Ffilmiau Byrion Dyma’r ffilmiau byrion ‘rydym wedi eu hariannu. Interested in programming some of our short films? Email Us
Ein Gwaith Beddgelert Yn seiliedig ar yr hen chwedl Gymraeg, mae Beddgelert yn adrodd hanes y Tywysog Llewelyn.
Ein Gwaith Bitter Sky Drama dod-i-oed sydd wedi'i gosod yn nhirwedd wyllt Canolbarth Cymru yn y nawdegau.
Ein Gwaith Creepy Pasta Salad Yn y ffilm apocalyptig hon, sydd wedi ei hanimeiddio, mae blaidd-ddyn sy’n dioddef o wewyr meddwl, ysbryd sydd heb fawr o hunan-hyder, a gwrach unig iawn yn straffaglu drwy eu bywyd bob dydd.
Ein Gwaith Cwch Deilen Ffilm fer wedi ei hanimeiddio yn archwilio’r hapusrwydd a’r pryder sydd mor amlwg yn nyddiau cynnar pob perthynas.
Ein Gwaith Dim ond Ti a Mi Yng nghefn gwlad hardd Cymru, mae Mabli yn cychwyn ar daith i gwrdd â theulu ei chariad, Meirion. Ond daw tro iasoer i’w hymweliad delfrydol.
Ein Gwaith Dirt Ash Meat Yn sgil clwyf y traed a’r genau, mae teulu o ffermwyr mynydd o Gymru’n llawn chwerwder a pharanoia.
Ein Gwaith Father of the Bride Nid yw bydd yn hawdd i’r Gwas areithio ym mhriodas ei frawd, ond rhaid i Christian geisio gwneud hynny yn dilyn cynnig go anarferol gan dad y briodferch.
2021 Ffolio: Echdoe Dyma ffilm ddogfen ddwyieithog aflinol am wytnwch gan Gwen Thomson, cyfarwyddwr theatr, actor, pypedwr, cerddor a pherfformiwr syrcas.
2021 Ffolio: Two B or Not Two B? Mae dogfen Hywel Matthews yn tyrchu i wraidd y ddadl danbaid sy’n bodoli o amgylch sillafiad cywir enw’r pentref mae’n byw ynddo yn Ne Cymru: Cefn Cribwr neu Cefn Cribbwr?
2021 Ffolio: Yew Yn y ffilm hon, mae bachgen yn myfyrio ar ei atgofion o’i fam-gu a’i pherthynas ryfedd â’r goeden ywen hynafol a saif y tu ôl i’w stad o dai yng nghymoedd de Cymru.
Ein Gwaith Forest Coal Pit An intimate super 8mm portrait of two elderly brothers who live together on a small farm in the Black Mountains, South Wales.
Ein Gwaith Grappling Ac yntau’n cael ei boeni gan atgofion o’i blentyndod trawmatig, mae Dylan yn mynd ati i chwilio am y dyn sy’n gyfrifol am y creithiau ar ei feddwl.
Ein Gwaith Hounds of Annwn Mae rhyfelwr wedi’u clwyfo yn dychwelyd i'w pentref ond yno maen nhw’n cael eu hela gan haid o gŵn dirgel.
Ein Gwaith I Choose Mae Rupi yn dyheu am gael dewis. Gan ymgripys â gwrthdaro mewnol ac etifeddiaeth ddiwylliannol, mae'n aberthu popeth ac yn dianc i Gymru gyda'i dwy ferch ifanc.
Ein Gwaith In This House Mae cwpl oedrannus yn byw bywyd rhyfeddol o hardd â chanddynt berthynas lle nad yw popeth fel mae'n ymddangos.
Ein Gwaith Mothers' Day Rhaid i fachgen ifanc sy'n hoff o'r gofod lywio ei ffordd drwy fyd newydd pan mae ei Fam yn dioddef yn sydyn o argyfwng iechyd meddwl, wrth i’w Fam-gu ddychwelyd o'r Caribî i ofalu amdano.
Ein Gwaith Neck Face Wedi breuddwydio am y briodas berffaith, mae Laney yn deffro ar fore’r seremoni gydag anghenfil yn tyfu o’i gwddf.
Ein Gwaith Organic Ffilm arswyd a hiwmor tywyll Cymreig am ffermwr yng Ngogledd Cymru’n colli rheolaeth o’i gnwd. Bwyd bys a bawd i bawb!
Ein Gwaith Panic Ers i Dylan golli ei fam mae ei hunllefau arswydus wedi dechrau dylanwadu arno pan mae’n effro hefyd.
Ein Gwaith Passenger Mae ysbryd dialgar yn ceisio meddiannu corff Cora, ond dros amser maen nhw’n meithrin perthynas ryfedd.
Ein Gwaith Pink Suede Shoes Mae Jasun Watkins yn adnabyddus am ddynwared Elvis. Mae ei act yn binc, yn bowld ac yn hynod o ‘camp’, a daw i’w pherfformio yn yr ŵyl fwyaf yn Ewrop sy’n talu teyrnged i Elvis.
Ein Gwaith Seven Mae Brianna yn deffro, wedi’i llethu, yng nghanol cyfnod o iselder tan i daith car arwain at ennyd o fregusrwydd a rhyddhad annisgwyl.
Ein Gwaith Spectre of the Bear Mae Nom Noms yn dychwelyd, gan ennyn atgofion hapus, ynghyd ag ymgyrch fawr i ddod o hyd i’r gwirionedd. Ond mae obsesiwn Tom â chreision yn mynd yn drech nag ef... ac nid am ei fod yn eu bwyta.
Ein Gwaith Stuffed Mae criw o bobl wedi cwrdd fin nos i gael cinio, ond daw tro lletchwith ar fyd pan gyrhaedda un o’r gwesteion yng nghwmni corff ei gŵr marw sydd wedi ei stwffio.
Ein Gwaith The Arborist Yn dilyn marwolaeth coeden a blannodd er cof am ei hefaill coll, mae Laura’n dychwelyd adref i Benrhyn Gŵyr.
Ein Gwaith This Far Up Yn This Far Up ceir archwiliad swrrealaidd o fywyd, marwolaeth a’r hyn sy’n bodoli rhyngddynt.