a phan wnes i ymchwilio’n ddyfnach i’w cefndir, sylweddolais fod ‘stori darddiad’ ddramatig fawr yno nad oedd wedi’i darlunio ar y sgrîn ar ffurf naratif ffuglenol.
Wrth ei dramateiddio cefais y cyfle i archwilio trosiadau gweledol a’u hystyried mewn ystyr ehangach, yn hytrach na ffeithiau dogfennol yn unig. Rydw i wedi gwirioni ar waith Peter Greenaway erioed, yn ogystal â Kelly Reichardt, Andrea Arnold a Cate Shortland. Dylanwad arall oedd yr artist lesbiaidd swrealaidd Claude Cahun.
Beth am eu stori nhw sy’n dal i atseinio heddiw?
Mae straeon sy’n sôn am bobl sy’n gorfod gwrthryfela a gwrthwynebu wedi fy niddori erioed, straeon lle mae pobl yn gorfod brwydro’n galed cyn ennill buddugoliaeth, ar waethaf gormes o bob math. Mae digon o dystiolaeth yn bodoli yn dangos bod Sally mewn sefyllfa #MeToo gyda Syr William, ei gwarcheidwad, a bod pwysau mawr ar Eleanor i briodi neu byddai’n cael ei halltudio i leiandy am weddill ei hoes, felly roedd rhaid iddynt ddianc. Roedd hon yn weithred feiddgar ac yn un ddewr iawn, yn enwedig yn Iwerddon ym 1778. Fel merched roedd eu sefyllfa yn hynod o ansicr, nid oedd gan y naill na'r llall incwm annibynnol, ac roeddynt yn dibynnu ar yr hyn a roddwyd iddynt gan gymdeithas batriarchaidd, sy'n dal yn wir am lawer o ferched heddiw.
Cefais fy nenu at y stori garu cwîar hon, a sut roedd eu brwydr i fyw gyda'i gilydd, ar eu telerau eu hunain, yn atseinio ar hyd y canrifoedd, ac mae’n dal i atseinio hyd heddiw i bobl LGBTQ+ ledled y byd. Yn ffodus, roedd diweddglo hapus i’w stori nhw, ac efallai mai dyna un o’r rhesymau pam eu bod wedi ennill statws chwedlonol a bod eu hetifeddiaeth yn ein hysbrydoli hyd yn oed heddiw.
Mae’r ffilm wedi bod yn llwyddiannus mewn gwyliau, gyda’r dangosiad cyntaf yn y DU yn digwydd yng Ngŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris y llynedd; sut wnes di ddatblygu dy strategaeth ar gyfer gwyliau?
Ydy, mae hynny wedi bod yn brofiad pleserus. Mae wedi cael ei dewis i’w dangos mewn tua 20 o wyliau ledled y byd, ac wedi ennill chwe gwobr, gan gynnwys y Ffilm LGBT Orau, y Cyfarwyddwr Benywaidd Gorau a’r Sinematograffi Gorau, ac roeddem yn falch iawn o ennill Gwobr Ffilm Fer Cwîar Chapter 2023. Mae cael mynediad i wyliau yn anhygoel o galed ac yn ddrud iawn hefyd, felly mae angen gwneud cryn dipyn o gynllunio strategol, ac os ydych yn drefnus, byddwch yn creu taenlen fawr sy’n cynnwys dyddiadau, ffioedd mynediad, a’r manteision a’r anfanteision. Mae’n ddefnyddiol edrych ar y rhestr o wyliau sy’n gymwys ar gyfer BIFA a BAFTA, a’r rhai y bydd y Cyngor Prydeinig yn eich cefnogi i’w mynychu drwy gynnig grantiau teithio, os cewch eich dewis. Mewn rhai, fel Iris er enghraifft, er efallai byddant yn dangos eich ffilm y tu allan i’r gystadleuaeth, mae’n dal yn bosibl ei bod yn gymwys ar gyfer BIFA a BAFTA Cymru, felly mae’n werth gwneud ychydig o waith ymchwil. Mae’n hollbwysig cadw llygad ar ddyddiadau penodol - ar gyfer ffioedd mynediad ‘cynnig cynnar’, allai arbed arian i chi, neu côd ildio, a hefyd y dyddiad wnaethoch chi gwblhau’r ffilm oherwydd gall hynny weithiau effeithio ar ei chymhwyster i gael ei chynnwys mewn rhai o’r prif wyliau neu beidio. Nid yw pob gŵyl yn cael ei chynnwys ar Film Freeway, felly edrychwch ar eu gwefannau unigol, a chofrestru ar lwyfannau eraill. Yn anad dim, penderfynwch beth yw, neu beth allai eich USP fod, fel nad ydych yn cystadlu â phob ffilm Ddrama arall sydd ar gael. Fel ffilm fer cwîar roedd gwyliau LGBTQ+ yn darged pwysig, neu'r rhai oedd yn cynnwys y categori hwnnw, yn ogystal â’r rhai i fenywod sy'n gwneud ffilmiau. Wedi dweud hynny, mae wedi bod yn syndod gweld rhai o’r ffilmiau sydd wedi eu dewis, a’r rhai na chawsant eu dewis, er enghraifft ni oedd yr unig ffilm o’r DU (ffilm nodwedd neu ffilm fer) i’w dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Nepal allan o 96 o ffilmiau o 35 o wledydd, felly mae’n amhosib dweud!
Pa fath o gefnogaeth gefais di gan Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH y BFI?
Cawsom gefnogaeth anhygoel gan Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI, yn enwedig wrth i’r cyfnod clo cyntaf ddigwydd pan oeddem wedi bwriadu dechrau saethu, felly roedd rhaid gohirio popeth am flwyddyn arall. Roedd yn rhwystredig, ond mewn ffordd arall roedd yn fanteisiol gan i ni gael rhagor o amser i baratoi (ac fe wnes i baratoi'n uffernol o galed o ran creu bwrdd stori, gwaith animatig, creu rhestrau o siots a chynnal sesiynau prawf gyda'r Prif Ffotograffydd, Keefa Chan). Daeth hynny â chostau ychwanegol yn ei sgîl hefyd, felly roeddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth Cofid, a oedd yn lleddfu rhywfaint ar y straen o wneud drama wisgoedd ar gyllideb dynn iawn. Mae Ffilm Cymru Wales bob amser wedi bod yn eiriolwyr gwych dros talent o Gymru, ac rydym yn ffodus iawn i gael asiantaeth ffilm mor gefnogol yng Nghymru.
Alli di ddweud wrthym am dy brofiadau o arbrofi gyda gwneud ffilmiau VR?
Yn 2018 bûm yn ddigon ffodus i dderbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a bu i hyn fy nghalluogi i dreulio tua 18 mis yn ymchwilio a datblygu sut i adrodd straeon XR. Ar hyd y daith, cwympais mewn cariad llwyr â VR a'i botensial i adrodd straeon trochi. Fe wnes i gwrs byr ar gyfarwyddo 360VR yn Raindance, ond rydw i wedi gorfod dysgu fy hun fwy neu lai trwy gymysgedd o arbrofi, gan lwyddo a methu, a gwylio fideos YouTube di-ri. Mewn sawl ffordd mae’n debyg i sut ddechreuais i ym myd theatr drochi, a dyna sut es i ati i wneud fy mhrosiect 360VR cyntaf, A Signal Across Space/Arwydd Drwy’r Awyr. Perfformiwyd honno am y tro cyntaf yn 2022 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a dyma’r ffilm VR greadigol gyntaf yn y Gymraeg a’r Saesneg. Llafur cariad oedd y gwaith, a gymerodd gryn dipyn o amser, o ystyried bod yr ail gyfnod clo wedi amharu ar y prosiect, ond ar y cyfan roedd yn brofiad braf gweithio gyda thîm creadigol gwych, a’r hydref hwn mae’n cael ei premiere rhyngwladol yn Toronto, yn FIVARS 2023.
Cynhyrchwyd Sally Leapt Out of a Window Last Night gan Kathy Speirs a Stella Nwimo drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales. Gallwch ei gwylio ar BBC Two ar 17 Hydref.