a family enjoying the cinema

Cronfa Arddangos Ffilm

Mae Ffilm Cymru yn awyddus i bob math o bobl mewn pob math o lefydd ym mhob cwr o Gymru gael gwylio ffilmiau annibynnol gyda’i gilydd. ‘Rydym yn cefnogi arddangoswyr ffilm annibynnol ledled Cymru er mwyn cynnig profiadau sinematig cyffrous ac ysbrydoledig i gynulleidfaoedd.

Mae’r alwad agored hon yn gwahodd sinemâu annibynnol, gwyliau ffilm, sinemâu untro a sinemâu cymunedol yng Nghymru i wneud cais am gyllid o’r Gronfa Arddangoswyr Ffilmiau.

Gan lynnu at ein hymrwymiad i gefnogi arloesedd, cynhwysedd ac arferion cynaliadwy, bydd y gronfa hon yn cefnogi arddangoswyr i gynnal a datblygu eu gwaith mewn sector sy’n esblygu, gan weithio mewn ffyrdd newydd a chysylltu â chynulleidfaoedd a’u cymunedau ehangach drwy ffilm.

Yn 2023-24, bydd Ffilm Cymru’n gwahodd ceisiadau ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn. 

Pwy all ymgeisio?

Sinemâu annibynnol a chanolfannau celfyddydol, gwyliau a chymdeithasau ffilm, digwyddiadau sinema unigol (pop-up) a’r rhai sy’n dangos ffilmiau yn y gymuned.

Am faint gai ymgeisio?

Hyd at 75% o’r gost gyflawn, hyd at uchafswm o £20,000.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer Cronfa Arddangos Ffilm. Rhaid i bob ymgeisydd archebu lle mewn cyfarfod ‘Datganiad o Ddiddordeb’ cyn ymgeisio. Gellir gwneud hynny yma.

Dyddiadau Cau

  • Rownd Un: 3 Gorffennaf 2023
  • Rownd Dau: 2 Tachwedd 2023

Anghenion Mynediad

I ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion B/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu’n bobl niwroamrywiol, a phobl sydd â nam ar eu golwg, mae rhagor o gefnogaeth ar gael er mwyn cwblhau cais. Er enghraifft, gallwn gyflenwi costau dehonglwr BSL er mwyn i chi cynnal cyfarfod gyda ni cyn i chi wneud cais, neu gynnig cefnogaeth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig. Sylwch na allwn gyflenwi costau ble mae cyllid arall eisoes ar gael e.e. cefnogaeth Mynediad i Waith. Ni allwn chwaith gyflenwi costau prynu caledwedd neu feddalwedd.  

I’r rheiny sydd ag angion mynediad, gallwn hefyd dderbyn ffurflenni cais drwy’r post, neu atebion mewn fformatau amgen fel fideo byr neu ddec sleidiau. Dylid cytuno ar y fformat gyda ein tîm cyn cyflwyno’r cais.  

Cysylltwch â Nicola Munday, Rheolwr Cynulleidfa & Addysg Ffilm Cymru, gan ddefnyddio’r manylion isod er mwyn trafod eich anghenion cyn i chi wneud eich cais.  

Manylion Cyswllt

Mae’r Cronfa Arddangoswyr Ffilmiau yn cael ei rheoli gan adran Cynulleidfa & Addysg Ffilm Cymru.   

Nicola Munday
Rheolwr Cynulleidfa & Addysg
nicola@ffilmcymruwales.com

Canllawiau

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyllid ar gyfer Arddangos Ffilm darllenwch y canllawiau.