Ren Faulkner, gwneuthurwr Being Seen, ar wneud fideos cerddoriaeth, rhannu straeon cwîar a gwobrau BAFTA Cymru
Mae tair ffilm a ariennir gan Ffilm Cymru Wales yn rhannu pum enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni gan gynnwys y Ffilm Orau a’r Ffilm Fer Orau.
Mae Chuck Chuck Baby wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr BAFTA Cymru, sy’n cynnwys Y Ffilm Nodwedd/Teledu Orau, y Dylunio Gorau ar gyfer Cynhyrchiad i Caroline Steiner, a gwobr ‘Torri Drwodd’ Cymru i’r awdur-gyfarwyddwr Janis Pugh, tra bod Being Seen a Spectre of the Bear wedi eu henwebu ar gyfer y Ffilm Fer Orau.
Wedi ei chyfarwyddo gan Ren Faulkner a’i chynhyrchu gan Toby Cameron, ffilm ddogfen fer yw Being Seen sy’n adrodd tair stori cwîar drwy dri apwyntment nodedig.
I ddathlu’r enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru, cawsom sgwrs gyda Ren am yr hyn a’u hysbrydolodd i wneud y ffilm, am greu gofod diogel ar set, ac am helpu pobl i ddeall eu hunaniaeth cwîar.
Llongyfarchiadau ar eich enwebiad ar gyfer gwobr BAFTA Cymru, allwch chi ddweud wrthym am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'ch ffilm Being Seen?
“Diolch! Mae’n gymaint o anrhydedd i mi a doeddwn i ddim yn disgwyl yr enwebiad, felly cefais fy synnu’n fawr. Yr hyn sydd wedi fy ysbrydoli i greu Being Seen oedd fy mhrofiadau personol fel person trawsryweddol. Torrais fy ngwallt - mewn modd dramatig - am y tro cyntaf ar fympwy llwyr mewn rhyw siop farbwr, er mod i wedi bod yn ystyried gwneud ers peth amser. Mae’n amlwg - ac yn gwbl ddealladwy - nad oedd y barbwr yn sylweddoli gweithred mor enfawr oedd hyn i mi. Gydol yr amser yn y siop roedd fy meddwl yn llawn o gymysgedd o emosiynau, a wnes i ddim medru eu gadael i fynd tan mod i ar fy mhen fy hun mewn ystafell newid rhyw siop ddillad neu’i gillydd.
Pan ges i dorri ngwallt gan farbwr cwîar am y tro cyntaf, roeddwn i wir yn teimlo fy mod yn cael fy ngweld a’n cael fy ngefnogi, ac roedden nhw'n deall profiad mor gadarnhaol oedd hynny i mi. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli fod y pethau sy'n ymddangos yn ddibwys mewn bywyd, pethau nad oes yn rhaid i rai pobl feddwl ddwywaith am eu gwneud, yn bethau arwyddocaol iawn i bobl cwîar neu bobl drawsryweddol. Mae'n anodd mynd i barlwr tylino, neu i wneud apwyntiad mewn siop barbwr, heb boeni am sut allan nhw ymateb i chi. Cefais tatŵ o’r gair BUTCH hefyd, wedi ei wneud gan artist tatŵ cwîar - ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i tatŵs fod yn rhan o’r ffilm hefyd.”
Beth oedd eich proses wrth gastio’r ffilm? A sut wnaethoch chi sicrhau ei fod y set yn amgylchedd diogel?
“I rai o’r cyfranwyr, cymuned yn unig oedd hi – roedden nhw eisoes yn ffrindiau, neu roeddwn i wedi eu dilyn ar-lein a’u hedmygu o bell am beth amser. I'r rhai a oedd yn fwy rhan o’r broses gastio (dim ond y sawl oedd yn cael torri eu gwallt, gan fod angen person penodol a chanddynt wallt hir ac eisiau cael torri eu gwallt yn ‘gadarnhaol’), mater o estyn allan ar-lein oedd hi, ac yna sicrhau eu bod yn gyfforddus bod y broses yn cael ei dal ar gamera. Roedd yr holl staff cynhyrchu yn cwîar hefyd, ac roedd hyn yn help mawr i’r amgylchedd.”
Sut ydych chi'n gobeithio y bydd Being Seen yn esgor ar sgyrsiau am yr angen am ofodau cynhwysol?
“Dw i jyst ddim yn meddwl bod pobl yn deall weithiau. Os nad ydyn nhw’n profi'r angen am y gofodau hyn eu hunain, yna dydyn nhw erioed wedi gorfod meddwl ddwywaith am y peth. Rwy'n gobeithio bod ffilmiau fel fy un i yn annog empathi a dealltwriaeth, jyst "o ie, gallai weld sut y gallai fod yn anodd iawn, fel person trawsryweddol neu gwîar, i ddweud wrth eich masseuse eich bod yn rhwymo, neu ddweud wrth eich barbwr sy'n holi am eich cariad, y mae’n cymryd yn ganiatol mai bachgen yw ef, mai merch yw hi mewn gwirionedd." Yn enwedig o ystyried bod yna lawer o gasineb tuag at bobl cwîar ac (yn enwedig) at bobl drawsryweddol ym mhobman ar hyn o bryd. Mae llawer ohono'n deillio o ddiffyg dealltwriaeth llwyr, oherwydd mae'n anodd dychmygu sut deimlad ydy ef pan nad ydych chi'n ei deimlo eich hun. Rwy’n ceisio deall hynny i raddau, ond dyna pam po fwyaf agored gall ymchwil, y cyfryngau, a deialog fod ynglŷn â bod yn drawsrwyweddol neu gwîar, yna gorau oll.”
Beth ydych chi'n gobeithio fydd effaith y teithiau personol yn y ffilm ar gynulleidfaoedd?
“Rwy’n gobeithio y byddant yn profi pethau fel hyn er enghraifft, fod torri gwallt, sesiynau tylino, cael tatŵs, a phethau tebyg, yn weithredoedd o ofal cadarnhaol i ni. Dim ond pethau bach sy'n caniatau i ni fyw'n well yn ein cyrff a mynegi ein hunaniaeth. Rwy’n gobeithio y byddant yn gweld y newid yn River cyn ac ar ôl iddynt gael torri eu gwallt, ac yn deall cymaint o wahaniaeth y maent newydd ei wneud i’w bywyd, a pham.”
A fu unrhyw ymatebion annisgwyl neu drawiadol i'r ffilm?
“Fe wnes i ei gwylio gyda fy ffrindiau, y mae llawer ohonynt yn cwîar/trawsryweddol, a'u hymatebion nhw oedd fwyaf pwysig i mi. Er, mae un aelod o’n nheulu yn methu â deall fy hunaniaeth, ond wedi iddi hi wylio’r ffilm mewn dangosiad preifat roedd ganddi lawer o gwestiynau i mi. Gwnaeth hynny fy synnu, ac roedd yn teimlo fel ei bod wedi cymryd cam tuag at fy neall i’n well.”
A wnaethoch chi wynebu unrhyw sialensiau wrth wneud y ffilm?
“Yn bendant, dod o hyd i'r person a fyddai'n cael eu tylino oedd yr her fwyaf. Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid iddynt fod yn gwbl gyfforddus, ac felly i ddechrau roeddem eisiau rhywun oedd eisoes yn gleient i Ana - gan y byddai'n brofiad yr oeddent wedi arfer ag ef - ond yn y diwedd doedd neb 100% yn hapus i gael eu ffilmio mewn sefyllfa mor fregus (sy’n gwbl ddealladwy), felly bu bron i ni orfod hepgor y darn ar y tylino. Yna cytunodd ffrind agos i mi, a oedd yn ymddiried ynof fi i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gyffyrddus, i fynd amdani. Rydw i mor falch ei fod wedi gwneud, oherwydd gwnaeth hynny’n bendant sicrhau ein bod yn dîm mor glos ar y diwrnod. Roeddem i gyd yn ein dagrau ar ddiwedd y sesiwn.”
Sut ddigwyddodd y cydweithio gyda Ffilm Cymru Wales?
“Roeddwn i wedi gwneud cais am eu cynllun ffilmiau byr Beacons! Roeddwn i wedi bod yn meddwl am y syniad ers tro, ac roedd yn teimlo’n berffaith i ymgeisio am y cynllun hwnnw.”
Sut bu iddyn nhw eich cefnogi yn ystod camau cychwynnol datblygu'r ffilm?
“Fe wnaethon nhw helpu i fapio'r syniad yn fanylach, ond gan barhau i annog fy nghreadigrwydd. Roeddent yn amyneddgar iawn ynglŷn â’r broses gastio a pha mor sensitif oedd o, ac roeddent yn gefnogol trwy gydol hynny hefyd.”
Beth yw'r un peth yr hoffech chi fod wedi ei wybod ar ddechrau datblygu'r ffilm?
“Hoffwn pe bawn i wedi gwybod nad oedd angen i mi rhoi cymaint o bwysau arnaf fy hun, gan mai hon oedd y rhaglen ddogfen fer go iawn gyntaf i mi ei gwneud erioed, a’r tro cyntaf i mi olygu ffilm fer hefyd. Fe ddysgais i lawer, er nad aeth rhai pethau rhagddynt yn unol â'r cynllun yn greadigol, a doeddwn i ddim yn hapus gyda rhai rhannau yn ystod y golygu. Rwy’n edrych nôl ar y cyfan nawr ac yn ei gwerthfawrogi fel ffilm, yn ogystal â fel profiad a ddysgodd lawer i mi.”
Beth sydd nesaf i chi?
“Rwy’n awyddus iawn i ddatblygu rhywbeth ar ffurf hir, er nad wyf yn hollol siŵr beth ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rwy'n gweithio ar lawer o fideos cerddoriaeth, sydd, yn fy marn i, yn ffurf berffaith ar ffilm er mwyn bod mor greadigol â phosib.”
Cynhelir Gwobrau BAFTA Cymru eleni yng Nghasnewydd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar ddydd Sul 20fed Hydref, ac mae tîm Ffilm Cymru Wales yn dymuno pob lwc i’r holl wneuthurwyr ffilm, i aelodau pob criw a’r holl actorion a enwebwyd. Gweler y rhestr lawn o enwebiadau yma.