Uzma Hasan
Cynhyrchydd ffilmiau yw Uzma. Mae ei ffilm ddiweddaraf, Creature, yn torri tir newydd ac yn chwalu genres. Mae’n gywaith rhwng Asif Kapadia (Amy) sy’n enillydd Gwobr Academy, a’r coreograffydd Akram Khan (Desh) sy’n enillydd Gwobr Olivier.
Mae ei phrosiectau presennol yn cynnwys sioe gerdd gyda Ritesh Batra (The Lunchbox) ac Amazon Studios, ffilm gyfnod chwaraeon gyda’r nofelydd Nikesh Shukla (The Good Immigrant), a ffilm gyffro wedi’i hysbrydoli gan Macbeth a’i gosod rhwng Llundain a Karachi gyda’r dramodydd Rabiah Hussain (Spun). Nesaf bydd yn saethu addasiad o nofel gwlt boblogaidd Gautam Malkani, Londonstani, ar gyfer y BFI yng ngwanwyn 2022. Mae ei ffilmiau blaenorol yn cynnwys Firstborn gan Nirpal Bhogal, a werthwyd i Netflix mewn cytundeb byd-eang, a The Infidel, a ysgogodd sioe gerdd a fersiwn Bollywood, Dharam Sankat Mein.
Yn ogystal â chynhyrchu, mae Uzma yn Gadeirydd y Bush Theatre yn Llundain ac yn ymddiriedolwr Bird’s Eye View, sefydliad nid-er-elw sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn ffilm. Astudiodd Ffilm a Llenyddiaeth yn y Graduate School of Arts and Sciences, Harvard, fel Ysgolor Kennedy.