Arddangos Ffilmiau Byr a Rhwydweithio - Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI
Mae Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Pontio yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn digwyddiad rhad ac am ddim sy’n arddangos ffilmiau byr yn gysylltiedig â gogledd Cymru, ynghyd â chyfle i gwrdd a sgwrsio â gwneuthurwyr ffilmiau eraill, a bydd diodydd a danteithion ar gael.

Fel rhan o'r digwyddiad, bydd sesiwn holi ac ateb gyda'r gwneuthurwyr ffilmiau dan ofal Stephanie Steventon, Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau a Ffilmiau ym Mhrifysgol Bangor.
Os ydych chi'n awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd sy'n dymuno gwneud eich ffilm fer gyntaf wedi’i hariannu gan y diwydiant, neu'n astudio neu'n gweithio ym myd ffilm a'r cyfryngau, dyma gyfle gwych i gysylltu â thîm RHWYDWAITH BFI Cymru a gwneuthurwyr ffilmiau eraill, yn ogystal â dysgu mwy am wahanol gyfleoedd.

Nant
Brwydr am hunaniaeth gwiar ym mynyddoedd Eryri. Rhaid i Dion lywio ei ddeffroad rhywiol, a hynny dan arweiniad ysbrydion o orffennol Cymru.
Wedi'i dewis ar gyfer Gŵyl Ffilm Llundain BFI 2022
Awdur-Gyfarwyddwr: Tom Chetwode-Barton
Cynhyrchydd: Vivien Kenny
Cwmni Cynhyrchu: Strike Pictures

Jelly
Comedi anghonfensiynol wedi'i gosod yng ngogledd Cymru. Mae Kerry wedi diflasu. Mae wedi cael llond bol ar fywyd yn ei thref fechan ac yn blino fwyfwy ar gyflwr y byd. Un diwrnod mae'n dilyn llwybr i ddihangfa danddaearol lle y daw o hyd i jeli, gobaith a merch ei breuddwydion.
Awdur-Gyfarwyddwr: Samantha O'Rourke
Cynhyrchwyr: Rachel Wilson, Alex Ashworth, Victoria Fleming
Cwmni Cynhyrchu: Jelly Film

Sally Leapt Out of a Window Last Night
Iwerddon 1778. Mae Sally ac Eleanor yn diystyru confensiwn ac yn dwyn gwarth ar gymdeithas wrth ddianc rhag y dynged y mae eu teuluoedd wedi'i chynllunio ar eu cyfer. Maen nhw'n ffoi i fod gyda’i gilydd.
Wedi'i hysbrydoli gan stori wir y 'Ladies of Llangollen.'
Awdur-Gyfarwyddwr: Tracy Spottiswoode
Cynhyrchwyr: Kathy Speirs, Stella Nwimo
Cwmni Cynhyrchu: Up Helly Aa
Hyd y dangosiad: 53 munud ac yna sesiwn holi ac ateb
Ar ôl y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gyda'r cyfarwyddwyr Tom Chetwode-Barton a Tracy Spottiswoode.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynion mynediad neu ddietegol, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.
Mae Pontio yn lleoliad hygyrch a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth fan yma.
Mae yna hefyd nifer gyfyngedig o leoedd i gael cyfarfod un i un gyda swyddog gweithredol RHWYDWAITH BFI Cymru ar 8fed Chwefror, i'r rhai sy’n dymuno cael arweiniad pwrpasol ar ddatblygu gyrfa a/neu sy'n gwneud cais i unrhyw un o'n cronfeydd.