Yolanda Lee

portrait photo of yolanda lee

Swyddog Datblygu

Swyddog Datblygu yw Yolanda sy’n cefnogi cronfeydd Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru. Mae hi hefyd yn cadw golwg ar brosiectau ffilmiau nodwedd a byr ar draws y llechen.

Cyn hyn, bu Yolanda yn meithrin prosiectau gyda charfan o wneuthurwyr ffilm amrywiol yn Film London a Script Lab Rhwydwaith y BFI. Roedd hi hefyd yn Swyddog Datblygu gyda Pure Fiction Television lle bu’n golygu sgriptiau ar draws y llechen, ac yn arwain ar y gwaith o ddatblygu prosiectau newydd. Yn Urban Myth Films, bu'n olygydd sgript ar War of the Worlds ar gyfer Disney +, a bu hefyd yn gyfrifol am gyflwyno nifer o brosiectau eraill i'r cwmni.

Fel Golygydd Datblygu yn Sky, bu’n gweithio ar sioeau fel Intergalactic, A Discovery of Witches, The Lazarus Project a The Baby. Cydweithiodd â chwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid i roi bywyd i straeon newydd, a bu’n arwain ar elfennau rhithiol yn ogystal ag unrhyw elfennau VR ategol ar gyfer y cynyrchiadau. Wrth helpu i ddatblygu’r llechen ehangach, roedd Yolanda hefyd yn gyfrifol am y Cynllun ‘Table Read BAME’ er mwyn hyrwyddo lleisiau newydd. Yn ogystal â chomisiynu, datblygu a llwyfannu sgriptiau newydd i’r diwydiant bob mis, datblygodd y cynyrchiadau hyn ymhellach er mwyn eu cyflwyno fel ffilmiau byr. Yna bu’n olygydd sgript ar Boys, y cynhyrchiad cyntaf i Ashley Walters ei gyfarwyddo. Cafodd un o’i ‘Table Reads’, Count Abdulla gan Kaamil Shah, ei darlledu ar ITV. Mae Yolanda hefyd wedi bod yn gyfrifol am gynnal ystafell ysgrifennu i awduron, ar y cŷd â chyn-fyfyrwyr ‘Table Reads’, ar gyfer cyfres wreiddiol i Sky Studios.