photo of an audience at chapter arts centre cinema for cardiff animation festival

Cronfa Arddangos Ffilm

‘Rydym yn cefnogi arddangoswyr ffilm annibynnol ledled Cymru er mwyn cynnig profiadau sinematig cyffrous ac ysbrydoledig i gynulleidfaoedd.

Mae’r alwad agored hon yn gwahodd sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm, sinemâu untro a sinemâu cymunedol yng Nghymru i wneud cais am gyllid o’r Gronfa Arddangoswyr Ffilmiau.

Rydyn ni’n chwilio am gynigion arloesol sy’n dod â chynulleidfaoedd Cymru at ei gilydd i fwynhau ffilmiau beiddgar sy’n ysbrydoli ac yn cyffroi. Rydyn ni’n awyddus iawn i gefnogi syniadau sy’n dangos ymrwymiad i’r Gymraeg, cynaliadwyedd amgylcheddol, a chwalu rhwystrau economaidd, ac sy’n ystyried cynulleidfaoedd anabl, cynulleidfaoedd ifanc, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol, a chynulleidfaoedd Du a’r Mwyafrif Byd-eang.

Yn 2024-25, bydd Ffilm Cymru yn gwahodd ceisiadau ar ddau achlysur. 

Pwy all ymgeisio?

Mae’r alwad agored yma ar gyfer y Gronfa Arddangos Ffilm yn gwahodd ceisiadau gan sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm, digwyddiadau un-tro a sinemâu cymunedol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Am faint gai ymgeisio?

Mae'r alwad yn agored i geisiadau o hyd at £15,000, a hyd at 75% o gyfanswm y costau, i gefnogi gweithgaredd fydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o12 mis o ddechrau'r dyfarniad.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer Cronfa Arddangos Ffilm. Mae’r ffurflenni cais ar gael isod. Rhaid cyflwyno pob cais i audience@ffilmcymruwales.com 

Dyddiadau Cau

  • Rownd Un: 8 Gorffennaf 2024
  • Rownd Dau: 4 Tachwedd 2024

Manylion Cyswllt

Caiff y Gronfa Arddangos Ffilmiau ei gweinyddu gan Georgina Morgan (Cydlynydd y Prosiect): georgina@ffilmcymruwales.com