Cyfle Swydd: Rheolwr Ariannol
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chymwysterau rheoli ariannol cryf, a all hefyd weithio ar draws y cwmni i gefnogi rheolwyr arbenigol yn ein hymgyrch i gynorthwyo'r sector ffilm.
Teitl: Rheolwr Ariannol
Cyfnod: Swydd amser llawn, barhaol.
Cyflog: £48,600 - £54,000 y flwyddyn, ynghyd â phensiwn. Rydym yn defnyddio system gyflog 5 pwynt a byddwn fel arfer yn penodi ar bwynt 1 o'r radd ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16:00 ar 29 Awst 2023
Dyddiad Cyfweliadau: 13 Medi 2023.
Dyddiad Cychwyn: Tymor yr hydref 2023
Sut i Wneud Cais
Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol i Hayley Lau - Hayley@ffilmcymruwales.com - yn nodi pryd rydych ar gael a’ch profiad a'ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn y fanyleb isod.
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais erbyn 16:00 ar 29 Awst 2023.
Nid yw Ffilm Cymru Wales yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon.
Cymorth Mynediad
Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.
Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein Meini Prawf gofynnol ar gyfer y rôl ac sy'n arddel hunaniaeth siaradwyr Cymraeg rhugl, Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig neu bobl F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.
Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.
Cysylltwch â Hayley Lau ar Hayley@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.