Gyrfaoedd Sgrin: Cyfrifydd Cynhyrchu
Mae’r Cyfrifwyr Cynhyrchu yn gwneud popeth mae Cyfrifwyr yn ei wneud, ond yn ei wneud ar leoliadau ffilmio ynghanol bwrlwm a chreadigrwydd creu ffilm. Maen nhw’n cyfrifo’r sefyllfa ariannol a chost y cynhyrchiad, yn siarad gyda’r gwarantwr cwblhau (polisi yswiriant i wneud yn siŵr bod y ffilm yn cael ei chyflawni ar amser ac yn unol â’r gyllideb) ac yn rheoli’r llif arian, neu’r gwariant.
Mehdi Abbaspour
Mae Mehdi yn gyfrifydd cymwys profiadol a fu’n gweithio yn y diwydiant ffilm am dros chwe blynedd. Gweithiodd ar nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnwys ar ddwy ffilm ddiweddaraf Wes Anderson. Ei rôl ddiweddaraf oedd Rheolwr Cyllid ar ffilm ffuglen wyddonol gwerth £20+ miliwn o’r enw Lithuania sy’n cael ei chynhyrchu ym Mhrydain.
Cwblhaodd Mehdi ei radd gyntaf mewn Cyfrifeg yn ei wlad enedigol, Iran, cyn symud i Brydain yn 2006 lle enillodd ei gymwysterau AAT proffesiynol tra’n astudio yng Nghaerdydd. Aeth ar leoliad gwaith byr wedyn ar gynhyrchiad Babylon, Channel 4, lle y gwnaeth ddigon o argraff ar y Cyfrifydd Cynhyrchu i gael ei ailhyfforddi yn gynorthwyydd a chael cynnig rôl yn gweithio gydag ef ar ‘A Song for Jenny’, ffilm nodwedd wedi’i chreu i’r teledu.
Mae ymagwedd ddiwyd, frwdfrydig, hyblyg a chyfeillgar Mehdi at ei waith wedi golygu ei fod wedi codi’n gyflym drwy rengoedd cyllid cynhyrchu ffilmiau, gan gyrraedd rôl Cyfrifydd Cynhyrchu ar ffilm ‘Ein Sommer in Oxford’ a gynhyrchwyd yn yr Almaen yn 2018, ac yn fwyaf diweddar rôl Rheolwr Cyllid ar gyfer Skylines.
Yn benodol, mae Mehdi’n mwynhau amrywiaeth y gwaith y mae’n ei wneud a’r amrywiaeth o bobl ddiddorol sy’n rhan o’r criw. Mae pob cynhyrchiad a diwrnod yn wahanol ac mae wrth ei fodd yn cael y cyfle i ddefnyddio ei sgiliau datrys problemau creadigol ar bob her newydd. Yn arbennig, mae’n mwynhau’r cyfle i deithio a gweithio ar leoliad a ddaw o fod yn rhan o’r diwydiant. Datblygodd Mehdi ddiddordeb brwd ym mhob agwedd ar greu ffilmiau, a bydd yn aml yn eistedd ar ôl oriau gwaith neu adeg yr ôl-gynhyrchu gyda gwahanol dimau sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad.
Yn sgil y diddordeb hwn, aeth ati i astudio’n bellach ym meysydd actio a chreu ffilmiau, gan gynnwys dilyn cwrs arloesol gyda’r cyfarwyddwr blaenllaw o Iran, Mohsen Makhmalbaf. Mae Mehdi yn edrych ymlaen at weithio ar ragor o gynyrchiadau ffilm rhyngwladol sydd â chyllidebau mawr yn y dyfodol, ac mae ei olygon ar gael bod yn Gynhyrchydd Gweithredol am y tro cyntaf.