still from documentary film off the rails featuring a person in an orange jacket standing on a high structure looking over london

Ymunwch â’n dirprwyaeth IDFA

Mae Ffilm Cymru yn awyddus i gynorthwyo datblygiad proffesiynol cyfarwyddwyr neu gynhyrchwyr sy'n dod i'r amlwg sydd â syniadau beiddgar ac uchelgeisiol am ffilm ddogfen hyd llawn ar gyfer cynulleidfaoedd sinema. 

Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig cyfle cyffrous i hyd at bedwar unigolyn fynd i Ŵyl IDFA fel rhan o ddirprwyaeth Ffilm Cymru, o 17eg i 21ain Tachwedd 2025.

Gallwch ddysgu mwy am IDFA ar y wefan swyddogol.

Pa fath o gymorth sy'n cael ei gynnig?

  • Bydd cynrychiolwyr dethol yn derbyn pasys llawn yr ŵyl a fydd yn rhoi mynediad i holl ddangosiadau, sgyrsiau a chyfarfodydd bord gron yr ŵyl a gwahoddiad i ginio’r cynrychiolwyr wrth gyrraedd.
  • Bydd llety mewn gwesty a lluniaeth yn cael eu darparu am 4 noson a bydd y cynrychiolwyr yn derbyn bwrsariaethau ar gyfer costau teithio ac unrhyw ofynion mynediad (e.e. gofal plant / dibynyddion, anabledd).
  • Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn elwa o sesiwn un i un gyda gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant i drafod datblygiad eu gyrfa ac unrhyw brosiectau penodol sydd ar y gweill ganddyn nhw. Cyn yr ŵyl byddwn hefyd yn darparu sesiwn ar-lein i ymgyfarwyddo â’r ŵyl.

Ydw i'n gymwys?

Er mwyn gwneud cais:

  • Rhaid eich bod wedi eich geni a/neu’n seiliedig yng Nghymru, dros 18 oed, a heb fod mewn addysg amser llawn;
  • Rhaid eich bod ar gael i fynd i IDFA ar y dyddiadau perthnasol a’ch bod yn gallu teithio i Amsterdam (bydd costau teithio yn cael eu talu);
  • Rhaid eich bod wedi bod â rôl arweiniol greadigol ar o leiaf un darn o waith sgrin sydd wedi’i arddangos neu’i ddarlledu'n gyhoeddus, naill ai ym maes dogfen, ffeithiol neu faes cysylltiedig (e.e. ffilm ffuglen, celf weledol, hysbysebion/hyrwyddo, ffotograffiaeth);
  • Rhaid bod gennych chi syniad am raglen ddogfen ar gyfer sinema. Rydym yn croesawu syniadau ar unrhyw gam datblygu
  • Rhaid eich bod heb fod yn brif gyfarwyddwr na chynhyrchydd ar fwy nag un ffilm nodwedd wedi’i chwblhau o dros 60 munud o hyd ac sydd wedi’i dosbarthu yn y DU.

Sut ydw i'n gwneud cais?

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod a'i hanfon mewn e-bost i network@ffilmcymruwales.com erbyn y dyddiad cau ynghyd â'ch CV.

Fel arall, os yw'n well gennych, gallwch ymateb i'r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu ffôn fyw gyda'n tîm. Dylid trefnu hyn cyn y dyddiad cau. Bydd yr alwad yn cael ei recordio.

Gall y ceisiadau gael eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.

Ar gyfer unigolion sy'n F/fyddar, â nam ar eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eu golwg, mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael. Er enghraifft, gallwn dalu costau trefnu bod canllawiau ar gael mewn fformatau eraill (e.e. print bras), dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu weithiwr cymorth os oes angen. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol. Cawn ein harwain gennych chi.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion mynediad sy'n gysylltiedig â'r cais hwn, cysylltwch â:
Siobhan Brennan, Swyddog Gweithredol Talent a Datblygu
Siobhan@ffilmcymruwales.com

Os oes gennych ofynion mynediad gallwch hefyd gysylltu â ni dros y ffôn ar 02922 676711 a gadael neges yn nodi eich enw, rhif, amseroedd cyfleus o'r dydd i ffonio, a dweud eich bod yn gofyn am gymorth mynediad ar gyfer Cynrychiolaeth Gŵyl IDFA.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 22 Awst 2025, hanner dydd.