Gyrfaoedd Sgrin: Dylunydd Cynhyrchu
Mae’r Dylunydd Cynhyrchu yn creu’r ffordd y bydd ffilm neu ddrama deledu yn edrych. Gall ffilmiau gael eu gosod mewn pob math o leoedd; cartref plant amddifad yn Oes Fictoria, llong bleser yn y Caribî, neu blaned arall, er enghraifft. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda’r holl adrannau gweledol eraill, gwisgoedd, goleuo, effeithiau gweledol ac effeithiau arbennig, a dylunio graffig. Maen nhw’n helpu i greu’r byd gweledol y mae’r stori wedi’i gosod ynddi.
Julian Luxton
A minnau wedi fy ngeni yng Nghymru ac yn seiliedig yma, rwyf wedi gweithio ym maes ffilm a theledu am y 25 mlynedd diwethaf. Yn yr amser yma, rwyf wedi gweithio i nifer o gwmnïau cynhyrchu, a bu’n gyfnod o ddadeni i ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae’r adfywiad hwn wedi helpu i sicrhau hyder yng nghyfryngau Cymru a chyda’i fuddsoddiad enfawr. Yn ei dro, denodd hyn brosiectau domestig a rhyngwladol cyffrous sydd wedi’u gweld ar lwyfan byd-eang. Mae cwmnïau cynhyrchu a rhwydweithiau fel Starz, HBO, NBC Universal, TNT a’r BBC oll wedi ffynnu yng Nghymru, ac rwy’n falch y bum yn rhan fawr o hynny.
Rwyf bob amser wedi bod yn eiriolwr brwd dros dalent addawol o Gymru, a thros y 15 mlynedd diwethaf bum yn cefnogi rhaglenni addysg a fu’n hyrwyddo unigolion creadigol llawn dyhead. Rwyf wedi gweithio dro ar ôl tro gyda nifer o’r unigolion hyn ac wedi eu gweld yn datblygu drwy’r adran gelf gan gyrraedd swyddi uchel.
Dros y degawd diwethaf, bum yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol ar gyfresi poblogaidd i rai o gwmnïau cynhyrchu mwyaf y diwydiant, gan gynnwys Brave New World i NBC Universal a Will i TNT. A minnau’n weithgar yn greadigol, rwyf hefyd wedi bod yn Ddylunydd Cynhyrchu ar sawl rhaglen deledu a ffilm nodwedd ac mae nifer wedi’u cydnabod gan enwebiadau a llwyddiant (Say my Name) yng ngwobrau BAFTA a gwobrau rhyngwladol eraill.
Gan weithio fel Dylunydd Cynhyrchu a Chyfarwyddwr Celf Goruchwyliol, rwyf wedi dibynnu ar fy mhrofiad helaeth er mwyn fy helpu i reoli timau hynod effeithiol a chreadigol sydd wedi cyflawni gweledigaeth glir ar y sgrin fawr a’r sgrin fach. Cefais y pleser o weithio gyda rhwydwaith eang o gydweithwyr creadigol i wireddu nifer helaeth o setiau i gynyrchiadau o’r radd flaenaf.
Rwyf wastad wedi ymserchu ym myd ffilm a theledu ac mae hyn yn parhau. Rwy’n ddigon ffodus i gael gweithio mewn diwydiant gyda chymaint o gydweithwyr yr wyf yn eu hystyried yn gyfeillion agos.