five people on an interior film set

Troed yn y Drws: Casnewydd – Cyfres Netflix

Ydych chi’n edrych am gyfle i symud eich sgiliau i mewn i yrfa greadigol? Rhowch eich Troed yn y Drws yn y diwydiant ffilm a theledu gyda lleoliadau hyfforddi ar gyfres Netflix sy’n cael ei ffilmio yng Nghymru.

foot in the door logo

Rhowch eich Troed yn y Drws

Troed yn y Drws yw rhaglen hyfforddiant lwyddiannus Ffilm Cymru sy’n cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy i greu gyrfaoedd creadigol. Drwy weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys cymdeithasau tai, canolfannau gwaith ac awdurdodau lleol, mae Troed yn y Drws yn darparu lleoliadau hyfforddi i newydd-ddyfodiaid ar gynyrchiadau ffilm a theledu lleol, yn ogystal â chymorth ar gyfer hygyrchedd, teithio a gofal plant.

Yr haf yma, bydd un o gyfresi Netflix yn cael ei ffilmio yn ne Cymru ac mae Troed yn y Drws yn cynnig y cyfle i chi fod yn rhan o’r cynhyrchiad.

Bachu ar y cyfle

Os ydych chi dros 18 oed ac yn byw yng Nghasnewydd, fe allwch chi wneud cais am y cynnig hwn drwy gynllun Troed yn y Drws, a fydd yn rhoi’r canlynol i chi:

  • Tri diwrnod o hyfforddiant am ddim i fod yn ‘barod i’r set’
  • Pedair wythnos o brofiad gwaith â thâl ar y set, gan dderbyn o leiaf y cyflog byw 
  • Bwrsariaethau ar gael i helpu gyda theithio, gofal plant ac unrhyw gostau ychwanegol a allai godi 
  • Yr hyder a’r cysylltiadau i gychwyn ar yrfa mewn ffilm a theledu a thu hwnt. 

Os oes gennych chi sgiliau mewn gwaith saer, gwaith gweinyddol, gwallt a cholur neu ragor, gallai fod lle i chi ar y cynhyrchiad, a bydd lleoliadau hyfforddi ar gael yn yr adrannau yma: 

  • Cyfrifon
  • Yr Adran Gelf
  • Camerâu
  • Gwaith Saer
  • Adeiladu
  • Gwisgoedd
  • Gwallt a Cholur
  • Cynhyrchu
  • Sain

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Llun 6ed Mehefin 2022.

Rydym yn derbyn ceisiadau fideo a gallwn gynnig cymorth gyda’r ceisiadau. 

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â lottie@ffilmcymruwales.com yn Saesneg a Siobhan@ffilmcymruwales.com yng Nghymraeg

Dyddiadau 

Dyddiad cau: dydd Llun 6ed Mehefin 2022 (hanner dydd)
Diwrnod recriwtio o weithgarwch a chyfweliadau anffurfiol gydag ymgeiswyr y rhestr fer: dydd Mawrth 14eg Mehefin 2022
Hyfforddiant ‘parod i’r set’: wythnos yn cychwyn 20fed Mehefin 
Lleoliadau ar y set: O fis Gorffennaf ymlaen 

Gallai fod rhai cyfleoedd i gael eich cyflogi fel aelod amser llawn o’r criw hyd at fis Chwefror 2023.

Cronfa Adfywio Gymunedol y DU

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn un o raglenni Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cynorthwyo pobl a chymunedau mwyaf eu hangen yn y DU i beilota rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, yn y gymuned ac mewn lleoedd, ac mewn busnesau lleol, ac yn cynorthwyo pobl i mewn i waith. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch fan yma.

uk government wales logo
newport city council logo