Josh Hicks ar ddamcaniaethau cynllwyn, gwneud gwaith wedi ei animeiddio, a gwobrau BAFTA Cymru
Mae tair ffilm a ariennir gan Ffilm Cymru Wales yn rhannu pum enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni gan gynnwys y Ffilm Orau a’r Ffilm Fer Orau.
Mae Chuck Chuck Baby wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr BAFTA Cymru, sy’n cynnwys Y Ffilm Nodwedd/Teledu Orau, y Dylunio Gorau ar gyfer Cynhyrchiad i Caroline Steiner, a gwobr ‘Torri Drwodd’ Cymru i’r awdur-gyfarwyddwr Janis Pugh, tra bod Being Seen a Spectre of the Bear wedi eu henwebu ar gyfer y Ffilm Fer Orau.
Wedi ei chyfarwyddo gan Josh Hicks, ei hysgrifennu gan Ioan Morris, a’i chynhyrchu gan Nia Alavezos, mae Spectre of the Bear yn ffilm wedi ei hanimeiddio sy’n sôn am obsesiwn llwyr un dyn wrth iddo hiraethu am gael bwyta Nom-Noms unwaith eto.
I ddathlu enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru, cawsom sgwrs gyda chyfarwyddwr Spectre of the Bear, Josh Hicks, i holi am ei brofiad o wneud y ffilm fer, am gastio Bill Nighy a Craig Roberts, a’r dirgelwch sy’n perthyn i greision sydd ddim ar gael mwyach.
Llongyfarchiadau ar eich enwebiad BAFTA Cymru! Allwch chi ddweud wrthym beth a ysbrydolodd y syniad ar gyfer Spectre of the Bear?
“Diolch! Mae’r tîm cyfan yn hapus iawn gyda'r enwebiad. Y syniad cychwynnol ar gyfer Spectre of the Bear yw holl waith Ioan Morris. Fe oedd yn gyfrifol am ysgrifennu, sgorio a dylunio’r ffilm. Roeddem wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd ym myd comics ers blynyddoedd, gan deithio ar draws y DU i sioeau comics bach, ac roedd y ddau ohonom yn meddwl y byddai’n hwyl cydweithio ar rywbeth ym maes animeiddio. Rwy’n hoff iawn o waith Ioan ym myd y comics ac yn awyddus iawn i geisio addasu a chyfieithu ei arddull i’r sgrîn, gan ychwanegu rhywfaint o’m ymwybyddiaeth fy hun - gobeithio.”
Mae'r teitl yn ddiddorol, beth mae'r Arth yn ei gynrychioli yng nghyd-destun y ffilm?
“Ar ôl penderfynu gwneud rhywbeth gyda’n gilydd, soniodd Ioan am y syniad o rhyw fath o effaith Mandela, yn seiliedig ar fyrbrydau, ac roedd hwn yn teimlo fel lle da i ddechrau. Mae’n honni bod rhywfaint o’r ffilm yn hunangofiannol, sy’n peri ychydig o bryder!
Pan ddechreuom ni weithio ar y stori yr hyn wnaeth fy nghyffroi i fwyaf oedd yr elfen o ddamcaniaethu cynllwyn, o gyfnod y saithdegau, ac roeddwn am i'r teitl adlewyrchu'r teimlad iasol neo-noir hwnnw. Bu i’r ddau ohonom drafod nifer o opsiynau, ac roedd Spectre of the Bear yn teimlo'n iawn. Mae popeth yn berthnasol i’r Arth yn y ffilm: obsesiwn, yr angen am gael bwriad mewn bywyd, pwysau corfforaethol ac, yn bwysicaf oll, siâp y byrbrydau tatws gwirion sy’n dechrau difetha bywyd y dyn yma.”
Beth yw'r prif themâu rydych chi'n eu harchwilio a pha negeseuon ydych chi'n gobeithio eu cyfleu i'r gynulleidfa?
“Dechreuom ni weithio ar y ffilm yn anterth y cyfnod clo, pan oedd nifer yr achosion o ddamcaniaethau cynllwyn yn dod yn amlwg iawn, a daeth hyn yn fwyfwy creiddiol i'r sgript wrth iddi ddatblygu. Roeddem eisiau gwneud hwyl am ben y pethau yma heb fod yn rhy bregethwrol. Roeddem yn teimlo ei bod hi'n fwy doniol - ac yn fwy dychrynllyd - pe bai pethau'n cael eu gadael ychydig yn amwys ar y diwedd. Yn gyffredinol, mae obsesiwn i’w weld yn thema gyson yng ngwaith y ddau ohonom, ac mae hynny’n amlygu ei hun mewn pob math o ffyrdd yn y ffilm yma hefyd.”
Mae'r arddull weledol yn nodedig iawn, sut wnaethoch chi ddatblygu diwyg y ffilm?
“I mi, y rhan fwyaf o’r gwaith cynnar oedd ceisio darganfod yr arddull weledol honno – roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau ceisio cyfleu’r hyn mae Ioan yn ei wneud gyda’i gomics ar sgrîn mor agos â phosib, ond gan ei fod yn gweithio mewn du a gwyn yn bennaf roedd gen i rai dewisiadau i’w gwneud. Roedd yn bwysig i’r ddau ohonom mai ef oedd yn gwneud yr holl waith dylunio, felly roedd y ffilm yn teimlo fel undod yn y ffordd honno. Es i ati i lunio’r byrddau stori, ac wedyn fues i’n gweithio gyda’r cynhyrchydd Nia Alavezos, a'r animeiddwyr Tom Lucas a Dani Abram i ddarganfod sut byddai'r cyfan yn gweithio o ran symudiad a lliw a gwead. Bu i Ioan dynnu llun o bob gosodiad ar gyfer pob siot yn seiliedig ar y byrddau stori, cyn i Tom a Dani barhau â’r broses. Fe wnaethon nhw waith anhygoel.
Roedd gen i rai meini prawf penodol a phwyntiau o ysbrydoliaeth - rwyf wedi bod wrth fy modd â’r dull anime cyfyngedig erioed – ond bu llawer o arbrofi yn y dyddiau cynnar er mwyn creu rhywbeth oedd yn teimlo fel bod steil Ioan ym maes comics yn esblygu’n llwyddiannus ar gyfer ei ddangos ar y sgrîn fawr.”
A fu i unrhyw ddylanwadau sinematig penodol lywio cyfeiriad y ffilm?
“Gordon Willis oedd y sinematograffydd ar lawer o ffilmiau’r saithdegau roeddem yn eu trafod wrth ddatblygu’r ffilm – mae’n wir feistr ar y grefft – ac felly fe wnaethom edrych at ei waith ef am ysbrydoliaeth o ran cyfansoddiad a diwyg. Roedd gen i fy nylanwadau fy hun yn y byd animeiddio, yn enwedig o ran pobl ym myd comics sy’n gweithio ym maes animeiddio, neu addasiadau wedi eu hanimeiddio o gomics annibynnol - roedd gwaith Kenji Iwasaiwa (On-Gaku: Our Sound) a Dash Shaw (My Entire High School Sinking Into the Sea; Cryptozoo) yn amlwg iawn yn fy meddwl gydol y broses.”
Mae rhai lleisiau adnabyddus iawn yn y ffilm, sut gwnaeth Bill Nighy a Craig Roberts ddod i gymryd rhan?
“Rydym yn ddyledus i’r cast anhygoel, i’n cyfarwyddwr castio, Michael Llewellyn Williams, sydd wedi bod yn ffrindiau gydag Ioan ers pan oedden nhw’n blant. Roedd wedi gweithio gyda Craig a Bill yn y gorffennol hefyd, ac yn ffodus iawn roedden nhw wrth eu bodd â’r sgript a bu iddynt gytuno’n garedig i gymryd rhan, cyn cyd-weithio â ni wrth gastio gweddill y ffilm – cefais fy syfrdannu gan bob ohonynt! Daeth Huw Stephens draw hyd yn oed, i leisio’r hysbyseb sy’n cychwyn yr holl ffilm. Mae Craig a minnau’r un oed a cawsom ein magu tua 5 munud i ffwrdd o’n gilydd ym Maesycymer - pentref bach yn y cymoedd - ond yn rhyfedd iawn nid oeddem erioed wedi cwrdd tan y sesiwn recordio llais ar gyfer y ffilm. Un o’m prif lwyddiannau oedd dysgu Bill Nighy sut i ddweud ‘Maesycymer’ ar sgrîn.”
Sut ddechreuodd eich perthynas gyda Ffilm Cymru Wales?
“Yn y bôn, dechreuodd y berthynas gyda Ffilm Cymru pan wnaethom gysylltu â nhw gyda’r syniad am y ffilm. Bu i ni yrru amlinelliad atynt gan ymgeisio am eu cynllun Beacons. Yna cawsom wybod ein bod wedi cyrraedd y cam nesaf. Bu iddynt weithio gyda ni wedyn i ddatblygu drafftiau cychwynnol y sgript cyn rhoi’r golau gwyrdd i ni ddechrau arni o ddifrif.”
Pa rôl chwaraeodd Ffilm Cymru Wales wrth ddod â’r ffilm yn fyw?
“Fe wnaethom ni weithio’n bennaf gyda Jude Lister, sy’n gynhyrchydd gweithredol ar y ffilm, ac mae’r berthynas wedi bod yn un rhagorol. Mae Ffilm Cymru Wales wedi bod yn hynod gefnogol trwy gydol y broses – fe wnaethon nhw hyd yn oed dalu i gyfreithiwr gael cipolwg ar y sgript i wneud yn siŵr na fydden ni’n cael ein herlyn. Trefnodd Jude i fi gwrdd gyda’n cynhyrchydd, Nia, ac rydym wedi parhau â’r berthynas honno ac wedi gweithio ar ychydig o brosiectau eraill gyda’n gilydd ers hynny.”
Sut y gwnaeth cyfranogiad Ffilm Cymru Wales lywio cyfeiriad y ffilm?
“Byddai Jude yn Ffilm Cymru Wales a Chris Walsh-Heron yn BBC Cymru Wales yn rhoi adborth rheolaidd ar ddrafftiau o sgript, ar doriadau animatig ac ar olygiadau bras gan roi llawer o nodiadau defnyddiol a oedd o fantais i’r ffilm. Yn ystod y cyfnod o ddatblygu’r sgript, bu i ni weithio’n eithaf agos gyda nhw er mwyn llunio’r diweddglo, ac roedd cael y mewnwelediad a’r persbectif ychwanegol hwnnw wir wedi helpu’r ffilm i ddatblygu fel y gwnaeth.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i wneuthurwyr ffilm newydd eraill o Gymru?
“O ran gwneud ffilmiau, ym maes animeiddio yn unig ‘rwyf i’n gweithio, felly gall pethau amrywio rhywfaint ar gyfer y rhai sy’n gwneud ffilmiau ‘byw’, ond rwy’n credu ei bod yn hollbwysig berchen ar y sail dechnegol gryfaf posib, yn enwedig os ydych am wneud gwaith uchelgeisiol ar gyllideb fechan, fel rydych yn tueddu i wneud fel gwneuthurwr ffilmiau byrion yng Nghymru.
Rwyf bob amser yn ceisio tynnu llun – neu o leiaf olygu – yr animatics ar gyfer y pethau rwy’n eu gwneud, ac hefyd yn gwneud y gwaith cyfansoddol ar gyfer y diwedd, sy’n golygu bod yna lwyth o bethau y gallaf i eu cywiro fy hun heb i ni orfod mynd yn ôl ac ymlaen at yr animeiddwyr neu’r artistiaid. Rwyf hefyd yn rhedeg CPE Productions – y cwmni a gynhyrchodd y ffilm – ac felly roedd gan Nia a minnau synnwyr cadarn o derfynau amser a chyllideb, ac wedi adnabod pa feysydd oedd posib i ni eu defnyddio i ryddhau adnoddau i dalu am bethau na allwn i fod wedi eu gwneud ar ben fy hun mewn gwirionedd… Mae cael y math hwnnw o sylfaen yn helpu i gadw pethau ar y trywydd iawn, yn enwedig os yw arian neu amser yn brin.
Yn gyffredinol, rwy’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw dod o hyd i gydweithwyr da y gallwch ymddiried ynddynt – o gyd-artistiaid i sefydliadau fel Ffilm Cymru Wales sy’n gallu rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wireddu syniadau. Mae’r cyfan yn ymwneud â’r tîm.”
Cynhelir Gwobrau BAFTA Cymru eleni yng Nghasnewydd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar ddydd Sul 20fed Hydref, ac mae tîm Ffilm Cymru Wales yn dymuno pob lwc i’r holl wneuthurwyr ffilm, i aelodau pob criw a’r holl actorion a enwebwyd. Gweler y rhestr lawn o enwebiadau yma.