Beacons: Bord Gron Animeiddio
Ymunwch â ein Bord Gron Animeiddio Beacons i gael gwybod mwy am Gronfa Ffilm Fer Beacons.
Ydych chi'n animeiddiwr o Gymru sy'n awyddus i wneud eich campwaith ffilm fer gyntaf wedi'i hariannu gan y diwydiant? Neu’n awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Gymru sy'n cydweithio ag animeiddiwr ar ffilm fer newydd?
Ymunwch â Ffilm Cymru a BFI NETWORK Cymru i gael gwybod mwy am Gronfa Ffilm Fer Beacons, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau.
Mae Beacons yn cael ei redeg mewn partneriaeth â BBC Cymru. Mae'n darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilm i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byrion a gynhyrchwyd drwy'r cynllun wedi llwyddo mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrau, cael eu darlledu ar BBC Cymru a'u rhyddhau ar iPlayer.
Yn ystod y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim hwn cewch gyfle i gysylltu'n anffurfiol â thîm BFI NETWORK Cymru a gyda gwneuthurwyr ffilmiau wedi’u hanimeiddio eraill. Byddwn yn hapus i ateb eich cwestiynau am Beacons a rhoi arweiniad strategol ar wneud cais.