Cymysgydd Talent Rhithiol Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru
Ymunwch â ni am rywfaint o hwyl Nadoligiadd a chyfle i rwydweithio yng nghwmni’r digrifwr a’r awdur comedi Priya Hall!
Os ydych chi’n awdur, yn gyfarwyddwr neu’n gynhyrchydd yn neu o Gymru a’n awyddus i gysylltu â’ch cyd-wneuthurwyr ffilm am ychydig o hwyl yr ŵyl, yna byddwch yn siŵr o fwynhau digwyddiad Cymysgydd Talent Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru. Mae croeso cynnes hefyd i bawb sy’n gweithio ym myd arddangos neu addysg ffilm yng Nghymru i ymuno â ni.
Bydd yma gomedi stand-yp, gemau a chyfle i gymysgu mewn grwpiau bychan. Efallai bydd gwobr ar gael hefyd…
Priya Hall
Mae Priya Hall yn ddigrifwr ac yn awdur comedi o dras Cymreig-Indiaidd, ac mae ei gyrfa ym myd comedi Lloegr a Chymru yn mynd o nerth i nerth.
Mae eisoes wedi ymddangos ar BBC Presents: Stand up for Live Comedy (BBC 1 & 3), Fred At The Stand (BBC Radio 4), Mach Fest (BBC Radio Wales), Stand Yp (S4C), a Hunllef yng Nghymru Sydd (BBC Radio Cymru). Mae’n cyflwyno’r podlediad Here to Judge, sydd ar gael ar Spotify. Mae’n westai rheolaidd ar Sunday Morning With Joanna Page (BBC Radio Wales) ble mae’n siarad am straeon newyddion yr wythnos.
Mae Priya hefyd wedi ysgrifennu a serennu mewn rhaglen beilot newydd i BBC 2 Wales, Beena and Amrit, sydd i’w gael ar BBC i-player ar hyn o bryd. Darlledwyd y peilot hefyd ar BBC Radio Wales.
Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer Welcome Strangers (BBC Radio Wales), The Leak (BBC Radio Wales), a Ni Hefyd (S4C). Mae ganddi radd BA mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, a’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae comedi Priya wedi ei disgrifio fel “gor-rannu doniol dros ben” (hilariously oversharing - Bristol 24/7), sy’n llawn hwyl a chwerthin ond yn aml yn creu cynnen rhyngddi hi a’i mam.
Os hoffech fynychu’r digwyddiad a bod gennych anghenion mynediad ychwanegol gyrrwch e-bost at Tracy Spottiswoode i tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 er mwyn trafod yn gyfrinachol.
This event is sponsored by Nation.Cymru. Wales’ only independent news platform is proud to support the independent filmmakers of Wales
Thanks also to Pontio Arts Centre, Film Hub Wales and Winding Snake Productions for their generous donations.