Emily Morus-Jones

Portrait photo of Emily Morus-Jones

Cyd-lynydd Talent 

Rhagenwau: Hi / She / Her

Fel Cyd-lynydd Talent, fy rôl yw cysylltu â thalent ac â gwneuthurwyr ffilm yng nghyswllt ein trefniadau ym maes datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Rwy’n gweithredu fel cyswllt rhwng yr adran gynhyrchu ac asiantaethau talent, gan ysgrifennu cytundebau, rheoli calendrau, a goruchwylio digwyddiadau a phrosiectau, o’r dechrau i’r diwedd, ochr yn ochr â’n Rheolwyr Datblygu Talent.

Mae Emily Morus-Jones yn Gymraes, yn Awdur, yn Gyfarwyddwr, yn gwneud Pypedau ac yn Bypedwarig ei hun, ac wedi gweithio ym myd ffilm, teledu, a theatr yn ogystal â mewn digwyddiadau byw. Dechreuodd Emily berfformio gyda phypedau ar gynhyrchiad y BBC/Sesame Workshop o The Furchester Hotel, a derbyniodd ei hyfforddiant yn y Curious School of Puppetry.

Ers hynny mae wedi perfformio mewn nifer o gynyrchiadau amlwg ac mewn ymgyrchoedd hysbysebu, gan weithio gyda nifer o gleientiaid enwog fel Coldplay, Ed Sheeran, Calvin Harris & Dua Lipa, Iron Maiden, Jam Baxter & Rag’N’Bone Man. Mae hefyd wedi chwarae rhan mewn sioeau ar gyfer CBBC, Sky1, Channel 4, Netflix, ac ITV. 

Cafodd ei ffilm fer gyntaf, Diomysus: More than Monogamy, ei ariannu fel rhan o Ffolio, cynllun Ffilm Cymru Wales / BBC Cymru ar gyfer pobl oedd am wneud ffilm am y tro cyntaf. Fe’i dangoswyd ar BBC3, Filmfour a Channel 4, gan ennill 12 gwobr rhyngwladol, a’i henwebu ar gyfer Breakthrough BAFTA yng ngwobrau BAFTA Cymru 2023.

Mae Emily yn credu’n gryf bod defnyddio creaduriaid, pypedau, bwystfilod, ac FX ymarferol yn hynod werthfawr wrth adrodd straeon mewn ffilm, ac mae wedi ymrwymo i greu bydoedd newydd a chyffrous er mwyn egluro’r cyflwr dynol yn well.