Ffolio yn comisiynu gweithiau celf ffilm a sain newydd gan dalent creadigol yng Nghymru sydd â rhywbeth i’w ddweud
Mae Ffilm Cymru Wales, BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu pedair ffilm fer newydd a phedwar prosiect sain arloesol drwy Ffolio, eu llwyfan ar gyfer talent creadigol yng Nghymru.
Mae Ffolio yn cynnig hyfforddiant, mentora a chyfleoedd comisiynu’r BBC i bobl greadigol yng Nghymru sydd heb brofiad proffesiynol ym myd ffilm, teledu neu radio. Boed yn ddawnswyr, blogwyr, cerddorion, awduron, ffotograffwyr, artistiaid graffiti, dylunwyr gemau, pypedwyr, perfformwyr syrcas neu animeiddwyr, mae Ffolio yn gyfle newydd i bobl yng Nghymru ddathlu eu creadigrwydd.
Ar ôl tair rownd o gomisiynu ffilmiau byr, roedd Ffolio yr haf yma yn cynnig cyfle mwy hygyrch i bobl greadigol yng Nghymru ddatblygu eu syniadau i greu prosiectau sain unigryw. Mae’r gweithiau celf sydd wedi’u comisiynu yn adrodd storïau hanfodol ynglŷn ag iechyd meddwl, mewnfudo ac anabledd drwy gyfuniad ymdrochol o’r gair llafar a seinwedd. Dyma’r pedwar prosiect sain llwyddiannus sydd wedi’u dethol i’w cynhyrchu a’u rhannu ar draws llwyfannau’r BBC:
Endo
Wedi’i gyflwyno drwy farddoniaeth lafar a churiadau gwreiddiol, mae Endo gan y bardd a’r awdur Llio Elain Maddocks, yn dilyn taith gythryblus merch rwystredig at gael diagnosis o endometriosis. Yn 2020, cyhoeddodd Llio ei nofel gyntaf, 'Twll Bach yn y Niwl', gyda’r Lolfa, ac yn ddiweddar rhyddhaodd bamffled o’i instagerddi, 'Stwff Ma Hogia 'Di Ddeutha Fi', gyda’r Stamp.
Lung Which Not
Mae darn sain arbrofol yr artist amlddisgyblaethol Dominika Rau, Lung Which Not, yn mynd i’r afael â mewnfudo a chyfathrebu mewn ffordd ddramatig a barddonol o safbwynt siaradwr ail iaith. O Wlad Pwyl y daw Dominika yn wreiddiol, ac mae bellach yn seiliedig yng Nghymru. Mae ei hymarfer yn cynnwys y gair llafar, ysgrifennu dramâu ac adrodd storïau, yn ogystal â dawns, actio a meim.
Tam vs the Horsefly
Yn plethu drwy seinwedd farddonol arbrofol Tamsin Griffiths, mae stori am fenyw baranoid sy’n gorfod amddiffyn ei chartref yn erbyn ei gelyn pennaf. Mae Tamsin yn gyfarwyddwr, awdur, perfformiwr ac artist seinwedd a gweledol, a ffurfiodd gwmni’r celfyddydau ac iechyd, Four in Four, i greu prosiectau cyfranogol sy’n herio canfyddiadau o iechyd meddwl.
Tectonic
Awdur, comedïwr a hwylusydd addysgol yw Dan Mitchell, ac mae ganddo angerdd at natur, mytholeg ac ochr dywyll hanes. Mae ei ddrama arbrofol dair rhan, Tectonic, yn pontio’r bwlch rhwng yr hysbys a’r anhysbys wrth iddi ddilyn bachgen yn ei arddegau drwy ei berthynas emosiynol ag epilepsi.
Mae Ffolio wedi comisiynu pedair ffilm fer newydd gan wneuthurwyr ffilm newydd:
Diomysus
Ffilm ddogfen siriol sy’n archwilio an-fonogami moesegol, sy’n cael ei hadrodd drwy gyfrwng pypedau llygod amlgariadus. Dyma ffilm gyntaf Emily Morus-Jones, sy’n bypedwr, gwneuthurwr pypedau a chydlynydd FX creaduriaid ar gyfer ffilmiau, teledu a digwyddiadau byw. Mae wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer CBBC, ITV, Sky1 a Netflix, yn ogystal â pherfformio gydag Ed Sheeran, Calvin Harris a Dua Lipa.
Echdoe – The Day Before Yesterday
Dyma ffilm ddogfen ddwyieithog aflinol am wytnwch gan Gwen Thomson, cyfarwyddwr theatr, actor, pypedwr, cerddor a pherfformiwr syrcas. Mae ei ffilm fer gyntaf yn dilyn y cerddor clasurol Cheryl Law wrth iddi ddychwelyd i leoliad ei damwain, gan amlygu perthynas unigryw â’i hanes wrth iddi ddod i delerau â’i thrawma.
Silent Pride
Mae gan Sammy orbryder cymdeithasol, ac mae Ffion yn fyddar. Mae’r ddwy ferch yn dod o hyd i’w gilydd wrth guddio mewn parti ysgol uwchradd. Er bod y cyfathrebu’n anodd rhyngddynt, mae ’na gyswllt yn datblygu, ac mae’r sbarc hwn yn tyfu mewn byd lle mae distawrwydd yn drech na geiriau. Mae’r ffilm hon gan yr actor cwiar o Gymru, Kristy Philipps, yn archwilio arwahanrwydd a chyswllt mewn byd sy’n aml yn betrusgar ynglŷn â dathlu ein gwahaniaethau.
Yew
Yn y ffilm hon, mae bachgen yn myfyrio ar ei atgofion o’i fam-gu a’i pherthynas ryfedd â’r goeden ywen hynafol a saif y tu ôl i’w stad o dai yng nghymoedd de Cymru. Mae ffilm yr awdur James Davis yn rhoi golwg farddonol ar effeithiau galar a sut mae’n gysylltiedig â natur ddigyfnewid a dirgel tirwedd Cymru.
Bydd yr wyth prosiect yn awr yn mynd ymlaen i gael eu cynhyrchu, a chaiff hyfforddiant wedi’i deilwra a mentoriaeth arbenigol eu darparu i’r gwneuthurwyr ffilm a sain newydd yma. Mae eu mentoriaid yn cynnwys Prano Bailey-Bond (Censor), Joanna Wright (Atomfa), Charlotte James (Ffasiwn), David Sant (Home) a Julian Kemp (Jamie Johnson).
Ers 2020, mae Ffolio wedi comisiynu 12 o ffilmiau byr bywiog sy’n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog Cymru o dalent creadigol, gan gynnwys In a Room Full of Sisters gan y ffotograffydd Ashrah Suudy, Cardiff, I Love You gan yr awdur Lloyd Glanville, a Skinny Fat gan yr actor Mathew David, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn noson agoriadol Gŵyl Ffilmiau LGBT+ Gwobr Iris eleni. Mae gwneuthurwyr ffilmiau Ffolio, Krystal S. Lowe ac Oliver Gabe, hefyd wedi mynd ymlaen i ddatblygu ffilmiau byr olynol drwy Beacons, cynllun ffilmiau byr Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru.