still from timestalker featuring two people in georgian costume standing in a wood holding hands. the person on the left is holding an old pistol.

Ffilm o Gymru yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm yr Unol Daleithiau

Bydd ffilm nodwedd newydd a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Ffilm Cymru yn cael ei dangos yn yr ŵyl gerddoriaeth a ffilm ryngwladol fyd-enwog, SXSW yn Austin, Texas yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae Timestalker yn un o naw ffilm annibynnol o Gymru sy'n elwa o £2m o gyllid Llywodraeth Cymru drwy gronfa gynhyrchu ffilmiau nodwedd Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales. Mae'r gronfa hefyd yn cael ei chefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol Ffilm Cymru sy'n cael ei roi drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Mae'r gomedi ramantus sci-fi hir-ddisgwyliedig yn adrodd hanes cariad gwrthodedig drwy'r canrifoedd. Mae'n serennu awdur a'r cyfarwyddwr, Alice Lowe ochr yn ochr â Jacob Anderson, Aneurin Barnard, Tanya Reynolds a Nick Frost, ac fe'i ffilmiwyd yn rhannol yng Nghymru.

Dywedodd Vaughan Sivell, Cynhyrchydd a Chynhyrchydd Gweithredol: "Cafodd Timestalker ei ffilmio yng Nghymru gyda chriw Cymreig anhygoel yn bennaf.

"Mae cefnogaeth gan Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales yn hanfodol er mwyn i dalent annibynnol wirioneddol wreiddiol ddod i'r amlwg, ac wrth barhau i gefnogi twf ein cwmni, gallwn yn ein tro logi a hyfforddi criw cynhyrchu o'r safon uchaf."

Ychwanegodd Alice Lowe: "Roedd ffilmio yng Nghymru gyda'r criw Cymreig yn wych ac rydw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom. Dwi wrth fy modd bod Timestalker yn gallu chwifio baner Cymru o gwmpas y byd!"

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae'n newyddion gwych y bydd y ffilm gyntaf i gael ei chefnogi gan y gronfa ffilmiau nodwedd yn cael ei dangos i gynulleidfa ryngwladol yn y digwyddiad amlwg hwn.

Mae cyfuno cyllid Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, sy'n creu ffordd symlach i wneuthurwyr ffilmiau annibynnol gael mynediad at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Fel gyda'n cyllid cynhyrchu arall, mae gwella mynediad at dalent a chyfleoedd Cymru i hyfforddeion yn flaenoriaeth allweddol ac roeddwn yn falch o weld chwe hyfforddai o Gymru yn gweithio ar y ffilm hon."

Ffilm arall sydd wedi'i chefnogi gan y gronfa cynhyrchu ffilm yw The Man in My Basement - a welodd yr actor a enwebwyd am Wobr Tony, Corey Hawkins a’r actor a enwebwyd am Oscar, Willem Dafoe, ar leoliad yn ne Cymru.

Mae The Man in My Basement yn ffilm gyffro sy'n seiliedig ar nofel Walter Mosley. Mae Charles Blakey (Hawkins) yn ddyn sy’n wynebu bygythiad o golli cartref y teulu ac yn derbyn cynnig amheus gan ddieithryn dirgel (Dafoe), sy’n gyflym yn mynd o chwith.

Y ffilmiau annibynnol eraill a gefnogir gan y gronfa yw; Brides, Mr Burton, Chennai Story.

Dywedodd Prif Weithredwr newydd Ffilm Cymru Lee Walters: "Rydym wrth ein bodd y bydd cynulleidfa ryngwladol yn cael y cyfle i fwynhau Timestalker yn SXSW; mae disgwyl iddi fod yn wledd go iawn i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae partneriaeth Ffilm Cymru Wales a Cymru Greadigol yn parhau i ffynnu ac rydym yn gyffrous iawn i gael amrywiol ffilmiau ar y gweill sy'n arddangos ac yn cefnogi talent ffilm Cymru."

Mae'r gronfa cynhyrchu ffilmiau nodwedd yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau a chefnogi newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, yn enwedig y rhai sydd ar brentisiaethau ffurfiol ar hyn o bryd trwy leoliadau dan hyfforddiant cyflogedig.

Dywedodd Caroline Evans, Hyfforddai Gwallt a Cholur ar The Man in My Basement: "Gweithiais gyda thîm gwych a oedd yn fy nghadw yn y ddolen o bopeth oedd yn digwydd. Roedd yn teimlo'n hynod o gynhwysol."

Ychwanegodd Carie Martyn, Hyfforddai Celf: "Y profiad gorau i mi ei gael erioed. Roedd y cast a'r criw mor gyfeillgar a chroesawgar - roedd yn freuddwyd llwyr. Roeddwn i'n gallu bod yn greadigol iawn, mae'n rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio!"