five people behind the scenes of an indoor television set with filming equipment

Troed yn y Drws: GALWAD yn Gawl Allan

Hoffech chi archwilio gyrfa mewn ffilm a theledu?
Hoffech chi gael eich Troed yn y Drws a gwneud cysylltiadau ardderchog?
Oes gennych chi sgiliau trosglwyddadwy y gallech chi eu defnyddio yn yr adran gelf, 
gwisgoedd, gwallt a cholur, cynhyrchu, cyfrifon neu leoliadau efallai?

foot in the door logo

Mae Rhaglen Troed yn y Drws Ffilm Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Mad as Birds Films a National Theatre Wales i gynnig hyfforddiant ‘Set Ready’ rhad ac am ddim a hyd at 10 lleoliad cysgodi cyffrous ar gynhyrchiad teledu newydd sbon sy’n cael ei ffilmio yng Nghymru ar gyfer GALWAD – prosiect a gomisiynwyd gan Cymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK. 

Bydd GALWAD yn cyfuno theatr safle-benodol, teledu wedi’i ddarlledu, cyfryngau cymdeithasol a digidol i adrodd stori mewn amser real o Gymru i’r byd rhwng 26 Medi a 2 Hydref 2022. Mae’r prosiect yn cael ei gynhyrchu a’i arwain gan Casgliad Cymru, partneriaeth o sefydliadau ac unigolion creadigol a diwylliannol dan arweiniad National Theatre Wales.
 
Os ydych chi dros 18 oed, gallwch chi wneud cais am y cyfle hwn i gael eich Troed yn y Drws. Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer yr hyfforddiant ar y dyddiadau a nodir isod a bod ar gael rhywdro rhwng canol mis Mehefin a diwedd mis Gorffennaf ar gyfer eich lleoliad. (Bydd gennym leoliadau yng Ngogledd a De Cymru).
 
Mae lleoliadau cysgodi yn gyfle i wylio gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant yn gwneud yr hyn mae’n ei wneud orau. Byddwch yn gwylio ac yn dysgu’r hyn mae’r swydd yn ei olygu, a’r tasgau y byddai angen i chi eu gwneud yn y rôl honno. Mae’n ffordd wych o weld a yw’r llwybr yn un iawn i chi! 

Efallai fod gennych sgiliau trosglwyddadwy yn barod yn y meysydd hyn, fel gwaith coed, cymhwyster celf, sgiliau gwnïo, sgiliau technegol neu mewn rôl weinyddol neu gydlynu. Cofiwch ddweud wrthym pa sgiliau sydd gennych ar eich ffurflen gais! Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod pa adran yr hoffech chi ei harchwilio; gallwch ddewis mwy nag un os nad ydych chi’n siŵr a gallwch gysylltu â ni os oes angen help arnoch gyda’ch cais. 

Bydd detholiad o leoliadau cysgodi 3–5 diwrnod ar gael yn yr adrannau canlynol: 

  • Cysgodi’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol
  • Swyddfa Cynhyrchu 
  • Cyfrifon
  • Yr Adran Gelf
  • Gwisgoedd
  • Gwallt a Cholur
  • Camera
  • Goleuo
  • Grip
  • Sain
  • Lleoliadau
  • Ôl-gynhyrchu 

Mae rhagor o wybodaeth am y rolau gwahanol sydd ar gael ym maes Cynhyrchu yma.

black galwad logo on green background

Get Your Foot in the Door

If you are over 18 you can apply for this opportunity to get your Foot in The Door. You will need to be available for the dates stated below for the training and have some availability from mid-June to end of July for your placement. (We will have placements in south and north Wales).
 
Shadow placements are an opportunity to watch an industry professional do what they do best. You will watch and learn while learning what the job involves, and the tasks that you would need to do in that role. It’s a great way to see if the path is the one for you! 

You may have existing transferable skills in these areas already such as carpentry, an art qualification, sewing skills, technical skills or in an administrative or co-ordinator role. Please do let us know what skills you do have in the application! Please don’t worry if you don’t know which department you would like to explore; you can choose more than one if you aren't sure and you can contact us if you need help with your application. 

Available Roles

There will be a selection of 3–5-day shadow placements available in the following departments: 

  • Assistant Director
  • Production Office 
  • Accounts
  • Art Department
  • Costume
  • Hair and Make-up
  • Camera
  • Lighting
  • Grip
  • Sound
  • Locations
  • Post-Production 

You can find out more about the different roles available in Production here.

mad as birds logo

Siaradwch â Ni

Os hoffech chi siarad am y cyfle hwn gydag aelod o dîm GALWAD neu os hoffech chi gael cymorth i wneud cais, anfonwch e-bost at youngco@collective.cymru ac fe wnaiff rhywun ddod i gysylltiad â chi.

Ceisiadau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12.00pm ddydd Llun 23 Mai.  

Os byddai’n well gennych chi anfon fideo yn ateb y cwestiynau hyn, anfonwch e-bost at caroline@ffilmcymruwales.com gyda’r pennawd: FIDEO TROED YN Y DRWS. 

Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddiwrnod recriwtio ar-lein ddydd Mercher 8 Mehefin. 

Bydd y diwrnod recriwtio ar-lein yn gyfle i chi gael dysgu mwy am y cynhyrchiad a chael sgwrs gyda’r tîm. Byddwn hefyd yn cynnal sgyrsiau un-i-un ar-lein er mwyn i ni gael dysgu mwy amdanoch chi, eich sgiliau, eich hobïau, eich dyheadau a’ch rhesymau dros ymgeisio. 

Os byddwn yn eich paru â lleoliad cysgodi, byddwch yn cael gwahoddiad i’r Hyfforddiant 'Set Ready’, a bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer pob un o’r dyddiadau. Byddwch yn cael hyfforddiant, arweiniad, cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim gan arbenigwyr yn y diwydiant i’ch arfogi â’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch cyn i’ch lleoliad cysgodi ddechrau.

Hyfforddiant ‘Set Ready’:  
10.00am-16.00pm- 21, 22 a 23 Mehefin yng Nghaerdydd (lleoliad i’w gadarnhau)

Mae GALWAD a Troed yn y Drws yn agored i bawb. I wneud yn siŵr ein bod yn cael gwared ar unrhyw rwystrau, byddwn bob amser yn gofyn i chi sut gallwn ni addasu ein ffyrdd o weithio neu gyfathrebu i weddu'n well i chi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn.

Efallai y bydd ymgeiswyr hefyd yn cael cymorth ar gyfer teithio, llety, gofal plant a chostau eraill a fydd yn eich helpu i fanteisio ar y cyfle.

Os oes gennych chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd neu ofynion o ran ymgeisio neu fynychu’r digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â’ch cais, anfonwch e-bost at caroline@ffilmcymruwales.com