five people behind the scenes of an indoor television set with filming equipment

O Gasnewydd i Netflix: Gwahodd trigolion lleol i roi eu Troed yn y Drws drwy gael swydd ar gyfres newydd

Yr haf yma, bydd un o gyfresi poblogaidd Netflix yn cael ei ffilmio yn ne Cymru, ac mae rhaglen Troed yn y Drws, Ffilm Cymru, yn cynnig cyfleoedd i bobl leol fod yn rhan o’r cynhyrchiad.

foot in the door logo

Mae trigolion Casnewydd sydd â sgiliau gwaith saer, gweinyddol, trin gwallt, coluro, adeiladu a mwy yn cael eu gwahodd i wneud cais am leoliad hyfforddi sy’n cynnig tri diwrnod o hyfforddiant am ddim i fod yn ‘barod i’r set’, sy’n cael ei ddarparu gan Sgil Cymru, pedair wythnos o brofiad gwaith ar y set, bwrsariaethau i helpu gyda theithio, gofal plant a chostau eraill, ac mae’n talu o leiaf y cyflog byw. Efallai y bydd rhai cyfleoedd i gael eich cyflogi fel aelod amser llawn o’r criw hyd at fis Chwefror 2023.

Dywedodd Faye Hannah, Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant Ffilm Cymru Wales: “Rydym yn gwybod bod creadigrwydd yn ganolog i gymunedau Casnewydd. Am y tro cyntaf, mae consortiwm partneriaid Troed yn y Drws, dan arweiniad Ffilm Cymru Wales, yn falch iawn i gyflwyno 300 o gyfleoedd ym maes ffilm a theledu i’r ddinas ac maen nhw wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau bod y cyfleoedd yma’n agored i bawb.”

Troed yn y Drws yw rhaglen hyfforddi lwyddiannus Ffilm Cymru sy’n cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy i greu gyrfaoedd creadigol. Gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys cymdeithasau tai, canolfannau gwaith ac awdurdodau lleol, mae Troed yn y Drws yn darparu lleoliadau hyfforddi i newydd ddyfodiaid ar gynyrchiadau ffilm a theledu, yn ogystal â chymorth o ran hygyrchedd, teithio a gofal plant.

Mae gofyn i unrhyw un sydd dros 18 oed sy’n byw yn ardal Casnewydd ac sy’n dymuno bod yn rhan o’r cyfle hwn drwy Troed yn y Drws wneud cais drwy wefan Ffilm Cymru. 

I gael cyngor ac arweiniad gyda’r ceisiadau, dylai’r trigolion gysylltu â lottie@ffilmcymruwales.com

Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau yw hanner dydd, dydd Llun 6 Mehefin 2022.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

uk government wales logo
newport city council logo