people sitting in rows in a room watching a panel discussion. the walls are black and there is a window behind the audience

Mae Troed yn y Drws Casnewydd yn cyflwyno Cysylltiadau Creadigol

9th May 2024, 5:30

Mae hwn yn ddigwyddiad i bobl 18 oed a hŷn sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd ac sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am rolau y tu ôl i'r llenni yn y diwydiannau creadigol, i wneud cysylltiadau newydd â gweithwyr creadigol sy'n gweithio yn y diwydiant yng Nghasnewydd a thu hwnt. 

  • Cewch glywed gan weithwyr creadigol lleol a sut y datblygodd eu gyrfaoedd creadigol.
  • Dysgwch fwy am ba gyfleoedd creadigol sydd ar gael yn lleol.
  • Datblygwch eich rhwydwaith yn y diwydiant creadigol yn lleol.
  • Rhowch  

Ble?

Sip Café @ Marchnad Casnewydd, High St, Newport, NP20 1FX

Gwybodaeth am y digwyddiad

Rhaid i chi fod yn 18 oed ac yn byw NEU’N gweithio yng Nghasnewydd i fod yn gymwys i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.

  • Dysgwch sut y daeth gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant creadigol i mewn i'w rolau, a sut maen nhw wedi llywio eu gyrfaoedd - o ddechrau arni i weithio ar eu liwt eu hunain. 
  • Dysgwch pa sgiliau trosglwyddadwy maen nhw wedi'u defnyddio i symud ymlaen yn eu rolau a sut mae hyn wedi eu helpu i ddatblygu eu gyrfa. 
  • Cewch rwydweithio gydag amrywiaeth o bobl greadigol yng Nghymru. 

Bydd hyn hefyd yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am raglen Troed yn y Drws: Casnewydd, a'r gwahanol gyrsiau a hyfforddiant sydd ar gael yn 2024.

5.30pm - Drysau’n agor (diodydd ar gael o'r bar) 
6.00pm - Cyflwyniadau a Chroeso- Ffilm Cymru Wales
6.15pm - Sgwrs gyda gweithwyr creadigol o Gasnewydd 
7.00pm - Gweithgareddau 'dweud eich dweud.'
7.30pm - Bwyd a chyfle i rwydweithio
8.30pm - Digwyddiad yn dod i ben 

Mae’r digwyddiad hwn yn bosibl drwy gefnogaeth Gyngor Casnewydd a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar draws y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

spf newport logos