three people standing on the shore of a river

Rhaglen newydd Ffolio yn taro tant i brosiectau clywedol arloesol

Mae rownd ddiweddaraf Ffolio, sy’n blatfform ar gyfer talent creadigol yng Nghymru ac yn rhan o BBC Introducing Arts, yn edrych am brosiectau clywedol ffres ac unigryw.

Mae Ffolio bellach yn ei hail flwyddyn, ac mae’n bartneriaeth gyffrous rhwng Ffilm Cymru, BBC Cymru, BBC Arts a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n cynnig hyfforddiant, mentora a chyfleoedd comisiynu’r BBC i bobl greadigol sy’n byw yng Nghymru. P’un a ydych chi’n ddawnsiwr, blogiwr, cerddor, awdur, ffotograffydd, artist graffiti, dylunydd gemau, pypedwr, perfformiwr syrcas neu animeiddiwr, mae Ffolio yn gyfle newydd i ddathlu eich creadigrwydd.

Drwy’r rownd newydd hon o Ffolio, bydd talent creadigol yng Nghymru yn cael cymorth i ddatblygu prosiectau clywedol i’w rhannu ar draws amryw blatfformau’r BBC ar yr awyr ac ar-lein. Gall y syniadau clywedol fod yn ddoniol, difrifol, pryfoclyd neu arbrofol, ond dylai fod ganddyn nhw rywbeth i’w ddweud. Dylen nhw fod yn ysgogi pobl i siarad a rhannu, gan wthio ffiniau drwy stori, sain a strwythur.

Bydd y bobl a gaiff eu dethol i restr hir Ffolio hefyd yn derbyn hyfforddiant pwrpasol, mentora arbenigol, a bwrsariaethau ar gyfer teithio, gofal plant a gofynion hygyrchedd.  

Bydd rownd newydd o Ffolio ar gyfer ffilmiau byr yn agor ym mis Mai 2021. Llynedd, comisiynwyd deuddeg o ffilmiau byr drwy Ffolio, gan adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog Cymru o dalent creadigol. Mae’r ffilmiau sy’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd yn cynnwys Daughters of the Sea gan y dawnsiwr bale, Krystal S. Lowe, The Sin Eater gan y cyfarwyddwr celf, Oliver Gabe, a Room Full of Sisters gan y ffotograffydd Ashrah Suudy.

“Mae fy mhrofiad gyda Ffolio wedi bod yn wych hyd yma,” medd Ashrah. “Fel ffotograffydd, mae wedi caniatáu i mi gamu allan o fy nghylch cyfforddus a fy herio fy hun yn greadigol. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y profiad yma, ac yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle a gwneud cais!”

Medd Amy Morris, Rheolwr Prosiect Ffolio, Ffilm Cymru: "Mae’n gyffrous iawn cael lansio ail flwyddyn Ffolio gyda’r elfen glywedol newydd yma, a pharhau â’r rhaglen o ffilmiau byr yn 2021.  Yn 2020, fe wnaethom ni dderbyn dros 300 o geisiadau gan dalent amrywiol o bob rhan o Gymru, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld a chlywed syniadau newydd eleni."  

Mae Ffilm Cymru hefyd yn cynnal Cymorthfeydd Talent Ffolio. Bydd y sgyrsiau un-i-un 30 munud yma yn gyfle i drafod eich syniadau a chael arweiniad gan dîm Ffolio, yn ogystal â chael gwybod am gyfleoedd hyfforddiant a chyfleoedd ariannu eraill Ffilm Cymru. Gall sesiynau gael eu cynnal dros y ffôn neu alwad fideo; trefnwch eich apwyntiad fan hyn.

ashrad suudy shooting her debut film. She is standing on a dock, with a camera while actors pose further down the dock.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar gyfer rownd pedwar Ffolio yw 12fed Mawrth 2021 am 15:30.