Shane Nickels

portrait photo of shane nickels

Rheolwr Prosiect

Rhagenwau:  Fo / Him

Shane sy’n rheoli’r Tîm Sgiliau a Hyfforddiant, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ddau brosiect, un yn Abertawe a’r llall yng Nghasnewydd, prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin SPF.

Dros y degawd diwethaf, mae Shane wedi gweithio ym meysydd cynhyrchu, gwaith celf drwy brofiadau (experiential), ac ar brosiectau cymunedol sy’n canolbwyntio ar arloesedd, cynhwysiant ac ysbrydoliaeth. Mae ganddo gefndir cyfoethog mewn cydweithio’n greadigol, ac mae’n awyddus iawn i brofi i’r eithaf yr hyn gall technoleg ei gynnig wrth adrodd straeon. Mae’n frwd dros greu rhagor o gyfleoedd i’r lleisiau hynny nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd, a dros feithrin sector ddiwylliannol ddeinamig.

Mae Shane hefyd wrth ei fodd yn gweithio gydag artistiaid a’u datblygu. Mae’n arbennig o awyddus i hyrwyddo lleisiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, ac i weithio tuag at adeiladu sector diwylliannol mwy cynhwysol. Mae’n hoff o gynnwys sy’n berchen ar lais pwerus yn ogystal ag ar weledigaeth arloesol; artistiaid a sefydliadau sy’n mwynhau gweithredu mewn ffyrdd gwahanol drwy gwestiynu’r sefydliad a’r norm. Dechreuodd Sean drwy gynhyrchu gwaith oedd yn canolbwyntio ar ‘ymdrochi’ a ‘chyfranogi’, ond erbyn hyn mae’n gweithio ar amrywiaeth eang o wahanol brosiectau gan gynnwys prosiectau ym myd y theatr, celf ddigidol, ffilm ac opera. Ochr yn ochr â’i yrfa llawrydd, mae Shane yn dysgu Gwaith Byrfyfyr a Dyfeisio yn PCYDDS.