Gyrfaoedd Sgrin
Gallwn helpu i ddatgelu a thaflu goleuni ar y daith gyffrous o fynd â sgript i’r sgrin fawr.
Bydd ein pecyn cymorth Gyrfaoedd Sgrin yn eich helpu i ddod o hyd i gyngor ar lefel gychwynnol mewn gyrfa a gwybodaeth fanwl am y rolau niferus ac amrywiol sydd ar gael i chi yn y diwydiant ffilm a theledu.
Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru
Ysbrydoli, hysbysu a chefnogi pobl ifanc yng Nghymru tuag at yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol
Mae Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru (rhaglen CCP Cymru) ar flwyddyn beilot, ac eisoes wedi darparu sesiynau hyfforddi i 225 o ymgynghorwyr gyrfaoedd ledled Cymru, gan gefnogi eu dealltwriaeth o’r swyddi amrywiol yn y sector, a throsglwyddedd sgiliau a swyddi o un maes i’r llall.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Cymru Greadigol, mae Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol Cymru (CCP Cymru) yn cael ei harwain gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru, ScreenSkills a Trac Cymru.
For new entrants to the creative industries and careers advisors.