Gyrfaoedd Sgrin: Cyfleusterau ol-gynhyrchu
Ôl-gynhyrchu yw’r cam ar ôl y cynhyrchu pan fydd y ffilmio wedi gorffen a’r gwaith i olygu’r deunydd gweledol a sain yn cychwyn. Mae ôl-gynhyrchu yn cyfeirio at yr holl dasgau sy’n gysylltiedig â thorri’r darnau o ffilm crai, gosod y darnau hynny o ffilm, ychwanegu cerddoriaeth, dybio, effeithiau sain, a llawer mwy.
Rich Moss
Golygydd arobryn a sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla. Lansiwyd Gorilla ym 1999 (dan yr enw ‘Mwnci’ bryd hynny) gyda Rich yn brif olygydd gorffennu a lliwiwr. Tyfodd y cwmni o fod yn swît tâp llinol unigol i fod yn dŷ ôl-gynhyrchu cenedlaethol uchel ei barch gyda thros 100 o switiau Avid, 8 swît Dub, Graddio, VFX, Animeiddio, Stiwdio a Darlledu Allanol. Mae bellach gan Gorilla bencadlys 5 llawer wedi’i adeiladu’n bwrpasol a dau leoliad cyfleusterau arall. Mae 70 o staff parhaol yn gweithio i’r cwmni ac mae’n gweithredu 24/7. Mae Gorilla yn cyflawni cannoedd o oriau o raglenni aml-genre o raglenni dydd i ddramâu o’r radd flaenaf, a hynny i gleientiaid rhyngwladol gan gynnwys BBC Worldwide, Netflix, HBO a holl ddarlledwyr Prydain. Gorilla yw’r prif gyfleuster ôl-gynhyrchu yng Nghymru, ac mae’n dal i lynu wrth yr un gwerthoedd o ran gwasanaeth cwsmeriaid ac yn ymfalchïo yn ei wreiddiau fel cwmni bach.